'Mor siomedig dros y merched': Mwy o honiadau am gyn-seren b锚l-droed
- Cyhoeddwyd
Mae hyd at 70 o rieni a busnesau bellach yn honni eu bod wedi colli arian i鈥檙 cyn b锚l-droediwr rhyngwladol Natasha Harding.
Y gred yw y gallai鈥檙 cyfanswm sydd wedi ei golli fod bron yn 拢70,000.
Mae cyn-gapten Reading, sydd nawr yn defnyddio ei chyfenw priodasol Allen-Wyatt, yn wynebu nifer o honiadau gan gynnwys cymryd arian am sesiynau hyfforddi un-i-un gyda phlant, wnaeth ddim cael eu cwblhau.
Dywedodd Ms Allen-Wyatt ei bod hi wedi gorfod canslo 鈥渞hai sesiynau鈥 oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i鈥檞 rheolaeth, gan ymddiheuro i鈥檙 rheiny a gafodd eu heffeithio.
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn 么l
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn 么l
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn 么l
Ers i鈥檙 honiadau ymddangos yn gyntaf, mae rhieni a busnesau o ogledd a de Cymru, a siroedd Caerloyw a Chaerwrangon yn Lloegr, wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru am eu profiadau hwythau gyda Ms Allen-Wyatt, gyda鈥檙 honiadau newydd yn dod i 拢27,000.
Yn y cyfamser mae rhiant a sefydlodd gr诺p WhatsApp ar gyfer y rheiny sydd wedi鈥檜 heffeithio yn dweud bod eu cyfanswm nhw yn tua 拢40,000.
Mae adroddiadau wedi eu gwneud i sawl llu heddlu yng Nghymru a Lloegr, a rhai wedi eu pasio ymlaen i Action Fraud, sy鈥檔 cydlynu cwynion twyll o bob rhanbarth.
Dywedodd Action Fraud bod o leiaf un adroddiad 鈥測n cael ei asesu ar hyn o bryd鈥 gan y Fenter Twyll Genedlaethol.
Mae rhai o gyn gyd-chwaraewyr Ms Allen-Wyatt hefyd wedi dweud wrth y 大象传媒 fod rhai o鈥檌 gweithredoedd wedi 鈥渆ffeithio arnom ni, ein teuluoedd a鈥檔 ffrindiau鈥.
Cafodd un o鈥檌 chyn-glybiau, Manchester City, eu hannog i dorri cysylltiadau gyda hi fel sylwebydd, yn dilyn yr honiadau.
Mae Andy Hughes yn hyfforddwr gwirfoddol gyda th卯m merched dan-12 a dan-13 Neuadd Llaneurgain yn Sir y Fflint.
Dywedodd fod Ms Allen-Wyatt wedi cynnig sesiynau un-i-un i aelodau o鈥檌 d卯m ar 么l iddi ymddangos ar ei bodlediad, 鈥楾his Girl Can Play鈥, a chrybwyll ei bod hi eisiau ehangu ei hacademi i鈥檙 gogledd.
Fe wnaeth 12 o chwaraewyr gytuno i 10 sesiwn hyfforddi, ar gost o 拢280 y chwaraewr.
Ond dim ond dau floc o sesiynau gafodd eu rhoi, gyda sesiynau diweddarach yn cael eu canslo neu ohirio ar 么l i Ms Harding ddweud wrth Mr Hughes ei bod hi wedi cael dwy brofedigaeth yn y teulu.
Ni chafodd unrhyw sesiynau eraill eu trefnu, a dywedodd Mr Hughes nad oedd unrhyw ad-daliadau wedi eu rhoi.
鈥淩o'n i鈥檔 siomedig iawn, iawn,鈥 meddai.
鈥淚 rywun sydd wedi chwarae鈥檙 g锚m ar y lefel yna ac sy鈥檔 eicon i鈥檙 genhedlaeth nesaf o b锚l-droedwyr benywaidd, roedd y sesiynau yma鈥檔 bwysig iawn.
鈥淪ut ydych chi鈥檔 esbonio i ferch 11 oed nad yw un o鈥檜 harwyr mewn crys Cymru yn mynd i ddod i鈥檞 hyfforddi nhw wedi鈥檙 cwbl, a鈥檌 bod wedi eu gadael nhw lawr?
鈥淒wi mor siomedig fod rhywun y gwnaethon ni gyflwyno fel cyfle gwych wedi troi allan fel hyn.
"Mae鈥檔 bechod mawr achos roedd y sesiynau a roddodd hi鈥檔 dda.鈥
Fe wnaeth Daniel Rees, sy鈥檔 rhedeg cwmni Cardiff Classic Shirts, gytuno i noddi Ms Allen-Wyatt ar 么l iddi gysylltu ag ef drwy gyfryngau cymdeithasol.
Rhoddodd 拢500 iddi, gydag addewid y byddai ei gwmni鈥檔 cael eu hysbysebu ar grysau ymarfer a siacedi ei hacademi am ddwy flynedd.
Dywedodd Mr Rees nad oedd wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod hyn wedi digwydd, ac nad yw wedi derbyn esboniad gan Ms Allen-Wyatt er iddo geisio cysylltu 芒 hi.
鈥淒oeddwn i methu ffeindio unrhyw luniau o grysau oedd i fod wedi cael eu printio - dim ond braslun gafodd ei anfon i mi,鈥 meddai.
鈥淣es i erioed feddwl y gwaethaf, jyst meddwl ei bod hi鈥檔 cael rhediad o lwc wael ac y byddai pethau鈥檔 iawn.
鈥淚 weld bod y peth mor eang nawr, mae wedi dod fel sioc i鈥檙 system.鈥
Cafodd Mr Rees hefyd addewid o ddau grys Gymru wedi鈥檜 gwisgo mewn gemau, ond ddaeth rheiny fyth.
Fe brynodd Kate Parker, cefnogwr Cymru brwd, sesiynau hyfforddi fel anrheg Nadolig i鈥檞 nith ar 么l gweld Academi Tash Harding ar y cyfryngau cymdeithasol.
Talodd Ms Parker, sy鈥檔 rhedeg dau dafarn yn ardal Caerffili, ragor o arian hefyd am noddi drwy鈥檙 academi a chit i鈥檞 nith, gyda鈥檙 cyfanswm yn dod i 拢1,335.
Ond dim ond un sesiwn ymarfer a roddwyd, gydag un arall wedi ei ganslo, ac yn y diwedd fe ofynnodd Ms Parker am ad-daliad llawn.
Dim ond 拢350 sydd wedi ei ddychwelyd iddi, mewn tri thaliad, gydag 拢885 dal yn weddill.
'Mae鈥檔 beth mawr pan chi鈥檔 blentyn'
鈥淩oedd hi wedi addo crys Cymru i fy nith hefyd,鈥 meddai Ms Parker. 鈥淢ae鈥檔 beth mawr pan 'dych chi鈥檔 blentyn.
鈥淢ae鈥檔 reit swil [ei nith]. Dwi wedi bod i cwpl o鈥檌 gemau p锚l-droed a dydi hi ddim yn cymryd rhan cymaint 芒鈥檙 lleill.
鈥淩oedd hi鈥檔 reit drist ond fe wnaeth fy chwaer esbonio wrthi nad oedd [y sesiynau hyfforddi] yn gallu digwydd, a dyna ni.鈥
Fe wnaeth 大象传媒 Cymru gysylltu gyda Natasha Allen-Wyatt am ymateb i鈥檙 honiadau diweddaraf, ond ni chafwyd ymateb.