大象传媒

'Crio a chuddio dan y bwrdd cyn mynd i'r ysgol'

DisgyblFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Roedd merch 16 oed o Wynedd yn cuddio dan fwrdd y gegin ac yn cloi ei hun yn ei hystafell wely wrth gael pyliau o orbryder cyn mynd i鈥檙 ysgol.

Fe wnaeth Elsi, nid ei henw iawn, ddechrau hunan-niweidio ar 么l i鈥檞 gorbryder cymdeithasol dyfu'n broblem gynyddol.

Dywedodd un pennaeth ysgol o Abertawe fod staff yn gyrru i gartrefi disgyblion er mwyn ceisio eu denu鈥檔 么l i鈥檙 ysgol.

Dywedodd gweinidog addysg Cymru nad oes ateb syml ond bod mynd i鈥檙 ysgol yn 鈥渁llweddol鈥 ar gyfer iechyd meddwl plant.

Mae ffigyrau鈥檔 dangos i 40% o ddisgyblion uwchradd Cymru golli, ar gyfartaledd, gwerth prynhawn o ysgol yr wythnos y llynedd.

Mae nifer yn profi problemau iechyd meddwl sy鈥檔 dod dan faner Osgoi Ysgol am Resymau Emosiynol (EBSA).

'Plant yn gweiddi a sgrechian'

Yn 么l mam Elsi, Fflur, oedd hefyd yn awyddus i beidio a datgelu ei henw iawn, roedd ei merch yn cael pyliau gwael o orbryder cyn mynd i鈥檙 ysgol.

鈥溾楽a hi鈥檔 cuddio dan byrddau yn y t欧, o'n ni鈥檔 gorfod dragio hi allan, dechra' mynd yn reit violent, crio, crynu drosta鈥 i,鈥 dywedodd.

鈥淥鈥檇诲 just mynd i fewn i鈥檙 ysgol, clywed y plant yn gweiddi a sgrechian, chwara鈥, o鈥檇d ei chalon hi鈥檔 mynd.

鈥淥鈥檇诲 hi just yn ca鈥檒 y panic attacks 鈥榤a ac anxiety. O鈥檇d o鈥檔 afiach i weld.

鈥溾橬a鈥檛h Covid hitio. Tri mis off. A鈥檛h hi鈥檓 yn 么l yna wedyn.鈥

Fe waethygodd y sefyllfa i鈥檙 teulu pan ddechreuodd Elsi hunan-niweidio a dywedodd ei mam iddi gael meddyliau tywyll ynghylch hunanladdiad.

鈥淥鈥檇诲 鈥榥a ddau amser lle o鈥檔 ni鈥檔 goro鈥 mynd 芒 hi i 鈥榮byty,鈥 dywedodd Fflur.

鈥淥鈥檇诲 hi鈥檓 isio fo i ddigwydd. Ond dwi鈥檔 meddwl o鈥檇d hi鈥檔 teimlo o鈥檇d dim byd arall o鈥檇d hi鈥檔 medru 鈥榥eud. Hwnna o鈥檇d last resort 丑颈.鈥

Fe gafodd Elsi gymorth iechyd meddwl a meddyginiaeth.

Mae'n dal i aros yn y t欧 ond yn gobeithio dechrau ar waith coleg ym mis Medi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Simon Davies, pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe, yn dweud bod staff yn gorfod mynd i gartrefi disgyblion

Mae absenoldeb parhaus yng Nghymru nawr yn cael ei ddiffinio fel y rheiny sy鈥檔 colli 10% o seisynau ysgol.

Fis Mawrth, rooedd ffigyrau ar gyfer ysgolion uwchradd yn dangos i 40% o ddisgyblion fod yn absennol yn gyson yn 2022-23, o鈥檌 gymharu ag 17% yn 2018-19.

Staff yn mynd i gartrefi disgyblion

Er i鈥檙 ffigyrau misol diweddar ddangos rhywfaint o gynnydd, mae鈥檙 sefyllfa鈥檔 ddifrifol yn 么l un pennaeth ysgol yn Abertawe.

鈥淣i wedi gorfod, fi鈥檔 si诺r fel mae nifer o ysgolion eraill, lle mae ein staff ni, arweinwyr dysgu, swyddogion bugeiliol wedi gorfod mynd mas i gartrefi disgyblion er mwyn eu hannog nhw i ddod n么l mewn,鈥 dywedodd Simon Davies, pennaeth Ysgol Gymraeg Bryntawe.

鈥淵n aml mae鈥檙 rhesymau yn cael eu cysylltu gydag anawsterau iechyd meddwl, problemau emosiynol.

鈥淏eth ni wedi gweld yw fwy ohonyn nhw a mae rheina yn bethau cymhleth tu hwnt i鈥檞 datrys. Mae e鈥檔 bryder felly.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mark Bridgens yn rhybuddio am argyfwng ar y gorwel

Dywedodd y pennaeth cynorthwyol, Mark Bridgens, sy鈥檔 gyfrifol am lesiant yn yr ysgol, fod athrawon wedi gorfod dod yn 鈥渁rbenigwyr iechyd meddwl鈥.

鈥淢补别鈥檙 trend diweddar, mae pethau鈥檔 gwaethygu. Mae鈥檙 her yn cynyddu. Mae 鈥榥a risg bod creisis ar y gorwel os nad yw pethau鈥檔 gwella,鈥 dywedodd.

鈥淐hi mo鈥檡n 鈥榥eud yn si诺r bo鈥 nhw鈥檔 ddiogel. Chi mo鈥檡n gwirio eu lles nhw a sut ma鈥 nhw.鈥

Mae arbenigwyr yn rhybuddio am effaith hir-dymor colli cyfnodau hir o ysgol ar ddyfodol plant a phobl ifanc.

鈥淢a 鈥榥a ystadegau鈥檔 dangos fod plant sy鈥 鈥榙i profi EBSA yn fwy tebygol o fod yn blant sy鈥 ddim mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth ar 么l gadael yr ysgol,鈥 dywedodd Elenid Glyn, dirprwy brif seicolegydd addysgol Cyngor Gwynedd.

鈥淢ae o鈥檔 bellgyrhaeddol, yr effaith ar ein pobl ifanc ni.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ysgrifennydd addysg cabinet Llywodraeth Cymru, Lynne Neagle AS, yn dweud bod presenoldeb yn flaenoriaeth iddi

Dywedodd ysgrifennydd cabinet Llywodraeth Cymru dros addysg, Lynne Neagle, ei bod yn cadeirio tasglu i geisio mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 broblem.

鈥淒wi鈥檔 bryderus iawn am bresenoldeb. Mae鈥檔 anodd dod o hyd i ateb syml yn y maes hwn ond mae cymorth iechyd meddwl mewn ysgolion yn rhan fawr o鈥檙 datrysiad.

鈥淢ae gan bob disgybl yr hawl i gael mynediad at gwnsela o flwyddyn 6 ymlaen yng Nghymru. Rydym yn ariannu hyfforddiant i athrawon a staff ysgolion fel eu bod nhw鈥檔 gallu cefnogi disgyblion yn well ac mae gennym wasanaethau iechyd meddwl i blant.鈥

Fe wnaeth Tom Giffard AS, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, gyhuddo'r llywodraeth Lafur o 鈥渂eidio a chael cynlluniau i fynd i鈥檙 afael ag absenoldebau cynyddol yng Nghymru鈥.

"Rhaid i argymhellion unrhyw dasglu gael eu gweithredu ar fyrder," meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru, "neu fe fydd Llafur yn parhau i fethu ein plant."

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael cais i wneud sylw.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y 大象传媒.