大象传媒

Cau Llancaiach Fawr yn 'golled fawr' i'r gymuned Gymraeg

Llancaiach Fawr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Maenordy Llancaiach Fawr ger Nelson yn dyddio o'r 16eg ganrif, ac yn denu 60,000 o ymwelwyr bob blwyddyn

  • Cyhoeddwyd

Bydd cau maenordy Llancaiach Fawr yn "golled fawr" i gymuned Gymraeg yr ardal, yn 么l Menter Iaith Caerffili.

Mae'r cyngor wedi penderfynu y bydd y plasty'n cau yn ddiweddarach eleni, sy鈥檔 golygu y bydd 20 o staff cyflogedig a 18 o staff gwirfoddol yn colli eu swyddi.

Daw hyn wedi i Gyngor Caerffili gynnal ymgynghoriad ar gau Sefydliad y Glowyr yn y Coed Duon a maenordy Llancaiach Fawr ger Nelson, yn ogystal 芒 thorri'r gwasanaeth Prydau Prydlon.

Mae'n rhaid i'r cyngor arbed 拢45m dros y ddwy flynedd nesaf.

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerffili, Sean Morgan, mai'r bwriad ydy lleihau'r defnydd o'r adeilad ond ei gadw mewn cyflwr da, cyn bod modd gwneud trefniadau newydd.

Bydd y broses yma鈥檔 cymryd hyd at saith mis, ac mae鈥檙 cyngor wedi neilltuo 拢53,000 ar gyfer cynnal a chadw'r adeilad.

Mae Llancaiach Fawr yn dyddio o'r 16eg ganrif, ac yn denu rhyw 60,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Roedd yn gartref i Eisteddfod yr Urdd yn 2015.

Yn 么l Cyngor Caerffili byddai cau'r safle ar ddiwedd 2024 yn arbed 拢485,000 y flwyddyn.

Ond mae鈥檙 penderfyniad wedi鈥檌 feirniadu gan bobl leol.

'Dibynnu ar y safle'

Dywedodd Tracy Reeves, rheolwr Gwasanaeth Plant Caerffili bod y safle'n cael ei ddefnyddio'n aml gan y fenter iaith.

"Ry'n ni'n anfon plant yna fel rhan o'n gofal ni - ysgolion yn mynd gan amlaf dechre Rhagfyr," meddai.

"Dyna lle mae prif ddigwyddiadau'r fenter hefyd fel ein Ffair Aeaf. Mae'n dod 芒鈥檙 gymuned leol at ei gilydd.

"Ry'n ni'n dibynnu ar y safle. Does dim unman arall i ni, mae'n leoliad ry'n ni mynd i weld eisiau.

"I鈥檙 gymuned, ma' pawb yn y sir yn eitha' falch bod hwnna gyda ni felly mae wir mynd i fwrw鈥檙 gymuned.

"Ac yn amlwg o ran y Gymraeg, mae鈥檔 golled fawr."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r safle yn atyniad diwylliannol i dwristiaid a phlant ysgol

Mae pobl sy'n cefnogi'r maenordy wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus ar y safle ar gyfer dydd Sadwrn, 5 Hydref i drafod ffyrdd o herio'r cynllun i gau鈥檙 adeilad.

Mae'r undeb llafur Unsain yn gwrthwynebu'r cynllun ac yn dweud y bydd yn "ddiwedd cyfnod".

Dywedodd Lianee Dallimore, ysgrifennydd cangen Unsain Caerffili bod yn rhaid 鈥済wneud popeth posib鈥 i gadw Llancaiach Fawr ar agor.

Mae ymgyrchwyr yn dadlau na ddylai鈥檙 penderfyniad fod yn ymwneud ag arian yn unig, ac y dylid diogelu'r atyniad diwylliannol i dwristiaid a phlant ysgol.

"Nid yn unig y mae'r amgueddfa'n ganolfan ddiwylliannol ac addysgol hanfodol i'r gymuned, mae hefyd yn cyflogi pobl," meddai Ms Dallimore.

"Mae'r cyfarfod cyhoeddus yn gyfle i ddangos cryfder y teimladau a herio'r cyngor i wneud popeth posibl i achub yr adeilad hanesyddol hwn."

'Cyn lleied o werth ar ein treftadaeth'

Mewn datganiad ar wefan gymdeithasol X, dywedodd Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru yn y Senedd fod y penderfyniad i gau鈥檙 adeilad yn 鈥渟iom鈥.

鈥淥s bydd yr adeilad hwn yn cau ei ddrysau, ry鈥檔 ni'n mynd i golli cysylltiad gyda gorffennol ein hardal," meddai.

鈥淣i fydd cyfleoedd i blant ddysgu am y bennod hon yn ein hanes.

鈥淒ydw i ddim yn deall sut mae cyn lleied o werth yn cael ei roi ar ein treftadaeth, a'r pethau yr ydym yn eu trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.

鈥淩wy鈥檔 teimlo'n hollol ddigalon 鈥 mae鈥檔 rhaid brwydro i'w achub."

Angen 'ail-ddehongli'r adeilad'

Yn 么l yr hanesydd Elin Jones mae penderfyniad y cyngor i gau鈥檙 maenordy ond parhau i ariannu Sefydliad y Glowyr yn un 鈥渄iddorol鈥.

Dywedodd bod cefnogaeth y gymuned i Sefydliad y Glowyr yn rhan fawr o鈥檙 penderfyniad hwnnw.

Ychwanegodd: 鈥淢ae Llancaiach yn adeilad agorwyd pan oedd arian yn llifo trwy鈥檙 awdurdodau.

鈥淣awr mewn amser o argyfwng, lle nad oes arian ar gael, does gan y cyngor ddim dewis.

鈥淢ae angen ailedrych ar y ffordd ma鈥 nhw鈥檔 dehongli hanes yr adeilad.

鈥淢ae鈥檔 adeilad sy鈥檔 cynrychioli hanes Lloegr ar hyn o bryd - dylen nhw ei ail-ddehongli yng nghyd-destun hanes Cymru.鈥

Pynciau cysylltiedig