Cymro ifanc i herio'r 'goreuon' ym Mhencampwriaeth Triathlon y Byd
- Cyhoeddwyd
Mi fydd Cymro ifanc o Lanymynech, Powys yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Ieuenctid Triathlon y Byd yn Sbaen y penwythnos hwn.
Ymhlith y tua 5,500 o gystadleuwyr, Deri McCluskey fydd yr unig Gymro yn y ras.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y bydd yn herio 鈥済oreuon y byd鈥 ond nid yw鈥檔 鈥減oeni dim鈥.
"Y gorau yn y byd bydd o. Yr elite juniors, ma鈥檙 pobl dwi mynd i fod yn rasio, nhw fydd y gorau yn y dyfodol a ma' nhw jest yn arbennig.
"Dwi jest yn edrych ymlaen i weld lle ydw i gymharu efo nhw," meddai.
Ychwanegodd Deri ei fod yn athletwr sydd ddim yn "mynd yn rhy nerfus fel arfer".
"Ma pawb yn synnu fel arfer pan dwi'n dweud bo' fi ddim yn poeni ond jest ras arall yw e.
"Dwi 'di bod yn 'neud rasys ers dwi'n 14, dwi鈥檔 mwynhau rasio a ma' hwn jest yn ras arall."
'Dim pwysau'
Mae Deri wedi cael cyfres lwyddiannus eleni.
Fe orffennodd yn drydydd mewn ras ym Mhortiwgal ac yn ail yn y gyfres Brydeinig, sydd wedi caniat谩u iddo hawlio lle ym Mhencampwriaeth y Byd.
Esboniodd ei fod wedi gorfod croesi'r llinell yn y tri uchaf mewn ras ragbrofol ym Mhencampwriaeth Prydain ar ddechrau'r mis.
"Des i'n ail yn y ras yna diolch byth," meddai.
"Does dim pwysau gen i yn y ras yma a dwi jest isio mwynhau mwy nag unrhyw beth arall".
Cynrychiolodd Deri ei wlad am y tro cyntaf pan oedd yn 14 oed.
Dyma鈥檙 unig gamp sy鈥檔 caniat谩u iddo hyfforddi 鈥渢rwy鈥檙 dydd, pob dydd鈥, meddai.
鈥淥鈥檔 i jest yn mwynhau chwaraeon ac o鈥檔 i eisiau gwneud cymaint 芒 phosib.
鈥淒oes 'na ddim byd arall sy鈥檔 gadael i ti hyfforddi trwy鈥檙 dydd pob dydd, dyna pam nes i ddewis o.
鈥淒wi鈥檔 gallu nofio beicio a rhedeg bob dydd,鈥 esboniodd.
Yn 2023, dechreuodd astudio cwrs gwyddorau biofeddygol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dywedodd ei fod wedi dewis symud i鈥檙 brifddinas i gael ymarfer yn y Ganolfan Perfformiad Triathlon Cenedlaethol er mwyn cael y 鈥渟iawns gorau i ddod yn athletwr proffesiynol鈥 meddai.
Ond ei her nesaf fydd cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol ddydd Gwener.
"Dwi 'di bod yn hyfforddi yn galed ers tua mis Tachwedd y lynedd, rhyw 25-30 awr yr wythnos.
"Cadw fy mhen lawr a gweithio tuag at y ras yma."