大象传媒

Achub dyn o gwch ar d芒n oddi ar arfordir Sir Benfro

Criw bad achub yn tynnu at y gwchFfynhonnell y llun, RNLI Dinbych-y-Pysgod
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei achub o gwch hwylio oedd ar d芒n oddi ar arfordir Sir Benfro.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig ar 么l 19:00 nos Sadwrn wedi i aelod o'r cyhoedd weld mwg yn y pellter o'r lan m么r yn Ystagbwll.

Wrth fynd o amgylch Ynys Farged fe welodd gwirfoddolwyr bad achub Dinbych-y-Pysgod fwg ar y gorwel tua 12 milltir i'r de.

Wrth gyrraedd fe welson nhw gwch hwyliau 35 troedfedd o hyd oedd bron wedi ei difrodi'n llwyr gan d芒n.

Ffynhonnell y llun, RNLI Dinbych-y-Pysgod

Bu'n rhaid achub dyn oedd yn cael trafferth i aros ar wyneb yn y d诺r.

Cafodd ei gludo i harbwr Dinbych-y-Pysgod ble roedd criwiau ambiwlans yn aros i ofalu amdano.

Yn 么l yr RNLI, doedd y claf ddim mewn sefyllfa i gadarnhau a oedd unrhyw un arall wedi bod ar fwrdd y cwch.

Ffynhonnell y llun, RNLI Dinbych-y-Pysgod
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y fflamau wedi achosi difrod mawr i'r gwch

Fe ddychwelodd y bad achub i'r ardal i gynnal archwiliad gyda chymorth bad achub Angle a hofrenyddion Gwylwyr y Glannau o Sain Tathan a Newquay yng Nghernyw.

Er m么r garw a glaw trwm, fe chwiliodd y criwiau am rai oriau cyn rhoi gorau arni gan fod neb wedi eu cofnodi fel person ar goll, a dychwelyd i'r orsaf tua 01:00 fore Sul.

Dywedodd llefarydd bod gorsaf d芒n Dinbych-y-Pysgod hefyd wedi rhoi cymorth, dan ddisgrifio'r digwyddiad fel un "cymhleth".