大象传媒

Llofrudd Lynette White yn gwneud chweched cais am bar么l

Jeffrey GafoorFfynhonnell y llun, Media Wales
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyfaddefodd Jeffrey Gafoor iddo drywanu Lynette White mewn ffrae dros 拢30

  • Cyhoeddwyd

Bydd un o lofruddion mwyaf drwg-enwog Cymru yn wynebu bwrdd par么l am y chweched tro ddydd Iau.

Cafodd Jeffrey Gafoor ei garcharu yn 2003 am lofruddiaeth Lynette White ym 1988.

Yn wreiddiol fe gafodd tri dyn arall eu carcharu am y drosedd cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau gan y Llys Ap锚l.

Fe gafodd Gafoor ei garcharu am oes gyda gorchymyn iddo dreulio o leiaf 13 mlynedd dan glo. Daeth y cyfnod yna i ben yn 2016.

Fe fydd gwrandawiad par么l Gafoor ddydd Iau yn cael ei gynnal yn breifat.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Lynette White ei thrywanu dros 50 o weithiau mewn fflat yn nociau Caerdydd yn 1988

Dyma fydd chweched gwrandawiad par么l Gafoor, ac mae'n bosib na fydd y penderfyniad yn cael ei wneud am hyd at bythefnos arall.

Cafodd tri chais i'r gwrandawiad yma fod yn gyhoeddus eu gwrthod, gyda'r bwrdd par么l yn dweud nad oedd yn "briodol".

Dywedodd John Actie, un o鈥檙 pum dyn a dreuliodd amser yn y carchar ar gam am y llofruddiaeth, y dylai鈥檙 gwrandawiad fod yn gyhoeddus.

Hanes yr achos

Cafodd Lynette White ei thrywanu dros 50 o weithiau mewn fflat yn nociau Caerdydd ar Ddydd Sant Ffolant 1988.

Aeth pump o ddynion gerbron llys yn 1990 wedi'u cyhuddo o'i lladd.

Cafodd tri ohonyn nhw - Tony Paris, Yusef Abdullahi a Stephen Miller, a ddaeth yn adnabyddus fel Tri Caerdydd - eu carcharu am oes yn 1990, cyn cael eu rhyddhau ar ap锚l yn 1992.

Yn 2003 fe wnaeth Heddlu De Cymru ddefnyddio technoleg DNA newydd i'w harwain at y llofrudd go iawn.

Cyfaddefodd Gafoor iddo drywanu Ms White mewn ffrae dros 拢30.

Pynciau cysylltiedig