Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y 'Strat' yn 70: Cerddorion Cymru a'r git芒r eiconig
Yn 1954 daeth git芒r drydanol newydd sbon danlli ar y farchnad a newidiodd bopeth.
Wedi ei wneud yn boblogaidd dros y blynyddoedd gan bobl fel Buddy Holly, Jimi Hendrix, Jeff Beck, a Nile Rodgers - mae鈥檙 Fender Stratocaster yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 eleni.
Dyma olwg ar rai o鈥檙 cerddorion o Gymru sydd wedi chwarae鈥檙 git芒r eiconig yma, gyda chyfraniadau gan ambell un yn esbonio pam fod y 'Strat' mor boblogaidd.
Tich Gwilym
Os oes 'na ffasiwn beth 芒 鈥楧uw git芒r鈥 yng Nghymru, Tich Gwilym yw hwnnw. Fe ddysgodd ei grefft yn chwarae ar hyd a lled tafarndai Caerdydd, cyn ffurfio鈥檙 band Kimla Taz. Fe aeth ymlaen i chwarae gyda nifer o artistiaid Cymraeg gan gynnwys Geraint Jarman a Si芒n James.
Yn 2005, bu farw Tich mewn t芒n yn ardal Treganna, Caerdydd, ag yntau ddim ond yn 54 mlwydd oed.
Ritzy Bryan (Joy Formidable)
Mae Ritzy, prif leisydd The Joy Formidable, yn chwarae git芒rs Stratocaster ers yn 15 mlwydd oed.
Ritzy: 鈥淒wi heb ffeindio git芒r sy鈥 cystal 芒鈥檙 Strat. Mae鈥檙 gwddf a鈥檙 ffordd mae鈥檔 teimlo i鈥檙 breichiau a鈥檙 bysedd... mae鈥檔 teimlo fel estyniad o dy hun. Mae鈥檔 git芒r ffantastig. A鈥檙 s诺n wrth gwrs.
鈥淢ae o鈥檔 andros o versatile. Dwi'n mwynhau gallu chwarae rhywbeth sparkly a melodic un munud a newid i rhywbeth b芒s a brawychus y munud nesa.鈥
Len 'Lendrix' Jones
Mae Len Jones, neu 鈥楲endrix鈥 fel mae鈥檔 cael ei adnabod ar y s卯n, yn adnabyddus am ei ddawn ar y git芒r. Gyda鈥檙 Strat yn hongian dros ei ysgwydd, mae wedi chwarae gyda nifer o fandiau dros y blynyddoedd gan gynnwys Rhiannon Tomos a鈥檙 band, Br芒n a Profiad.
Len: 鈥淣es i glywed Jimi Hendrix am y tro cyntaf y diwrnod y buodd o farw ar 18 Medi 1970 - 'nath o chwythu fy meddwl i a fy ysbrydoli i ddysgu'r git芒r.
鈥淵n bersonol, mae ganddo'r sain nodweddiadol 'na - sain y Strat - sydd yn gweddu steil unigryw pwy bynnag sy'n ei chwarae.鈥
Elis Derby
Elis: 鈥淵 Strat sydd gen i r诺an ydi鈥檙 unig gitar dwi鈥檔 gwybod o sicrwydd fydda i byth yn ei werthu. Honna dwi 'di bod yn chwarae yn bron i bob gig, ac ar bob recordiad oni bai am rai mwy diweddar.
"Mi wnes i ei brynu yn 2016 pan o'n i鈥檔 y coleg yn astudio cerddoriaeth.
"Fel rhan o鈥檙 cwrs o鈥檔 i鈥檔 gorfod ymarfer lot ar fy offeryn ac astudio鈥檙 greats. Clapton, Jimi Hendrix, David Gilmour, ayyb.
"Fender Strat oedden nhw i gyd yn chwarae, felly mi wnaeth hynny si诺r o fod ddylanwadu ar fy mhenderfyniad i鈥檞 brynu.
鈥淥s gofynnwch chi i rywun dynnu llun o git芒r drydan, swn i鈥檔 meddwl mai鈥檙 git芒r yma fysa鈥檔 dod i feddwl pawb gynta. Tydi hi heb newid ei design ers 70 mlynedd - if it ain鈥檛 broke鈥︹赌
Griff Lynch (Yr Ods)
Mae Stratocasters gwyn yn hynod boblogaidd ers i Jimi Hendrix chwarae un yn ei berfformiad enwog yng ng诺yl Woodstock yn 1969, ond mae鈥檔 debyg mai artist fwy diweddar na hynny a ddylanwadodd ar Griff Lynch, gitarydd yr Ods.
Griff: 鈥淧an 'nes i ddechra perfformio a chreu cerddoriaeth, roedd 'na lot o gerddorion dylanwadol newydd yn defnyddio鈥檙 Strat.
鈥2007, cyfnod cynnar Arctic Monkeys a The Strokes, a toman o fandiau sydd bellach wedi鈥檜 labelu fel indie landfill. Roedda nhw i gyd yn gwneud i鈥檙 Strat edrych yn cool yn fy meddwl i, a mi oedd cael s诺n uchel screechy, oedd mor boblogaidd ar y pryd, yn dod yn hawdd i鈥檙 gitar.鈥
Hana Lili
Un arall sy鈥檔 chwarae Strat gwyn yw Hana Lili. Mae hi鈥檔 artist sydd wedi mwynhau cryn dipyn o lwyddiant yn ddiweddar.
Yn 2021 fe gafodd ei cherddoriaeth ei ddefnyddio ar y gyfres deledu Love Island, ac yn 2023 fe gefnogodd hi'r band Coldplay yn Stadiwm Principality, Caerdydd.
Iwan Huws (Cowbois Rhos Botwnnog)
Iwan: 鈥淵 si芒p ydi鈥檙 prif beth i mi. Os gofynni di i rywun dynnu llun o git芒r drydan, mae 'na siawns da iawn mai llun o Strat wnawn nhw! A does na鈥檓 tebyg i s诺n y neck pick-up 'chwaith.
鈥淥 ran chwaraewyr dylanwadol - Mark Knopfler wrth gwrs.鈥
Carwyn Ellis
Yn ogystal 芒鈥檌 brosiectau Colorama a Rio18 mae Carwyn hefyd yn adnabyddus fel cerddor sesiwn sy鈥 wedi chwarae gydag Edwyn Collins, Oasis ac yn fwy diweddar, The Pretenders.
Y Trwynau Coch
Band pync/pop-p诺er Cymraeg o Gwm Tawe oedd Y Trwynau Coch. Beth welwch chi yn y llun yma? Nid un ond dau Fender Stratocaster!
Gyda llawer mwy o gerddorion o Gymru heb eu cynnwys ar y rhestr yma, does dim arwydd fod poblogrwydd y git芒r yn pylu, 70 o flynyddoedd ers i鈥檙 cyntaf gyrraedd y siopau.
Felly pen-blwydd hapus a hir oes i鈥檙 Strat a鈥檌 gyfraniad diamheuol i gerddoriaeth Gymraeg.