大象传媒

Sgwrsio yn Gymraeg yn y sawna

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Dani Schlick a Sawna Bach
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dani Schlick a Sawna Bach

Mae Almaenes sy鈥檔 byw yn Sir F么n yn ymarfer ei Chymraeg yn y sawna lleol.

Daeth y sawna yn boblogaidd yn Yr Almaen ar 么l yr Ail Ryfel Byd.

Yn 么l Dani Schlick, mae mynd i鈥檙 sawna 鈥測n rhywbeth hollol gyffredin a chymdeithasol yn Yr Almaen鈥.

Ers symud i Gymru, mae Dani yn ymarfer ei Chymraeg yn y sawna ar draeth Tyn Tywyn.

Sesiynau Cymraeg yn y sawna

Dywedodd Dani wrth Aled Hughes ar 大象传媒 Radio Cymru:

鈥淵n Yr Almaen mae mynd i鈥檙 sawna yn rhywbeth mae pobl yn ei wneud i gadw鈥檔 iach, mae鈥檔 gwneud lles iddyn nhw.

鈥淢补别鈥档 gymdeithasol hefyd, mae pobl o bob cefndir, o bob oedran yn mynd i鈥檙 sawna ac yn mwynhau yno.鈥

Ffynhonnell y llun, Dani Schlick
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dani Schlick

Sut wnaeth Dani ddechrau ymarfer ei Chymraeg yn Sawna Bach ar draeth Tyn Tywyn?

鈥淩o鈥檔 i鈥檔 colli mynd i鈥檙 sawna ac o鈥檔 i鈥檔 sgwrsio efo Almaenes arall sydd, digwydd bod, yn byw drws nesaf i fi.

鈥淩oedd hi鈥檔 cytuno bod angen sawna yma felly mi wnaeth hi a dau ffrind agor Sawna Bach.鈥

鈥淢aen nhw wedi cychwyn sesiynau sgwrs, i bobl gael sgwrs Gymraeg yn y sawna.

鈥淒ych chi鈥檔 cael siarad Cymraeg yn y dafarn, yn y caffi, yn y siop鈥 mae yna gyfle i sgwrsio yn Gymraeg yn y sawna hefyd!"

Ydy chwysu a sgwrsio yn y sawna yn anodd?

鈥淣ac ydy, mae pobl yn dewis dod. Mae pobl yn licio profi rhywbeth newydd a鈥檌 brofi yn Gymraeg.

鈥淒oes neb yn beirniadu, mae鈥檔 ofod saff.

鈥淢ae pobl yn dod yno i siarad Cymraeg ac mae mynd i鈥檙 m么r a rhedeg dros y twyni tywod yn fr锚c naturiol.

鈥淕allwch chi wneud hynny yn y Gymraeg hefyd. Mae鈥檔 awyrgylch hollol naturiol.鈥

Yn 么l Dani, mae mynd i鈥檙 sawna yn dda i鈥檞 hiechyd hefyd:

鈥淢补别鈥档 cryfhau鈥檙 system imiwnedd, dw i鈥檔 llai tebygol o gael annwyd ar 么l bod yn y sawna.

鈥淢补别鈥档 gwneud lles i fod ym myd natur.

"Dw i wrth fy modd yn mynd i鈥檙 m么r hefyd. Mae鈥檔 gwneud lles i鈥檙 corff a鈥檙 meddwl.鈥

Y sawna a diwylliant Cymru

Ffynhonnell y llun, Dani Schlick/SawnaBach
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dani Schlick

Ar hyn o bryd mae Dani'n mynd i鈥檙 sawna unwaith neu ddwywaith y mis.

Mae hi鈥檔 gobeithio y bydd y sawna yn dod yn fwy poblogaidd yng Nghymru, fel y mae yn Yr Almaen:

鈥淏yddwn i wrth fy modd yn gweld hyn yn dod yn rhan o ddiwylliant Cymru.

鈥淢补别鈥档 neis gweld bod mwy o bobl isio mynd i鈥檙 sawna a bod mwy o sawnas yn agor ar draws y wlad.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sawna

Geirfa

Almaenes/German-woman

poblogaidd/popular

Ail Ryfel Byd/Second World War

cymdeithasol/social

gwneud lles/beneficial

cefndir/background

digwydd bod/as it happens/as a matter of fact

chwysu/sweat

profi/experience

beirniadu/judge

gofod saff/safe space

twyni tywod/sand dunes

awyrgylch/atmosphere

cryfhau/strengthen

llai tebygol/less likely

diwylliant/culture

Pynciau cysylltiedig