Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn 'hwb i'r iaith a'r economi'
- Cyhoeddwyd
Mae Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf wedi rhoi "llwyfan i'r iaith Gymraeg a hwb i'r economi", yn 么l cadeirydd y pwyllgor gwaith.
Dywedodd Helen Prosser fod llawer o bobl wedi ymweld 芒'r Eisteddfod am y tro cyntaf, gan honni eu bod wedi dod yn 么l sawl gwaith hefyd.
Ychwanegodd fod busnesau Pontypridd "wrth eu boddau", a bod Trafnidiaeth Cymru wedi cludo dros 50,000 o deithwyr ar eu trenau i orsaf Pontypridd.
"Rwyf wedi cyfarfod teuluoedd gafodd docynnau drwy gynllun y llywodraeth ar gyfer teuluoedd, ac yn dod yn 么l sawl diwrnod wedi hynny, ac mae hynny yn beth mor bositif gan helpu gobeithio cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050," meddai Ms Prosser.
"Rydym wedi gweld y Gymraeg yn cael lle amlwg ym Mhontypridd a Rhondda Cynon Taf a bod pobl wrth eu boddau dod yma i flasu'r Gymraeg, ein diwylliant ac i weld fod hwn yn perthyn i ni gyd.
"Gellid dweud fod y gwaith yn cychwyn i gadw'r bobl hyn gyda ni, ond hefyd beth sy' wedi bod yn bleser i mi yw gweld y bobl sydd eisoes gam ymhellach ar y daith ac wedi dechrau dysgu [Cymraeg] ac yn gwirfoddoli ym mhob twll a chornel.
"Mae gennym fwriad cynnal rhyw fath o ffair yn yr hydref lle byddwn yn gobeithio bydd y bobl hyn yn parhau i wirfoddoli ond hefyd, trwy ymbar茅l y fenter iaith leol dod i wybod mwy am y cyfleoedd eraill sydd ar gael."
Dywedodd Ms Prosser fod pryderon cyn y digwyddiad am drafnidiaeth, ond fod popeth wedi gweithio'n dda yn y pendraw.
"Roedd gennym bryderon yr wythnos ddiwethaf am drafnidiaeth ond nid ydym wedi cael cwynion," meddai.
"Mae'r cynlluniau wedi gweithio'n ardderchog."
Ychwanegodd fod yr Eisteddfod wedi bod o fudd mawr i fusnesau Pontypridd yn ogystal.
"Maen nhw wedi bod yn brysur drwy'r wythnos ac mae Eisteddfodwyr wedi eu cefnogi," meddai.
"Rydym wedi gweld y ddau beth roeddem eisiau yn deillio o'r Eisteddfod - llwyfan i'r iaith Gymraeg a hwb i'r economi.
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Wrecsam - ardal drefol arall - yn 2025.