'Atyniad byd-eang' Tu Hwnt i'r Bont yn Llanrwst ar werth
- Cyhoeddwyd
Mae un o adeiladau mwyaf adnabyddus Cymru sy'n denu ymwelwyr ar draws y byd yn chwilio am berchnogion newydd.
Wedi'i orchuddio bron yn gyfan gwbl mewn dail sy'n newid o wyrdd i goch yn yr hydref, mae Tu Hwnt i'r Bont yn Llanrwst yn ganolbwynt i un o olygfeydd enwocaf Cymru.
Mae'r adeilad, sy'n dyddio'n 么l i 1480 - ryw 150 mlynedd cyn i'r bont Inigo Jones gerllaw gael ei hadeiladu - wedi bod yn cael ei redeg ar les ers 1950 gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Yn y cyfnod hwn mae Tu Hwnt i'r Bont wedi bod yn gaffi sydd ond wedi newid dwylo ddwywaith ers iddo agor dros 70 mlynedd yn 么l.
Carrie Parisella a Tracy Williams sydd wedi bod yn rheoli'r caffi ers 2022, ond ar 么l colled yn y teulu, mae'r cwpl yn dweud eu bod am ganolbwyntio ar eu busnes arall - y siop hufen i芒 Parisella's yng Nghonwy - ac am werthu Tu Hwnt i'r Bont.
Mae'r adeilad ar werth am 拢195,000.
"Mae'n bechod oherwydd ni wir wedi mwynhau ers cymryd drosodd y caffi ddwy flynedd yn 么l," meddai Tracy.
"Ond yn anffodus fe gollodd Carrie ei thad yn ddiweddar sy'n golygu ei bod angen mynd yn 么l i redeg y fusnes teuluol - Parisella's. Hi oedd yr un oedd yn rhedeg Tu Hwnt i'r Bont mewn gwirionedd, fel arall fyswn ni ddim wedi rhoi o ar werth."
Ychwanegodd Tracy mai dim ond i'r person cywir y byddan nhw'n gwerthu ac maen nhw'n dymuno i'r adeilad fod yn gaffi ar 么l iddo newid dwylo.
"Byddai unrhyw un yn wirion i newid unrhyw beth yno oherwydd ei fod yn lle mor brysur.
"Bydd o 100% yn aros fel y mae o. Mae'n enwog am ei sgons a'i Welsh rarebit. Mae pobl yn teithio ledled y byd ar gyfer hynny," meddai.
Dywedodd Tracy fod pobl wedi dod yr holl ffordd o Awstralia a Japan i gymryd lluniau o'r adeilad "eiconig" rhestredig Gradd II.
"Mae pobl yn hoffi dod i weld y lle ar 么l i'r Virginia Creeper droi'n goch sydd fel arfer yn digwydd ddiwedd mis Medi.
"Mae lluniau o Du Hwnt i'r Bont ar hysbysebion twristiaeth yn llefydd fel Awstralia. Mae'n atyniad byd-eang.
"Mae gweithio yma wedi bod yn brofiad anhygoel a 'da ni'n drist iawn i orfod gadael ond byddwn ni'n dal i ddod yma yn y dyfodol yn sicr."