大象传媒

Aduniad efo reslar wnaeth ddianc o Iran ac sy'n dad nawr i seren rygbi

Dan Huws a Hedi NavidiFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dan Huws a Hedy Navidi yn cyfarfod am y tro cyntaf ers 40 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae dau frawd ddaeth yn ffrindiau gyda reslar wnaeth ddianc o Iran yn y 70au wedi ei gyfarfod am y tro cyntaf ers 40 mlynedd diolch i'w fab sy'n seren rygbi Cymru.

Plant ysgol gynradd oedd Dan a Steff Huws ar ddiwedd yr 1970au a dechrau'r 80au, a鈥檜 rhieni yn arfer rhoi llety i bobl o dramor yn eu cartref ym Mhontypridd.

Ond o bawb ddaeth atyn nhw roedd un g诺r yn sefyll allan - Hedy Navidi, oedd tua 20 oed ar y pryd. Roedd ei dad wedi ei yrru i Lundain gan fod ei fywyd mewn perygl oherwydd chwyldro Islamaidd yr Ayatollah Khomeini yn 1979.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hedy Navidi yn disgwyl i gyfarfod 芒'r brodyr ar raglen S4C Gwesty Aduniad

Gan nad oedd o'n gallu setlo yn y ddinas aeth Hedy am drip i Fangor a synnu bod dieithriaid yn yr orsaf drenau yn ei gyfarch - ac aeth o ddim yn ei 么l.

Fe wellodd ei Saesneg, gwneud ei Lefel A yng Ngholeg Menai a mynd yn ei flaen i astudio yn y Brifysgol a chyfarfod ei ddarpar wraig Euros, o Ynys M么n. Ond roedd yn rhaid iddo dreulio cyfnod yn Ne Cymru ac yntau鈥檔 adnabod neb yno.

Yn ffodus iddo fo, roedd mam un o鈥檌 ffrindiau pennaf yn fydwraig, ac wedi aros yn ffrindiau efo mam oedd hi wedi helpu i eni babi flynyddoedd ynghynt, ond bellach wedi symud o Fangor i Bontypridd.

Y babi hwnnw oedd Dan, oedd tua 10 oed erbyn hynny, ac fe gytunodd ei rieni i roi llety i Hedy tan roedd o鈥檔 ffeindio ei draed.

Meddai Dan wrth Cymru Fyw: 鈥淩oedd Mam yn rili poeni am y peth - i gael y person yma o Iran, ac oedd yn Fwslim, yng nghanol y chwyldro a鈥檙 holl stwff roedden nhw鈥檔 weld ar y newyddion.

Ffynhonnell y llun, Alain Dejean/Getty
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Credir bod rhwng 2,000 a 3,000 o bobl wedi eu lladd yn chwyldro Iran yn 1979

鈥淥nd wrth gwrs doedd dim rhaid poeni o gwbl a wnaeth o jest ffitio i mewn i鈥檙 teulu.

"Doedd dim rhaid iddo fo wneud hynny achos roedd ganddo ni d欧 mawr, tri llawr, ond wnaeth o daflu ei hun i鈥檙 bywyd teuluol, yn bwyta efo ni a helpu mam a dad efo peintio鈥檙 t欧 ac ati.

鈥淩oedd o鈥檔 andros o gymeriad ac yn llawn hwyl.鈥

Yn 么l Dan roedd o鈥檔 arfer chwarae o gwmpas efo fo a鈥檌 frawd, yn dysgu symudiadau reslo iddyn nhw a鈥檜 rhoi nhw mewn headlocks. Ond ar 么l ychydig fisoedd fe adawodd Hedy a chollwyd cysylltiad am ddegawdau.

Yna bedair blynedd yn 么l roedd Dan yn darllen cyfweliad ar y we gyda'r seren rygbi Josh Navidi, oedd ar y pryd yn nh卯m rygbi Cymru. Roedd yn son am ddylanwad ei dad, oedd wedi reslo ar lefel uchel, ac oedd yn wreiddiol o Iran. Ei enw oedd Hedy.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Josh Navidi, fu'n chwarae i Gaerdydd am 13 mlynedd, ennill 33 cap dros Gymru a theithio efo'r Llewod yn 2021 cyn iddo ymddeol yn 2023

Eglurodd Dan: 鈥淣eshi ffonio Mam i holi be鈥 oedd enw llawn Hedy - a doedd hi ddim yn cofio. Ond does 'na鈥檓 llawer o reslars, sy鈥檔 dod o Iran, o鈥檙 enw Hedy ac yn byw yng Nghymru, felly roedda ni鈥檔 meddwl mae鈥檔 rhaid bod o yr un boi!鈥

Fe wnaeth brawd Dan, Steff - sy鈥檔 berchen cwmni Poblado Coffi yn Nyffryn Nantlle - adrodd y stori pan oedd yn westai ar raglen Beti a鈥檌 Phobol. Soniodd faint o ddylanwad gafodd cyfarfod tramorwyr fel Hedy ar ei awydd i deithio鈥檙 byd, gan arwain yn y pendraw at sefydlu ei gwmni - ac y byddai wrth ei fodd ei gyfarfod o eto.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Steff, Dan a Hedy yn dal i fyny ar Gwesty Aduniad

Ymchwiliodd rhaglen S4C Gwesty Aduniad a threfnu鈥檙 cyfarfod cyntaf ers 40 mlynedd rhwng Hedy, Steff a Dan. Fe gafodd y brodyr gyfle i ddeall mwy yngl欧n 芒 pham ddaeth o i Gymru ac aros - ac un o鈥檙 prif resymau oedd y croeso cynnes oedd o wedi ei gael gan y teulu ym Mhontypridd a鈥檙 Cymry eraill oedd o wedi ei gyfarfod.

Meddai Dan am y profiad: 鈥淩oedd o鈥檔 ffantastig, nes i fwynhau o鈥檔 fawr ond roedd o yn lot fwy emosiynol nag oeddwn i鈥檔 disgwyl, yn mynd a ni yn 么l i pan oedden ni鈥檔 fychan ac i gyd efo鈥檔 gilydd, a nhad yn dal yn fyw. Mynd a ni yn 么l i gyfnod hapus.鈥

A does 'na鈥檓 peryg y byddan nhw鈥檔 colli cysylltiad eto. Ers y ffilmio mae Hedy cyfarfod mam Dan a鈥檙 fydwraig wnaeth helpu鈥檙 ddau yr holl flynyddoedd yn 么l.