大象传媒

Tafwyl yn fyw ar S4C ac yn symud o Gastell Caerdydd

Tara BanditoFfynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Tara Bandito yn un o ddwsinau o gerddorion fydd yn perfformio yn Tafwyl eleni

  • Cyhoeddwyd

Bydd Tafwyl yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C am y tro cyntaf eleni, wrth i'r 诺yl gerddorol yng Nghaerdydd hefyd symud lleoliad.

Fe gadarnhaodd Menter Caerdydd ddydd Mawrth y byddai'r digwyddiad ar 15-16 Gorffennaf eleni yn cael ei gynnal ar gaeau Parc Biwt, yn hytrach na Chastell Caerdydd fel yr arfer.

Ychwanegodd y trefnwyr y byddai dangos yr 诺yl ar S4C yn sicrhau ei bod hi'n "cyrraedd cynulleidfa ehangach".

"Mae鈥檙 ffaith ein bod yn symud i leoliad mwy o faint ym Mharc Biwt yn dangos fod Tafwyl yn mynd o nerth i nerth," meddai prif weithredwr Menter Caerdydd, Heulyn Rees.

Cafodd yr 诺yl gerddorol Gymraeg yn y brifddinas ei sefydlu yn 2006, a chael ei chynnal yn y castell am y tro cyntaf yn 2012.

Mae'r lleoliad hwnnw yng nghanol y ddinas wedi ei chynnal hi bron bob blwyddyn ers hynny, oni bai am ambell dro fel yn 2017 pan oedd ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd.

Ymhlith y dwsinau o artistiaid fydd yn perfformio yn yr 诺yl eleni mae Bwncath, Candelas, HMS Morris, Dafydd Iwan, Band Pres Llarregub, Tara Bandito, Lloyd + Dom, Sage Todz a Sywel Nyw.

"Gyda鈥檙 esgid yn gwasgu i nifer o deuluoedd ledled Cymru, rwy鈥檔 falchach nag erioed fod Menter Caerdydd yn gallu cynnig arlwy mor amrywiol a chyffrous, a hynny heb orfod codi t芒l mynediad o gwbl," ychwanegodd Heulyn Rees.