Prifysgolion Cymru'n wynebu 'sefyllfa ariannol ddrwg iawn'
- Cyhoeddwyd
Mae prifysgolion Cymru yn "wynebu sefyllfa ariannol ddrwg iawn", yn 么l economegydd ac academydd blaenllaw.
Wrth siarad 芒 rhaglen Newyddion S4C, dywedodd yr Athro Dylan Jones-Evans bod cyfuniad o ffactorau yn golygu bod her ariannol fawr yn wynebu nifer o sefydliadau addysg uwch Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw'n ymwybodol o'r pwysau ariannol ar brifysgolion drwy Gymru a'r DU, a'u bod nhw wedi codi ffioedd myfyrwyr i 拢9,250 y flwyddyn.
Yn 么l yr Athro Jones-Evans, mae sawl prifysgol wedi bod yn orddibynnol ar ddenu myfyrwyr o dramor yn ddiweddar, ond mae newidiadau fisa gan Lywodraeth y DU, sy'n golygu na all teuluoedd fyw yma tra bod myfyrwyr yn astudio, yn golygu bod y niferoedd rheiny wedi cwympo yn ddramatig.
Gyda myfyrwyr tramor yn talu ffioedd uwch na rhai cartref, mae'r gostyngiad wedi taro sawl sefydliad.
- Cyhoeddwyd12 Awst
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf
Dywed yr Athro Jones-Evans: "Mae 'na broblemau ariannol ym mhob prifysgol, felly mae'r prifysgolion gorau wedi gwneud mwy o lefydd ar gael er mwyn dod 芒 mwy o fyfyrwyr mewn.
"Yma yng Nghymru, dim ond un prifysgol - Caerdydd - sydd yn y gr诺p yma.
"Ar ben y broblem 'ma o gostau wedi mynd i fyny a'r ffioedd cartref ddim gwerth cymaint ag oedden nhw [oherwydd chwyddiant] a'r gostwng mewn nifer o fyfyrwyr o dramor, mae hwn ar ei ben o, yn fy marn i, am adael ambell i brifysgol mewn sefyllfa ariannol ddrwg iawn."
Wedi i fyfyrwyr dderbyn eu canlyniadau safon uwch ddydd Iau, mae'n rhybuddio nawr y gallai'r wythnosau nesaf fod yn rhai pwysig i brifysgolion.
"Yn naturiol, mae myfyrwyr am fynd i'r prifysgolion gorau. Mae rhai felly yn mynd i rai brifysgolion 'gwell' na'r rhai roedden nhw wedi eu dewis, sydd nawr 芒 llefydd ar gael.
"Yr her i'r prifysgolion sydd heb lawer o arian yn y banc yw faint o arian allan nhw sicrhau ym mis Medi - sydd yn ddibynnol ar faint o fyfyrwyr o Gymru a thramor maen nhw'n recriwtio.
鈥淥s oes ambell sefydliad yn denu llai na'r hyn maen nhw'n rhagweld, gallai hynny greu twll ariannol sylweddol."
Gwen Williams yw cyfarwyddwr cynorthwyol Prifysgolion Cymru, y corff sydd yn cynrychioli sefydliadau addysg uwch Cymreig.
Mae hi hefyd yn dweud bod sefyllfa ariannol anodd yn wynebu prifysgolion.
"Dydy'r system sydd gennym ni ar hyn o bryd ddim yn gweithio," meddai.
"Nid yn unig bod costau yn cynyddu'n gyflymach nag incwm, ond ry'n ni hefyd yn gweld newidiadau yn y system fewnfudo yn effeithio ar nifer y myfyrwyr tramor sydd yn dod yma i astudio.
"Mae 'na sawl ffactor yn fan hyn sydd yn achosi problem i'r sector."
Galw am adolygu model ariannu y prifysgolion mae llywydd Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol Cymru, Deio Owen.
"Mae prifysgolion yno er lles cenedlaethau'r dyfodol a bod gan Gymru weithlu sydd 芒'r sgiliau sydd ei angen," dywedodd.
"Mae angen sicrhau bod yr addysg yno ac mae angen sbio i ffwrdd o brifysgolion hyper-commercialised fel bod o ddim yn sefyllfa mai cwsmeriaid yw myfyrwyr a bod o'n wasanaeth cyhoeddus sydd ar gael i bobl."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi caniat谩u cynnydd o 拢250 y flwyddyn mewn ffioedd myfyrwyr er mwyn cydnabod y cynnydd mewn cost darparu addysg prifysgol.
Nodwyd hefyd eu bod nhw'n "cydnabod r么l bwysig prifysgolion tu hwnt i'w gweithredoedd ym mydoedd busnes ac academia".
"Maen nhw'n cyfrannu at eu cymunedau lleol ac yn cefnogi pobl drwy Gymru drwy bartneriaethau a phrosiectau," medd llefarydd.