大象传媒

Cyn-weinidog yn awgrymu y dylai Andrew RT Davies fynd

Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Andrew RT Davies wedi bod yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ers 2021, yn ei ail gyfnod yn y r么l

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-weinidog cabinet Ceidwadol yn dweud fod ganddo amheuon ai Andrew RT Davies ddylai arwain y Tor茂aid yn y cyfnod cyn etholiad nesaf y Senedd.

Mae Stephen Crabb yn rhybuddio y bydd etholiad 2026 yn 鈥渁nodd鈥 i鈥檙 blaid, a鈥檌 bod hi'n "debygol" bod y blaid angen arweinydd arall.

鈥淥s oes angen i鈥檙 blaid newid er mwyn goroesi, mae鈥檔 anoddach gwneud hynny pan mae gennych chi鈥檙 un personoliaethau,鈥 meddai Crabb, a fu'n gwasanaethu yn y cabinet fel ysgrifennydd Cymru ac ysgrifennydd gwaith a phensiynau.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cael cais i wneud sylw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Stephen Crabb fod angen i'r blaid yng Nghymru gael arweinydd newydd

Ar hyn o bryd mae Davies ar ei ail gyfnod fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd. Bu'n arweinydd am y tro cyntaf rhwng 2012 a 2018 a dychwelodd yn 2021.

Mae wedi bod dan bwysau yn ystod y misoedd diwethaf ar 么l iddo gael ei gyhuddo o wneud sylwadau Islamoffobaidd gan gr诺p Mwslemaidd ac wedi i aelod o'i blaid ei gyhuddo o ddefnyddio iaith amhriodol.

Wrth siarad 芒 James Williams ar 大象传媒 Radio Wales Breakfast, rhybuddiodd Crabb nad oedd y Ceidwadwyr mewn sefyllfa dda ar gyfer etholiad nesaf y Senedd yn 2026.

"Rwy'n meddwl y bydd yn etholiad anodd. Bydd Reform yn edrych ar adeiladu ar yr enillion y maent wedi'u gwneud yn etholiadol ... roedd llawer iawn o bobl yn pleidleisio dros Reform ym mis Gorffennaf," meddai.

Dywedodd nad oedd y blaid wedi bod yn "ddigon da am ddarparu polis茂au amgen".

Pan ofynnwyd iddo ai Davies oedd yr arweinydd cywir ar gyfer etholiad nesaf y Senedd, dywedodd Crabb: "Dydw i ddim yn hoffi gwneud sylwadau am bersonoliaethau."

Ond ychwanegodd: 鈥淥s ydych chi鈥檔 gofyn i mi a ydw i鈥檔 meddwl bod angen adfywio鈥檙 blaid Gymreig a'r arweinyddiaeth yng Nghymru, mae鈥檔 debyg byddwn yn dweud ydw.

鈥淥s oes angen i鈥檙 blaid newid er mwyn goroesi, mae鈥檔 anoddach gwneud hynny pan mae gennych yr un personoliaethau.鈥

Ychwanegodd nad oedd wedi ystyried sefyll fel ymgeisydd ei hun yn etholiad Senedd 2026.

Cefnogaeth gan gadeirydd gr诺p

Daw鈥檙 sylwadau ar 么l i gyn-bennaeth cysylltiadau cyhoeddus Downing Street, Guto Harri, ddweud bod angen 鈥渁rweinyddiaeth newydd鈥 ar y Ceidwadwyr yn y Senedd ac nad oedden nhw 鈥測no i dderbyn cyflog yn unig鈥.

Bu Crabb yn AS dros Breseli Sir Benfro tan etholiad cyffredinol yr haf, pan gollodd ei sedd, fel y gwnaeth yr holl Geidwadwyr Cymreig eraill.

Siaradodd y cyn AS wrth i鈥檞 blaid gyfarfod yn Birmingham ar gyfer ei chynhadledd flynyddol.

Dywedodd Crabb ei bod yn amlwg y byddai'r blaid yn wynebu "colled enfawr ym mis Gorffennaf" oherwydd fod y cyhoedd wedi "colli ymddiriedaeth mewn llywodraeth Geidwadol".

Roedd yn gobeithio y byddai arweinydd nesaf y Tor茂aid "yn meddiannu'r tir canol".

Yng nghynhadledd y blaid, dywedodd cadeirydd gr诺p Senedd y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Kurtz, fod ganddo ef a gr诺p y Senedd "hyder llawn" yn Davies.

"Rwy'n meddwl ein bod yn gweithio'n ddiflino i gyflwyno llu o bolis茂au a fydd yn ddeniadol i holl bleidleiswyr Cymru yn 2026," ychwanegodd yr Aelod Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.