大象传媒

Dau yn pledio'n ddieuog i anrhefn wedi g锚m b锚l-droed

Joel CollinsFfynhonnell y llun, Avenue Hotspur
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Joel Collins - golwr Avenue Hotspur - ei anafu yn dilyn y g锚m yn erbyn Llanrumney Athletic

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiadau o anrhefn treisgar ar 么l g锚m b锚l-droed yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Cafodd Joel Collins - golwr Avenue Hotspur - ei anafu yn dilyn g锚m yn erbyn Llanrumney Athletic, ac mae bellach wedi gadael yr ysbyty ar 么l derbyn triniaeth.

Yn 么l Heddlu De Cymru, fe gafon nhw eu galw i ddigwyddiad y tu allan i'r Ganolfan Hamdden Ddwyreiniol ychydig ar 么l 16:00 ddydd Sadwrn.

Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher, fe wnaeth Benjamin Dean, 28 oed o ardal Trowbridge, a Ryan Rees 22 oed o Lanrhymni, wadu'r cyhuddiadau o anrhefn treisgar.

Plediodd Mr Dean yn ddieuog i achosi niwed corfforol hefyd, tra bod Mr Rees wedi gwadu cyhuddiad o yrru heb yswiriant.

Clywodd y llys bod dau berson arall oedd dan amheuaeth gan yr heddlu "wedi ffoi i Sbaen".

Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ar 11 Tachwedd.