大象传媒

Person wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Dinbych-y-pysgod

A4139 rhwng Dinbych-y-pysgod a Phenalun Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4139 rhwng Dinbych-y-pysgod a Phenalun nos Lun

  • Cyhoeddwyd

Mae person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Sir Benfro.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Volkswagen arian a BMW brown ar yr A4139 rhwng Dinbych-y-pysgod a Phenalun tua 22:15 nos Lun.

Bu farw un person yn y fan a'r lle, ac fe gafodd unigolyn arall ei gludo i'r ysbyty, ond dyw'r heddlu ddim yn credu bod ei anafiadau yn peryglu ei fywyd.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth i gysylltu 芒'r llu.

Pynciau cysylltiedig