大象传媒

Ailenwi adeilad S4C yn y Sioe er cof am Dai Llanilar

Disgrifiad,

Yr Athro Wynne Jones, cadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr CAFC, fu'n cofio Dai Jones ar faes y Sioe Frenhinol

  • Cyhoeddwyd

Mae canolfan S4C ar faes y Sioe Frenhinol wedi cael ei ailenwi er cof am Dai Jones Llanilar mewn digwyddiad fore Mawrth.

Corlan Dai Llanilar yw'r enw newydd ar adeilad S4C, ac fe gafodd llechen ei dadorchuddio ar furiau'r adeilad.

Mae'r llechen - a gafodd ei gyflwyno gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, a hynny ym mlwyddyn Sir Nawdd Ceredigion - yn cyfeirio at Dai Jones fel "Ffarmwr, Darlledwr, Gwladgarwr".

Bu farw Dai Jones yn 78 oed ym mis Mawrth 2022.

Roedd yn wyneb cyfarwydd ar y sianel am flynyddoedd, ac yn fwyaf adnabyddus fel cyflwynydd y gyfres Cefn Gwlad.

Bu hefyd yn cael ei gofio am gyflwyno sawl raglen radio, fel canwr talentog a ffermwr.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Corlan Dai Llanilar yw enw newydd adeilad S4C yn y Sioe Frenhinol

Yn dilyn dadorchuddio'r llechen, cafodd derbyniad ei gynnal ar y maes.

Yn ystod y derbyniad, fe wnaeth gwasg Y Lolfa lansio cyfrol Cofio Dai, sef casgliad o ysgrifau gan y bobl oedd yn ei adnabod orau.

Roedd golygydd y gyfrol, Beti Griffiths, yn ffrind agos i Dai a鈥檌 weddw, Olwen.

'Un o fawrion y genedl'

Dywedodd Sioned Wiliam, prif weithredwr dros dro S4C: 鈥淢ae鈥檙 penderfyniad i alw adeilad S4C ar faes Sioe Frenhinol Cymru yn Corlan Dai Llanilar wedi bod yn un rhwydd a naturiol iawn i鈥檞 gwneud.

鈥淩oedd Dai Jones yn un o hoelion wyth y byd darlledu Cymraeg, a鈥檌 afiaith dros y Gymraeg, darlledu Cymraeg ac hefyd dros gefn gwlad Cymru yn heintus.

鈥淩ydym yn falch iawn fel S4C ein bod yn gallu coffau鈥檙 g诺r arbennig ac unigryw hwn mewn ffordd arbennig.鈥

Ychwanegodd Aled Rhys Jones, prif weithredwr Sioe Frenhinol Cymru ei fod yn "fraint i ni ddadorchuddio cofeb barhaol am un o fawrion y genedl" gan ychwanegu "rydym yn cofio gyda gwen ar ein hwynebau am un o gewri cefn gwlad Cymru yr wythnos hon".

Cafodd llechen arall ei dadorchuddio yn y digwyddiad hefyd, sy'n cynnwys yr englyn isod gan y bardd Tudur Dylan Jones:

Dai鈥檙 ardal hyd y dalar, - Dai 芒鈥檌 lais

Hyd y wlad, Dai鈥檙 cymar,

Dai frenin ei werin w芒r.

Llawn o hwyl yw Llanilar.

Pynciau cysylltiedig