大象传媒

Gwyddonydd o'r gogledd ar restr nodedig Forbes

Disgrifiad,

Bu Dr Sioned F么n Jones yn s么n mwy am ei gwaith ar Dros Frecwast fore Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae gwyddonydd o Gymru wedi cael ei chynnwys ar restr cylchgrawn Forbes o'r bobl fwyaf dylanwadol o dan 30 oed ym maes gwyddoniaeth a busnes drwy Ewrop.

Mae Dr Sioned F么n Jones, 29, wedi sefydlu cwmni BoobyBiome, sy'n datblygu cynnyrch sy'n efelychu'r bacteria da sydd mewn llaeth y fron er mwyn cryfhau system imiwnedd babanod.

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Petawn i wedi dweud wrth fy hun pan oeddwn i'n 24 oed, wrth i fi sefydlu cwmni BoobyBiome, y byswn i ar restr '30 under 30' Forbes, fyswn i fyth wedi credu'r peth.

"Ond mae hynny'n profi pa mor bwysig ydi dyfalbarhad a bod yn benderfynol."

Mae Sioned yn dweud ei bod hi'n credu y bydd hyn yn helpu'r cwmni i fynd o nerth i nerth.

"Ma' pawb yn gwybod am Forbes. Ti ymhlith gwyddonwyr ac entrepreuners sy'n trio 'neud gwahaniaeth ar draws y byd ac o'dd gweld mod i wedi cael fy nerbyn ar y rhestr yn gyffrous.

"'Da ni 'di bod yn gwmni bach tan r诺an a behind the scenes yn y labordy, ac felly mae'r ffaith bo' ni ar restr Forbes yn mynd i fod yn huge a dwi'n falch y bydd pobl yn cael gwybod be' 'da ni'n neud."

Ffynhonnell y llun, Dr Sioned Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dr Tara O'Driscoll (chwith), Dr Lydia Mapstone (canol) a Dr Sioned Jones sydd wedi sefydlu cwmni BoobyBiome

Yn wreiddiol o Waunfawr ger Caernarfon, aeth Sioned i astudio Cemeg yn Lerpwl cyn mynd i wneud gradd doethuriaeth mewn bioffiseg yn Llundain.

Dyna lle sefydlodd hi gwmni BoobyBiome gyda dau wyddonydd arall - Dr Tara O'Driscoll a Dr Lydia Mapstone.

Eu gobaith nhw ydi fod "pob babi yn cael cyfle cyfartal mewn iechyd".

Yn 么l Sioned, doedd dim llawer o ymchwil i'r bacteria oedd mewn llaeth y fron, ac roedden nhw am fod y rhai cyntaf i astudio hynny a chreu'r cynnyrch cyntaf yn y byd sy'n cynnwys y bacteria.

Ffynhonnell y llun, Dr Sioned Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ers sefydlu'r cwmni, mae Sioned wedi siarad am ei gwaith mewn cynadleddau a darlithoedd

Ers pum mlynedd, maen nhw wedi bod yn cael rhoddion o laeth y fron gan famau ar draws y DU ac wedi bod yn cynnal profion ar y samplau.

Dywedodd: "Gafon ni lwyth o negeseuon gan famau a llwyth o straeon yn s么n am y struggle a'r euogrwydd bo' nhw heb 'di gallu bwydo.

"Erbyn hyn 'da ni wedi darganfod dros 200 math o bacteria a 'da ni wedi bancio nhw gyd a 'da ni wedi dysgu be ma' pob straen yn 'neud.

"Ydi'r bacteria da yn cyrraedd y gut? Ydyn nhw'n gallu creu cemegau sy'n cryfhau system imiwnedd y babi?

"Da ni wedi ffeindio bod 'na rhwng 10-15 straen o facteria dylai pob babi gael yn ystod chwe mis cynta' bywyd a 'da ni r诺an yn gwybod bod babis sy'n cael llaeth y fron yn llai tebygol o gael petha' fel alergeddau, diabetes a gordewdra.

"Y neges bwysig ydi, ma'r teip o facteria sydd yn tyfu yn ein perfedd yn ystod chwe mis cynta' ein bywyd yn medru effeithio ein hiechyd am weddill ein bywydau."

Ffynhonnell y llun, Forbes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Dr Tara O'Driscoll (chwith) a Dr Sioned Jones wybod ar ebost eu bod nhw ar restr cylchgrawn Forbes

Mae Sioned yn cydnabod bod bwydo o'r fron yn gallu bod yn anodd a rhai mamau'n "methu a ma' rhai'n dewis peidio" gwneud hynny.

Meddai: "Yr unig beth arall oedd ar gael i fabis heblaw llaeth y fron oedd fformiwla, sydd ddim yn cynnwys y pethau da fel bacteria a'r siwgr special yma sydd yn y llaeth.

"'Naethon ni feddwl, os oeddan ni'n gallu creu mimic o be' sydd yn llaeth y fron yn y labordy, fel bo' ni'n gallu ychwanegu fo i fformiwla a bod babis yn gallu cael y petha' 'sa nhw'n gael os fysan nhw'n cael llaeth y fron."

Maen nhw bellach yn gweithio gyda chwmni arall er mwyn tyfu'r bacteria ac maen nhw wrthi'n cynnal treialon meddygol.

'Achub bywydau babanod'

Maen nhw'n gobeithio y bydd y cynnyrch ar gael i fabanod o fewn dwy flynedd.

Eglura Sioned hefyd eu bod nhw wedi cael "breakthrough" arall yn ddiweddar.

"'Naethon ni ffeindio bod y rhai oedd yn pwmpio neu'n storio llaeth y fron, bod 'na ddim bacteria yn y llaeth.

"'Naethon ni weld bod y bacteria yn sensitif i ocsigen felly o'dd y bacteria'n marw wrth bwmpio'r llaeth... ni oedd y cyntaf i ddarganfod hynna.

"'Da ni 'di creu lid i roi ar bob potel babi sy'n absorbio ocsigen o'r llaeth a mae'n cadw'r bacteria'n fyw am saith diwrnod."

Dywedodd wrth raglen Bore Sul Radio Cymru bod "wbath really special am ddeffro bob bore yn gwybod be' bynnag 'na i 'neud yn y lab neu wrth y ddesg bod o'n mynd i fynd yn syth at ymchwil sy'n mynd i neud cynnyrch fydd un diwrnod ar gael ar y silff sy'n medru achub bywydau babanod dros y byd".

Ffynhonnell y llun, Dr Sioned Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sioned, ar y dde, wedi bod ar raglen ar Channel 4 yn siarad am ei gwaith

Yn ogystal 芒 bod ar gael i'w brynu mewn siopau, mae Sioned yn gobeithio y bydd eu cynnyrch ar gael mewn ysbytai ar draws y DU hefyd.

Ond mae'n cydnabod eu bod nhw'n dibynnu ar roddion ariannol.

Mi gafon nhw wybod yr wythnos ddiwethaf eu bod wedi cael grant o 拢1.6m, ond mi fyddan nhw'n chwilio am 拢1.5m gan fuddsoddwyr dros y misoedd nesaf.

Ffynhonnell y llun, Dr Sioned Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillodd Sioned fedal Potts Prifysgol Lerpwl am ei chyfraniad eithriadol i faes Cemeg

Yn 么l Sioned, mae mwy o ferched ar restr Forbes eleni ac mae'n gobeithio y bydd hynny'n ysbrydoli merched eraill i fod yn wyddonwyr a sefydlu busnes eu hunain.

"Pan o'n i'n tyfu fyny o'dd dim lot o ferched yn mynd mewn i feysydd fel hyn - o'dd lot o hogia yn 'neud o.

"Dwi'n teimlo bod newid yn digwydd ond dwi'n really annog merched i fynd mewn i'r maes.

"'Da ni wedi cael lot o obstacles ond ma' rhaid i ti goelio yn be ti'n 'neud... nes i fyth feddwl fyswn i'n mynd i fyd busnes ond ma' gen ti'r gallu i ddysgu."

Mae'n falch hefyd o fod yn Gymraes a gallu siarad Cymraeg.

"Does 'na ddim lot o bethau fel hyn yn digwydd yng Nghymru - dwi'n gwybod bod M-SParc ar Ynys Mon sy'n gyffrous - ond dwi'n hapus fy mod i'n gallu rhannu'r stori yma'n Gymraeg."

'Mamau sy'n ganolbwynt i hyn i gyd'

Mae Sioned yn gobeithio y bydd cael ei chynnwys ar restr Forbes yn gyfle iddi gydweithio gyda gwyddonwyr a chwmn茂au eraill ar draws y byd.

"Dwi'n teimlo bod stigma o gwmpas bwydo o'r fron felly 'da ni am ddefnyddio hyn fel cyfle i ddangos pa mor bwysig ydi llaeth o'r fron, a dangos yr ymchwil cyffrous yma sy'n mynd 'mlaen ac ma' hynny'n 'neud i fi deimlo'n really prowd.

"Fyddai BoobyBiome ddim lle mae o heb heddiw heb y cannoedd o ferched sydd wedi rhoi eu llaeth.

"Maen nhw'n ganolbwynt i hyn i gyd a nhw ydi'r rheswm 'da ni'n gwneud yr hyn 'da ni'n wneud."

Mae 'na Gymry eraill ar restr Forbes hefyd - Olivia Jenkins o Gaerdydd sydd 芒 chwmni gemwaith a'r chwiorydd o'r gogledd, Alice a Maisie Jones, sydd wedi sefydlu cwmni dillad 'Sisters and Seekers'.

Pynciau cysylltiedig