'Y Gymraeg yn debyg i Tamil' yn 么l siaradwr newydd o Dde India
- Cyhoeddwyd
Feddyliech chi fyth bod iaith sy鈥檔 cael ei siarad yn bennaf yn Ne Asia yn debyg i鈥檙 Gymraeg. Ond mae Raj Ramachandran Subramanian, sydd yn dysgu Cymraeg ar hyn o bryd, yn gweld tebygrwydd rhwng yr iaith a鈥檌 famiaith, Tamil.
Mae Raj yn Uwch-ddarlithydd mewn cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Yn wreiddiol o India, mae鈥檔 teimlo ei bod hi鈥檔 bwysig i ddysgu iaith leol lle bynnag mae鈥檔 byw, er mwyn teimlo鈥檔 rhan o鈥檙 gymuned, felly mae wedi bod wrthi'n dysgu Cymraeg ers symud i Gasnewydd, dair blynedd yn 么l.
Teimlo'n rhan o gymuned
Felly beth oedd tu 么l i benderfyniad Raj i ddysgu鈥檙 Gymraeg ar 么l symud i Gymru?
鈥淒wi wastad wedi cael y gr锚d ei bod hi鈥檔 bwysig dysgu iaith y lle rydw i鈥檔 byw ar y pryd,鈥 meddai.
鈥淒wi鈥檔 dod o dde India, felly fy mamiaith yw Tamil, ond cefais i fy magu yn y dwyrain, felly 鈥檔es i dyfu lan yn clywed a dysgu Hindi, Bengali ac Urdu. Pan o鈥檔 in Bangalore, 鈥檔es i ddysgu Kannada, ac wedyn iaith Malayalam pan o鈥檔 i鈥檔 Trivandrum; dysgais i rhain am y cyfnod o鈥檔 i鈥檔 byw yno. O鈥檔 i hyd yn oed yn gallu darllen ac ysgrifennu ychydig yn yr ieithoedd hynny hefyd.
鈥淩oedd yn fy ngwneud i鈥檔 gyfforddus ac yn fy helpu i deimlo mod i鈥檔 perthyn i rywle. Ac mae鈥檔 dod 芒 ffordd gwahanol o feddwl hefyd. Mae pob iaith yn unigryw a gyda diwylliannau diddorol.
鈥淒yna pam dwi鈥檔 dysgu Cymraeg 鈥 er mwyn teimlo mod i gartref ac i feddwl fel Cymro. Dwi eisiau gweld Cymru drwy鈥檙 Gymraeg ac i ddod yn rhan o鈥檙 gymuned yma.鈥
Dysgu iaith ei wlad newydd
Mae Raj bellach wedi cyrraedd cyfnod Sylfaen ei gwrs dysgu Cymraeg. Ag yntau a鈥檌 deulu wedi penderfynu symud i Gasnewydd o Fryste, doedd dysgu iaith ei wlad newydd ddim yn ddewis anodd, meddai.
鈥淩oedden ni鈥檔 gwybod ein bod am symud yma, ac wedi gwneud y penderfyniad mai yma roedden ni am fod.
鈥淩oedd rhai pobl yn ceisio newid fy meddwl: 鈥楶am dysgu Cymraeg? Mae pawb yn siarad Saesneg!鈥 Ond ro鈥檔 i鈥檔 ymwybodol mai鈥檙 Gymraeg yw iaith a diwylliant brodorol Cymru, felly o鈥檔 i eisoes wedi penderfynu mod i am ddysgu鈥檙 iaith yn ffurfiol.鈥
Er fod yna ambell i unigolyn wedi ceisio newid ei feddwl, mae wedi derbyn llawer o gefnogaeth ers dechrau dysgu, meddai, sydd yn helpu gyda鈥檌 hyder.
鈥淵n amlwg, mae fy ngeirfa yn fach ar hyn o bryd, ond dwi鈥檔 trio defnyddio鈥檙 eirfa sydd gen i. Mewn darlithoedd a gweithdai, dwi鈥檔 dweud 鈥楤ore da鈥, 鈥榃yt ti eisiau paned nawr?鈥 a 鈥楬wyl fawr!鈥.
鈥淒wi wedi prynu ychydig o lyfrau Cymraeg, a dwi鈥檔 edrych ar S4C a gwrando ar Radio Cymru yn y cefndir o hyd.
鈥淒im ond yn ddiweddar mae gen i鈥檙 hyder i鈥檞 ddefnyddio mewn llefydd cyhoeddus; galla i archebu rhywbeth yn Gymraeg nawr. Ond mae鈥檔 gallu bod yn anodd oherwydd sut wyt ti鈥檔 gwybod pwy sydd yn ei siarad a phwy sydd ddim? A dwyt ti ddim eisiau pechu neb鈥 Ond unwaith i mi ddechrau, mae bron fel ail natur.
鈥淒wi鈥檔 defnyddio鈥檙 peiriannau talu yn yr archfarchnad a鈥檙 twll yn y wal yn Gymraeg, ac yn dweud diolch wrth y gyrrwr bws. Dwi ar gyrch i ddefnyddio鈥檙 Gymraeg gymaint ag y galla i!鈥
Tebygrwydd Tamil a鈥檙 Gymraeg
Mae mamiaith Raj, Tamil, a鈥檙 Gymraeg o deuluoedd ieithyddol hollol wahanol, gyda Tamil yn aelod o鈥檙 teulu Dravidian, a鈥檙 Gymraeg yn iaith Geltaidd. Ond yn ddiddorol, mae Raj yn sylwi ar fwy a mwy o elfennau tebyg rhwng y ddwy iaith sydd ar yr olwg gyntaf yn hollol wahanol.
鈥淢ae strwythurau鈥檙 ddwy iaith yn debyg, o ran fod y ddwy iaith yn ffonetig. Ac mae sut rydyn ni鈥檔 dweud rhifau yn Gymraeg yn debyg i Tamil. Yn Gymraeg, ry鈥檔 ni鈥檔 dweud 11, 12, sef un+deg+un, un+deg+dau ayyb, a dyna sut rydyn ni鈥檔 cyfrif mewn Tamil hefyd. Felly doedd yna ddim rhaid i mi gofio sut i gyfri, o鈥檔 i jest angen gwybod y rhifau o 1-10 ac o鈥檔 i鈥檔 gwybod sut i gario 'mlaen.
鈥淵na鈥檙 llythrennau ag ynganiad unigryw, fel LL ac CH 鈥 sydd yn parhau yn heriol! 鈥 mae synau unigryw yn Tamil hefyd.
鈥淩hywbeth arall sy鈥檔 hynod ddiddorol ydi dyddiau鈥檙 wythnos yn Gymraeg 鈥 Dydd Mercher, Dydd Iau, Dydd Gwener. Os ydych chi鈥檔 tynnu 鈥榙ydd鈥, rydych chi鈥檔 cael enwau鈥檙 planedau, ac mae hynny鈥檔 digwydd mewn Tamil hefyd.鈥
Ac yn wahanol i nifer o ddysgwyr eraill y Gymraeg, mae Raj wedi hen arfer 芒 threigladau鈥!
鈥淢ae treiglo hefyd yn bodoli yn Tamil, felly pan mae pobl yn gweld treiglo yn anodd, dwi o leiaf yn gwybod y rhesymeg tu 么l iddyn nhw. Dwi鈥檔 gwneud camgymeriadau, wrth gwrs. Ond mae鈥檙 rhesymeg fod treiglo yn ffordd i sicrhau iaith lyfn, gerddorol, hefyd yn rhywbeth dwi鈥檔 gyfarwydd ag e o Tamil.
鈥淢ae yna bendant rywbeth i edrych mewn iddo rhwng y ddwy iaith. Dwi鈥檔 si诺r ddo i o hyd i fwy wrth ddysgu!鈥
Mae hefyd wedi dysgu am debygrwydd yn hanes gwleidyddol y ddwy iaith, wrth i鈥檙 ddwy iaith leiafrifol geisio cadw tir yn erbyn ieithoedd llawer mwy pwerus; y Gymraeg gyda Saesneg, a Tamil gyda Saesneg a Hindi.
鈥淢ae yna debygrwydd diddorol rhwng y diwylliannau. Mae鈥檙 Gymraeg a Tamil yn ieithoedd hen iawn, felly dwi鈥檔 barod yn deall balchder y Cymry yn eu hiaith, mae hynny鈥檔 gyffredin gyda Tamil.鈥
Cynhadledd arloesol
Ym mis Ionawr, mae cynhadledd yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Met Caerdydd sy鈥檔 edrych ar gynaliadwyedd ieithoedd. Am y tro cyntaf erioed, bydd darlithoedd yn cael eu cynnal yn Gymraeg, Saesneg a Tamil, a fydd yn brofiad newydd i rai academyddion Tamil-eu-hiaith, eglura Raj:
鈥淢ae addysg y ddwy wlad yn debyg, o ran bod yna ysgolion cyfrwng Tamil, fel rhai cyfrwng Gymraeg. Ond ar 么l graddio, mae鈥檔 rhaid i fyfyrwyr droi at addysg Saesneg; ychydig bach o gyrsiau prifysgol sydd drwy鈥檙 Tamil.
鈥淎c mae 鈥榥a stigma yn erbyn defnyddio鈥檙 iaith mewn amgylchedd academaidd swyddogol. Mae yna reolau answyddogol na ddylech chi ddefnyddio Tamil; mae鈥檔 cael ei ystyried yn amhroffesiynol. Mae hi鈥檔 iawn i siarad Tamil gyda gwerthwr ar stondin farchnad, ond os wyt ti鈥檔 siarad 芒鈥檙 rheolwr banc, gwell defnyddio Saesneg.鈥
Roedd hi鈥檔 syndod i rai academyddion felly, meddai Raj, fod cynhadledd academaidd yn hapus iddyn nhw gyflwyno papurau drwy gyfrwng Tamil, gyda rhai yn cwestiynu pam fod angen gwneud hynny, os ydi pawb yn deall Saesneg:
鈥淒adl rhai ydi fod yna ddim pwynt addysgu drwy Tamil achos mae鈥檙 holl wybodaeth wyddonol a鈥檙 datblygiadau technolegol yn digwydd yn Saesneg. Beth ydw i鈥檔 ei ddweud ydi, os na fydd siaradwyr iaith gyntaf yn cyfrannu, pwy fydd? Os na fydd siaradwyr Tamil yn cyfrannu at y wybodaeth wyddonol, fydd gennym ni ddim y wybodaeth wyddonol yn yr iaith yna. Dyna beth yw鈥檙 bwriad, sef annog y math yna o drafodaeth o fewn y byd academaidd.
鈥淎c mae o am gael y dair iaith i ddod at ei gilydd, ac i bawb gael yr un profiad o wrando ar yr holl ieithoedd. Bod yn barchus tuag at ieithoedd gwahanol a rhoi鈥檙 un cyfle i bawb.鈥
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2023