Neil Foden: Galwadau am ymchwiliad cyhoeddus
- Cyhoeddwyd
Mae'r galwadau'n cryfhau am ymchwiliad cyhoeddus i droseddau rhyw Neil Foden yn erbyn plant.
Ddydd Llun, cafodd y cyn-bennaeth yng Ngwynedd i ddedfrydu i 17 o flynyddoedd yn y carchar am gam-drin merched yn rhywiol.
Mewn cyfweliad 芒 Newyddion S4C, mae'r actores Sera Cracroft, siaradodd yn ddiweddar am ei phrofiad hi o gael ei cham-drin yn rhywiol fel plentyn, yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i weld beth aeth o'i le.
Ac ar lawr y Senedd, fe alwodd Aelod Arfon, Sian Gwenllian hefyd am ymchwiliad statudol fyddai'n gorfodi rhai i roi tystiolaeth.
Ddiwedd y llynedd, fe siaradodd Sera Cracroft yn gyhoeddus am y tro cyntaf am gael ei cham-drin yn rhywiol fel plentyn.
Wrth ymateb i achos Foden, mae'n dweud ei bod yn poeni nad yw'r adolygiad ymarfer plant presennol yn ddigonol i roi cyfiawnder i'r dioddefwyr.
Dywedodd: "Be鈥 sydd wedi fy ngwylltio i ydy bod pobl wedi s么n bo' nhw鈥檔 poeni am y p诺er o鈥檇d gynno fo 鈥 naill ai bod o鈥檔 bwlio pobl neu bod o鈥檔 bihafio鈥檔 anweddus 鈥 i mi di o鈥檓 fatha bod 'na neb 'di cymryd sylw."
'Rhaid i ni 'neud rhywbeth amdano fo'
Ychwanegodd Sera Cracroft bod yn "rhaid ni gael ymchwiliad cyhoeddus".
"Mae鈥檔 rhaid i bobl gael eu gorfodi i fod yno, ac mae鈥檔 rhaid i nhw ddweud ar lw beth o鈥檇d 鈥榙i digwydd achos ma鈥 hwnna鈥檔 mynd i helpu鈥檙 merched sydd wedi dioddef, a falle pobl eraill, i ddallt bod pobl yn gwrando arnon nhw a dyla鈥 fod pethau fel hyn ddim yn digwydd.
"Maen nhw鈥檔 mynd i ddigwydd yn y dyfodol - ond mae鈥檔 bwysig bod ni鈥檔 cydnabod bod rhaid ni 'neud rhywbeth amdano fo."
Wrth s么n am ei phrofiad hi o gael ei cham-drin mae'n dweud mai'r hyn sy'n digwydd "ydy bod rhywun 鈥榙i cymryd eich p诺er chi oddi wrthych chi".
"Mewn ffordd, mae pob troseddwr rhywiol yn defnyddio鈥檜 p诺er dros rhywun 鈥 a mae鈥檔 bwysig cael hwnna n么l mewn ffordd, a mae 'na ffordd i gael o 鈥榥么l."
Ar lawr y Senedd brynhawn Mawrth, fe alwodd aelod Plaid Cymru dros Arfon hefyd am ymchwiliad cyhoeddus i droseddau Neil Foden.
鈥淩haid i ni r诺an roi blaenoriaeth i sicrhau nad oes yna unrhyw blentyn - unrhyw blentyn - yn dioddef fel hyn byth eto,鈥 meddai Si芒n Gwenllian AS yn siambr y Senedd ddydd Mawrth, yn sgil dedfryd Neil Foden.
Ym mis Mai cafwyd Foden yn euog o 19 o gyhuddiadau o gam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.
Roedd Foden, 66, yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn bennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.
鈥'Dw i yn gobeithio y bydd yr adolygiad ymarfer plant sy'n cael ei gynnal gan fwrdd diogelu'r gogledd yn mynd peth o'r ffordd at gyrraedd y sefyllfa honno,鈥 medd Si芒n Gwenllian AS.
鈥淥nd mae yna alwadau cynyddol am ymchwiliad statudol. Yn fy marn i, dyna'r unig ffordd i ddysgu'r holl wersi er mwyn atal troseddau dychrynllyd rhag digwydd i'r dyfodol.
鈥淔elly, a wnewch chi sicrhau datganiad gan y Llywodraeth cyn toriad yr haf yn amlinellu ymateb y Llywodraeth i'r alwad am ymchwiliad statudol? Dyma'r ail waith r诺an i fi godi'r mater yma yn y Siambr."
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd15 Mai
Mewn ymateb, fe ddywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol o'r Blaid Lafur fod achos Foden yn 鈥渟yfrdanol a gofidus,鈥 gan ganmol dewrder y dioddefwyr a roddodd dystiolaeth yn yr achos llys.
Dywedodd Jane Hutt AS: 鈥淢ae鈥檔 rhaid i ni gadw pawb gafodd eu heffeithio gan ymddygiad troseddol, rheolaethol a chreulon Neil Foden yn ein meddyliau.鈥
Esboniodd bod y corff diogelu rhanbarthol yn cynnal adolygiad ymarfer plant, a bod yn rhaid gadael i hwnnw gael ei gwblhau.
鈥淢ae hwn yn adolygiad annibynnol, sy鈥檔 golygu y bydd r么l asiantaethau perthnasol yn cael eu hystyried a bydd yn awgrymu sut y gellir wella ymarferion diogelu yn y dyfodol.鈥
鈥淢ae鈥檔 rhaid i ni sicrhau ein bod yn gadael i'r broses honno ddigwydd, a gwrando ar beth sydd gan bobl sy鈥檔 rhoi tystiolaeth i'w ddweud, cyn gwneud unrhyw benderfyniadau am ba gamau eraill y gall fod eu hangen.鈥
Fe ddywedodd y Blaid Geidwadol nad oedden nhw am wneud sylw am y galwadau am ymchwiliad cyhoeddus.
'Ystyried pob opsiwn'
Hefyd yn ymateb i achos Foden ddydd Mawrth oedd Comisiynydd Plant Cymru, a ddywedodd nad oedd hi'n "diystyru unrhyw opsiwn".
鈥淕allwn ni ddim caniat谩u i'r profiadau erchyll hyn ddigwydd heb ddysgu unrhyw wersi er mwyn diogelu plant yn well yn y dyfodol," medd Roc铆o Cifuentes.
鈥淩wyf wedi cwrdd ag uwch swyddogion o鈥檙 awdurdod lleol a byddaf yn cwrdd 芒 chadeirydd y Bwrdd Diogelu yn fuan.
鈥淔y mhryderon presennol fel y Comisiynydd Plant ydy sicrhau bod y camau nesaf y mae鈥檙 bwrdd diogelu鈥檔 eu cymryd mor gryf a thrwyadl a sy'n bosib.
鈥淩wyf am gael fy narbwyllo fod ffiniau'r adolygiad ymarfer plant yn ddigon eang er mwyn dod o hyd i'r gwersi hyn.
鈥淭an hynny, 'dw i ddim yn diystyru unrhyw opsiynau.鈥