Shamrock Rovers yn trechu'r Seintiau yng Nghyngres UEFA
- Cyhoeddwyd
Cafodd Y Seintiau Newydd eu trechu oddi cartref yng Ngweriniaeth Iwerddon yng Nghyngres UEFA nos Iau, wrth i Shamrock Rovers ennill o 2-1.
Aeth y Seintiau ar y blaen wedi chwarter awr gyda g么l gan Jordan Williams, cyn i'r t卯m cartref daro n么l yn fuan wedi hynny trwy Johnny Kenny.
Shamrock Rovers oedd y t卯m gorau, a chyn hanner amser fe aethon nhw ar y blaen wrth i Dylan Watts rwydo o groesiad Darragh Burns.
Roedd hi'n ail hanner agored, ond roedd cyfleoedd da yn brin, ac roedd y Gwyddelod yn haeddu'r fuddugoliaeth.
Shamrock Rovers yw'r t卯m mwyaf llwyddiannus erioed yng nghynghreiriau Gweriniaeth Iwerddon, ac fe ddaethon nhw yn ail y tymor hwn - tymor a ddaeth i ben nos Wener ddiwethaf.
Roedd y Seintiau wedi ennill un a cholli un yng Nghyngres UEFA cyn y g锚m yn Nulyn nos Iau.
Fe gafon nhw eu trechu gan Fiorentina o'r Eidal, cyn sicrhau buddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Astana o Kazakhstan yn Amwythig - ble mae'r Seintiau yn chwarae eu gemau cartref yn y gystadleuaeth.
Y Seintiau yw'r clwb cyntaf o gynghreiriau Cymru i gyrraedd rownd y grwpiau - neu rownd y gynghrair fel yw hi o eleni ymlaen - yn un o brif gystadlaethau Ewrop.
Mae gan bencampwyr Cymru dair g锚m yn weddill yn y rownd yma - gartref yn erbyn Djurg氓rdens o Sweden a Panathinaikos o wlad Groeg, ac oddi cartref yn erbyn Celje o Slofenia.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref
- Cyhoeddwyd3 Hydref
- Cyhoeddwyd30 Awst