大象传媒

Prisiau tai Cymru yn cynyddu am y tro cyntaf ers 2022

Tai ar werth Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma'r tro cyntaf i brisiau tai gynyddu ers Rhagfyr 2022

  • Cyhoeddwyd

Mae prisiau tai yng Nghymru wedi codi am y tro cyntaf ers dros flwyddyn, yn 么l ffigyrau cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru.

拢236,369 yw'r pris cyfartalog ar gyfer t欧 erbyn hyn, yn 么l Cymdeithas Adeiladu'r Principality.

Dywed y gymdeithas fod y sefyllfa bellach yn gwella wedi pum chwarter yn olynol o brisiau yn gostwng.

Er hyn, roedd dal 2.4% yn is na'r un cyfnod yn 2023.

Dyma'r tro cyntaf i brisiau tai gynyddu ers Rhagfyr 2022, lle gwelwyd pris cyfartalog yn cyrraedd 拢249,000.

Cafodd mwy na 10,200 o dai eu prynu a'u gwerthu yng Nghymru rhwng Ebrill a Mehefin, 24% yn fwy na rhwng Ionawr a Mawrth ac 16% yn uwch o'i gymharu 芒'r un cyfnod y llynedd.

Yw'r farchnad dai yn dechrau sefydlogi?

Dywed y gymdeithas adeiladu fod y mwyafrif siroedd Cymru wedi adrodd prisiau uwch rhwng Ebrill a Mehefin am y tro cyntaf ers 2022.

Ond mae gostyngiad wedi bod ym mhrisiau tai mewn rhai ardaloedd, gan gynnwys yn Wrecsam, Powys a Merthyr Tudful.

Er hyn, mae pris t欧 cyfartalog ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cyrraedd 拢250,000, ei lefel uchaf erioed.

Dywedodd Shaun Middleton, pennaeth dosraniad Principality, fod y cynnydd yn nodi "tro arwyddocaol" gan awgrymu fod y farchnad dai yn dechrau sefydlogi.

"Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi nodi'r amodau mwyaf heriol i'r farchnad dai ers argyfwng ariannol y byd yn 2008," meddai.

Dywedodd Mr Middleton fod y rheiny sy'n prynu t欧 am y tro cyntaf wedi profi'r amgylchiadau anoddaf i wneud hynny ers tua 70 o flynyddoedd.

Dywedodd gydag ymrwymiad y llywodraeth i dai, a mwy o dai cymdeithasol i'w rentu yng Nghymru, bod disgwyl i brisiau tai godi, gyda mwy o dai yn cael eu prynu "wedi'u cefnogi gan amodau economaidd gwell, mwy fforddiadwy a chynnydd mewn diddordeb".

Pynciau cysylltiedig