大象传媒

Gwynedd: 'Pobl angen mwy o help i adeiladu tai eu hunain'

Mirain Ll欧n Roberts
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae bron yn amhosib i brynu t欧 mewn ardal fel Aberdaron, medd Mirain Ll欧n Roberts

  • Cyhoeddwyd

Mae angen mwy o gyfleoedd i deuluoedd ifanc allu adeiladu tai eu hunain mewn cymunedau sy'n teimlo'r straen yn sgil prisiau cynyddol.

Dyna farn rhai sy'n byw ym Mhen Ll欧n yn sgil galwadau i ddiwygio polis茂au cynllunio i'w gwneud yn haws i bobl ifanc allu parhau i fyw yn eu cynefinoedd.

Yn ddiweddar fe gymeradwywyd cais amlinellol ar gyfer pum llain hunan adeiladu ar gyfer tai fforddiadwy ar gyrion pentref Aberdaron.

Yn y pen draw fe gafwyd caniat芒d er gwaethaf argymhelliad gwreiddiol swyddogion Cyngor Gwynedd y dylid gwrthod y cais oherwydd ei "effaith niweidiol ar y dirwedd leol" a fyddai'n achosi "ymlediad trefol i safle tir glas yng nghefn gwlad agored".

Ond er i'r swyddogion newid eu hargymhelliad wedi i gynghorwyr bleidleisio o blaid datblygu'r safle, galw mae rhai am newid yn y polis茂au.

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l arolwg diweddar roedd pris cyfartalog t欧 yn Aberdaron yn 拢376,114, sydd o fewn cyrraedd ond 2% o drigolion yr ardal.

Yn 么l Cyngor Gwynedd, maen nhw'n gweithio ar Gynllun Datblygu Lleol newydd a bydd hyn yn golygu adolygu'r holl bolis茂au, gan gynnwys adolygiad o anghenion tai yn lleol.

Ychwanegodd yr awdurdod eu bod yn awyddus i gael gwybod am safleoedd posib allai fod yn addas i鈥檞 datblygu ac yn ystyried sefydlu mwy o blotiau hunan-adeiladu dros y blynyddoedd i ddod.

'Bron yn amhosib prynu t欧'

Mae Mirain Ll欧n Roberts yn enedigol o Aberdaron ac yn awyddus i barhau i fyw yn y pentref sy'n cael ei adnabod gan rai fel 'pen draw'r byd'.

Ond gyda phrisiau tai'r ardal mor ddrud, mae ei theulu yn parhau i fyw gyda'i rhieni wrth iddynt ystyried y camau nesaf.

"Fyswn i'n dweud fod hi bron yn amhosib prynu t欧 mewn ardal fel Aberdaron y dyddiau yma," meddai Mirain, sy'n 29 oed.

"Roedd arolwg diweddar yn dangos mai pris cyfartalog t欧 yn Aberdaron ar hyn o bryd ydi 拢376,000, sy'n bell o fod yn fforddiadwy, yn enwedig i bobl ifanc."

Er wedi ei leoli ar ben pellaf y penrhyn, mae Aberdaron yn wynebu'r un problemau 芒 sawl rhan arall o gefn gwlad Cymru, sef ail gartrefi a phrisiau tai sy'n bell o gyrraedd pobl leol.

Ond gyda chaniat芒d cynllunio amlinellol bellach wedi ei roi i'r datblygiad o bum llecyn hunan-adeiladu, mae Mirian yn gobeithio manteisio ar allu adeiladu ar un o'r llecynnau a sefydlu cartref parhaol i'w theulu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Aberdaron yn gyrchfan gwyliau poblogaidd

"Mae hwn yn gyfle euraidd - yn enwedig i bobl ifanc lleol Cymraeg," meddai.

"Hebddon ni fydd 'na ddim cymuned ar 么l mewn pentrefi fel Aberdaron.

"'Sa chi'n cymryd Abersoch fel enghraifft, mae'r ysgol gynradd wedi gorfod cau oherwydd mae pobl ifanc yn cael eu prisio allan o'u pentrefi a'u hardal.

"A dyna fydd tynged pentref bach fel Aberdaron yn y pendraw os nad oes 'na gynlluniau i adeiladu tai fforddiadwy i gadw ni yn yr ardal ac i gadw'r iaith yn fyw hefyd.

"Os 'dach chi'n sb茂o o'ch cwmpas does 'na ddim llawer o bobl sydd tua'r un oed 芒 fi sydd wedi neu'n gallu aros - 'dan ni'n cael ein prisio allan ac mae pobl yn gorfod mudo i drefi mwy fel Pwllheli neu Gaernarfon.

"Dim tai rhent 'dan ni angen, 'dan ni angen tai i'w perchnogi i allu byw a'u troi yn gartrefi i aros yma."

Polis茂au 'ddim yn gwneud synnwyr'

Yn 么l y cynghorydd sir lleol, mae'r polis茂au cyfredol yn "wallus" ac mae angen annog mwy o ddatblygiadau o'r fath.

Dywedodd Gareth Williams, sy'n cynrychioli Pen Draw Ll欧n: "Doedd o ddim yn gwneud unrhyw synnwyr i mi sut fedrwn ni fel cyngor argymell i wrthod cais fel hyn pan rydan ni yn y sefyllfa yr ydan ni.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Yr uchelgais i'r mwyafrif ydy i un diwrnod i allu prynu t欧 eich hun," meddai Gareth Williams

"'Dan ni'n wynebu argyfwng dai yma ym Mhen Ll欧n. Mae'n pobl ifanc ni wedi eu prisio allan o'r farchnad," meddai.

"'Dan ni'n gweld nifer fawr o geisiadau gan gwmn茂au mawr ar gyfer creu stadau tai yn ein hardaloedd gwledig ond dydy hynny ddim yn cyfarch y galw yn fy marn i, pan mae pris cyfartalog dros 拢370,000 - ceisiadau fel hyn sy'n ateb y galw ynde?

"Does gan ein pobl ifanc ni ddim gobaith - maen nhw'n symud i ffwrdd a 'dan ni'n colli ein cymunedau.

"'Dan ni'n gweld llai o niferoedd yn ein hysgolion ni... be gei di well na, yn yr achos yma, pum teulu lleol sydd am fagu teuluoedd, eu plant yn mynd i'r ysgol, a ffynnu鈥檙 gymuned.

"Does 'na ddim yn bod ar dai rhent ond dydy o ddim i bawb, nac ydi? Yr uchelgais i'r mwyafrif ydy i un diwrnod i allu prynu t欧 eich hun a ddim yn aml mae'r cyfleoedd yn codi yn anffodus."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y llecyn ger Bodernabwy lle mae bwriad i adeiladu'r pum plot

Ychwanegodd Mr Williams fod "yn rhaid" i Gyngor Gwynedd edrych eto ar y polis茂au cynllunio "gwallus" ac i annog mwy o gynlluniau o'r fath.

"Os oes 'na unrhyw bolisi cynllunio yn dweud dylsa cais fel hyn gael ei wrthod yn bendant mae'n gwbl wallus, dydy o ddim yn helpu ein pobl ifanc o gwbl nac ydi?

"O ran datblygwyr, mwy o ddatblygiadau fel hyn fyswn wrth fy modd yn ei weld."

'Sicrhau mynediad at dai addas a fforddiadwy'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod "diffyg gwybodaeth manwl" wedi ei gyflwyno gyda'r cais yn wreiddiol, ond wedi ei ailasesu fe newidiwyd yr argymhelliad i'w ganiat谩u.

鈥淔el cyngor, rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod gan bobl Gwynedd fynediad at dai addas a fforddiadwy yn eu cymunedau.

"Mae polis茂au cynllunio yn eu lle sy鈥檔 sicrhau cymysgedd priodol o dai mewn lleoliadau addas yn Ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd."

Ychwanegon nhw fod gobaith o wireddu mwy o blotiau hunan adeiladu dros y blynyddoedd i ddod.

鈥淲rth i鈥檙 cyngor fwrw ymlaen gyda鈥檙 gwaith o baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd, bydd yr holl bolis茂au yn cael eu hadolygu a fydd yn cynnwys adolygiad o anghenion tai yn lleol.

"Yn wir, mae鈥檙 cyngor yn awyddus i gael gwybod am safleoedd posib allai fod yn addas i鈥檞 datblygu a鈥檜 gwarchod ar hyn o bryd fel rhan o鈥檙 gwaith paratoi ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol newydd, ac mae mwy o wybodaeth am sut i rannu sylwadau i鈥檞 gweld ar y wefan yma.

鈥淔el un o bartneriaid Cynllun Peilot Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd Dwyfor, mae Cyngor Gwynedd yn cydweithio gyda鈥檙 Llywodraeth ar nifer o gynlluniau gan gynnwys ystyried cynllun plotiau hunan-adeiladu yn ardal y peilot."

Pynciau cysylltiedig