大象传媒

Cyfradd uwch o drenau'n cael eu canslo yng Nghymru

Tr锚n
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o drenau Trafnidiaeth Cymru yng ngorsaf Caerdydd Canolog

  • Cyhoeddwyd

Yng Nghymru y mae'r gyfradd uchaf o drenau i gael eu canslo yn y DU hyd yma yn 2023, yn 么l ymchwil gan y 大象传媒.

Mae adolygiad o wasanaethau tr锚n yn dangos bod 7% o wasanaethau wedi eu canslo yma yng Nghymru.

Mae gwybodaeth National Rail, sydd wedi ei chasglu gan On Time Trains hefyd, yn dangos mai dim ond 43% o drenau gyrhaeddodd ar amser yng Nghymru - yr ail ffigwr isaf yn y DU.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod yna nifer fwy nag arfer o wasanaethau wedi eu canslo yn ystod cyfnod pan roedd yna brinder trenau.

Mae'r ystadegau'n cynnwys gwybodaeth am wasanaethau tr锚n mewn 2,555 o orsafoedd ar draws y DU.

Yn ogystal 芒'r gyfradd fwyaf o wasanaethau wedi eu canslo hyd yma yn 2023, roedd 8% o drenau dros 10 munud yn hwyr yn cyrraedd yma yng Nghymru.

Mewn cymhariaeth gyda 100 o'r gorsafoedd prysuraf eraill yn y DU roedd yr ystadegau yn dangos bod hanner y trenau yng ngorsaf Caerdydd Canolog yn rhedeg ar amser.

Mae Caerdydd Canolog ymhlith y 40 gorsaf brysuraf ym Mhrydain yn 么l defnydd teithwyr.

'Problemau dros dro wedi eu datrys'

Trafnidiaeth Cymru sydd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o wasanaethau tr锚n Cymru.

Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol, Jan Chaudhry-Van der Velde: "Roedd yr amser rhwng Ionawr a Gorffennaf 2023 yn cynnwys cyfnod pan roedd yna brinder trenau oherwydd bod tair injan yn ein fflyd wedi mynd ar d芒n.

"Bu'n rhaid tynnu rhai trenau oddi ar y cledrau er mwyn eu trwsio a'u gwneud yn ddiogel.

"Fe achosoddd y prinder at ganslo nifer uwch nag arfer o wasanaethau."

Ychwanegodd bod y "problemau dros dro" bellach wedi eu datrys.

Pynciau cysylltiedig