Yr hen weithdy rhydlyd sydd wedi troi'n atyniad Instagram
- Cyhoeddwyd
Yng nghanol llwydni tirwedd llechi Blaenau Ffestiniog, mae hen weithdy rhydlyd sydd nawr yn cael ei warchod fel rhan o dreftadaeth yr ardal.
Mae rhai yn ystyried yr hen adeilad fel "dolur llygad", gyda'i fetel rhychiog rhydlyd a'r ffenestri wedi torri.
Ond i eraill, mae'r hen weithdy saer coed yn "llawn cymeriad", a'n "giplun o hanes" yr ardal a'r gymuned sy'n byw ynddi.
Mae hyn i'w weld yn cael ei gydnabod ar-lein hefyd, gyda'r hen adeilad yn denu dipyn o sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig Instagram.
Cafodd yr adeilad ei gymryd drosodd gan Danielle Clarke a'i phartner Jeremy Russell ar 么l i'r cwpl symud i'r ardal bum mlynedd yn 么l.
"Mae'n adeilad hyfryd a wnaethon ni ddisgyn mewn cariad gyda fo'n syth ar 么l i ni weld o. 'Da ni'n licio pethau rhydlyd fel hyn sydd hefo cymeriad," meddai Mr Russell.
"Mae o mor anghyffredin a 'da ni'n gweld gymaint o bobl yn stopio i gymryd lluniau, lot o dwristiaid yn enwedig - rhai o ochr arall y byd.
"Cyn Dolig oedd na berson tu allan gydag 卯sl yn paentio llun ohono fo hyd yn oed.
"Mae 'na luniau ohono fo 'di bod mewn llyfrau celf diwydiannol ac mae 'na lun weddol fawr yn Ysbyty Gwynedd, felly mae o wedi bod yn dal llygaid pobl ers cyn dyddiau Instagram."
Cafodd hen weithdy R L Jones a'i Fab - cwmni saer coed teuluol - ei adeiladu ar ddechrau'r 20fed ganrif, gan ymddangos ar ddiweddariad o'r map Arolwg Ordnans am y tro cyntaf yn 1914.
Mae nifer o nodweddion anarferol i'rhen weithdy fel ei si芒p cantilifer - gyda'r llawr uchaf yn lletach na'r llawr gwaelod.
Roedd gweithdai metel rhychiog fel hyn yn gyffredin yn yr 20fed ganrif, ond mae'r un yma ar ochr y Stryd Fawr yn enghraifft brin iawn o weithdy gantilifrog, yn 么l Mr Russell.
Mae drws blaen ar y ddau lawr hefyd, ond dim grisiau i gyrraedd yr un uchaf, a oedd yn arfer cael ei ddefnyddio i lwytho pren i'r gweithdy gan fod y grisiau tu fewn mor gul.
Adeilad llawn hanes
"Roedd y gweithdy'n gwneud ychydig bach o bob dim - drysau, eirch, ffenestri - beth bynnag 'sa rhywun isio allan o bren," dywedodd Mr Russell.
"Roedd bron i bob tref hefo gweithdy tebyg tua 100 mlynedd yn 么l, ond mae'r un yma yn un prin iawn oherwydd ei si芒p.
"Mae'r sied drws nesaf yn rhan o'r un safle mewn ffordd. Peintwyr ac addurnwyr oedd yn y sied felly beth bynnag oedd yn cael ei wneud yn y gweithdy, roedd o wedyn yn mynd i'r sied i gael ei beintio.
"Roedd o'n hwb i'r gymuned ar un tro. Bron i unrhyw ffenest neu ddrws pren yn Blaenau Ffestiniog, 'sa fo 'di dod allan o'r gweithdy yma.
"Mae eirch hen berthnasau pobl o'r ardal wedi dod o'r gweithdy yma - mae 'na lot o hanes yn yr adeilad."
Mae Mr Russell yn cydnabod fod "lleiafrif bach" o bobl yn gweld yr adeilad fel "dolur llygad" ond fod hyn lawr i "agwedd benodol am sut dylai adeiladau edrych".
"Mae'n giplun o hanes y dref ac os 'sa rhywun yn tynnu fo lawr 'sa fo'n diflannu am byth.
"Mae rhai pobl yn licio pethau modern sy'n polished a pherffaith, ond mae 'na bobl hefyd sy'n licio pethau sy'n dangos eu hoed - a dwi'n gweld agweddau yn symud mwy yn y cyfeiriad yna.
"O fewn cylchau pensaern茂aeth, er enghraifft, mae dur Corten wedi dod yn boblogaidd - mae rhwd wedi dod yn ffasiynol. Ti'n gweld darnau hen o fetel rhychiog mewn bwytai yn Llundain dyddiau yma."
Un o'r rhesymau wnaeth ei bartner brynu鈥檙 adeilad, meddai Mr Russell, oedd i "arbed o i'r gymuned".
Aethent ati wedyn i wneud yr hen weithdy yn adeilad rhestredig Gradd II yn 2020 i "sicrhau ei ddyfodol".
Roedd 'na dipyn o waith clirio ar 么l iddyn nhw gymryd perchnogaeth, ond ymysg y sbwriel, roedd "trysorau" fel meinciau gwaith pren hyd 14 troedfedd a pheiriant gwaith coed Fictoraidd.
"'Da ni wedi cadw unrhyw beth hanesyddol fel 'na a fyddan nhw i gyd yn aros yn y gweithdy lle maen nhw i fod," meddai Mr Russell.
Agor i'r cyhoedd?
Bydd sgaffald yn mynd fyny ar yr adeilad o fewn y misoedd nesaf, yn 么l Mr Russell, er mwyn trwsio'r to a'r ffenestri.
"Ond fydd o dal yr un hen adeilad rhydlyd mae pawb yn ei garu," meddai.
"Byddwn yn sicrhau fod unrhyw newidiadau yn cydfynd 芒 chymeriad gwreiddiol yr adeilad.
"Y gobaith ydi - un diwrnod - bosib fyddwn ni'n gallu agor o fel ryw amgueddfa neu rywbeth fel 'na ond 'da ni blynyddoedd i ffwrdd o hynna ar y funud.
"'Sa fo'n neis i allu gwneud rhywbeth i'r dref."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2023