大象传媒

Buddugoliaeth i ferched Cymru yn erbyn Japan yn y WXV2

CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae merched Cymru wedi ennill eu g锚m gyntaf yng nghystadleuaeth y WXV2 yn Ne Affrica ar 么l trechu Japan o 19-10.

Roedd y Cymry ar y blaen o 12-0 ar yr egwyl ar 么l cais gan Nel Metcalfe a chais a throsiad gan Keira Bevan.

Roedd hi'n 19-0 am gyfnod yn yr hanner cyntaf ond ni chafodd cais Bethan Lewis ei ganiat谩u gan y swyddog teledu.

Yn fuan yn yr ail hanner, gydag egni chwaraewyr Japan yn disgyn ar 么l hanner cyntaf anodd pan wnaethon nhw 100 tacl, cafodd y Cymry eu trydydd cais - Jasmine Joyce-Butchers y tro hwn ac yna cafwyd trosiad arall gan Keira Bevan.

Roedd nifer o wallau yng ng锚m Cymru a chafodd t卯m Shaun Connor eu cosbi ychydig ar 么l awr ac roedd y sg么r yn 19-5.

Cafodd Japan eu hail gais yn y munudau olaf wedi i Ayasa Otsuka groesi ac felly y sg么r terfynol oedd 19-10.

Bydd t卯m rygbi merched Cymru'n chwarae nesaf yn erbyn Yr Alban ym Mhencampwriaeth Y Chwe Gwlad 22 Mawrth, 2025.