大象传媒

'Gormod o siarad, dim digon o ddatrysiad' ar 么l canslo'r Fedal Ddrama

Disgrifiad,

Yn 么l Cefin Roberts, roedd yr Eisteddfod am gynnal trafodaethau gyda'r sector y mis hwn

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-enillydd y Fedal Ddrama wedi dweud ei fod siomedig nad yw鈥檙 Eisteddfod Genedlaethol wedi cynnal trafodaethau eto yngl欧n 芒 chanslo鈥檙 Fedal eleni.

Yn dilyn y cyhoeddiad am atal y gystadleuaeth ym mis Awst, fe ddywedodd y brifwyl y byddai 鈥渃yfle am drafodaeth adeiladol ac aeddfed am hyn oll yn yr hydref鈥.

Ond mae'r Eisteddfod wedi dweud erbyn hyn y byddai trafodaeth yn cael ei chynnal ym mis Tachwedd.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, fe ddywedodd Cefin Roberts ei fod wedi gobeithio y byddai鈥檙 sector wedi cael cyfle i drafod gyda鈥檙 Eisteddfod erbyn hyn.

"Wnes i gytuno i ddod yn 么l [ar Dros Frecwast] achos wnes i ddweud ar Twitter [X] ar Awst 17, na fyddwn i鈥檔 trafod y peth eto oherwydd bod yr Eisteddfod wedi cytuno i gynnal fforwm ar hwn ac mi ddeudon nhw fod hynny鈥檔 digwydd ym mis Hydref.

"Be dwi鈥檔 poeni felly 鈥 gan nad ydyn nhw ddim - mae hi鈥檔 fis Hydref bellach, ac o'n i鈥檔 clywed chi鈥檔 dweud fod rhywbeth yn mynd i ddigwydd fis Tachwedd - mae o鈥檔 rhy niwlog ar hyn o bryd, yr ateb.

"Mae gormod o siarad yn mynd ymlaen a dim digon o ddatrysiad.鈥

'Gweithio dan ansicrwydd'

Dywedodd y dramodydd a鈥檙 cynhyrchydd ei bod hi鈥檔 bwysig i鈥檙 sector theatr yng Nghymru dderbyn y manylion er mwyn symud ymlaen.

"Dwi鈥檔 meddwl hwnna 'di鈥檙 peth pwysica', ond dwi鈥檔 meddwl hefyd bod y ddrama mewn trobwll go beryglus erbyn hyn.鈥

Ychwanegodd: 鈥淢ae 'sgwennwyr yn gweithio dan ansicrwydd mawr ar hyn o bryd a dim smic wedi dod o鈥檙 Eisteddfod ers mis Awst. Mae'i gyd yn siom.鈥

Mewn ymateb, dywedodd yr Eisteddfod: "Yn dilyn y brifwyl eleni, nododd yr Eisteddfod y byddai鈥檙 sefydliad yn fodlon iawn i gynnal trafodaeth ar y cyd gyda鈥檙 sector theatr yn yr hydref.

"Rydyn ni鈥檔 ddiolchgar i Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth am eu parodrwydd i arwain symposiwm dan y teitl Cynrychioli Cynrychiolaeth: Theatr a鈥檌 Ystyr, ddydd Sadwrn 2 Tachwedd, yn Aberystwyth, fel rhan o raglen T欧 Trafod.

"Bydd gwybodaeth ar sut i gofrestru a manylion ychwanegol am y sesiwn ar gael yn fuan."