大象传媒

Tomasz Waga: Gollwng cyhuddiadau yn erbyn dau ddyn

Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafwyd hyd i Tomasz Waga yn farw yng Nghaerdydd ym mis Ionawr 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae cyhuddiadau wedi cael eu gollwng yn erbyn dau ddyn mewn cysylltiad 芒 marwolaeth dyn a gafodd ei ladd yng Nghaerdydd am geisio dwyn cyffuriau.

Fe gafodd Tomasz Waga ei lofruddio gan aelodau giang ym mis Ionawr 2021 wedi iddo geisio dwyn gwerth tua 拢120,000 o gyffuriau o ffatri ganabis mewn t欧.

Roedd Elidon Elezi, 23 oed ac o East Finchley yn Llundain, ac Artan Palluci, 31 oed ac o Gaerdydd, yn wynebu cyhuddiadau o gymryd rhan yng ngweithgareddau gr诺p troseddol (organised crime group) ac o dorri amodau mechn茂aeth.

Fe glywodd gwrandawiad yn Llys Y Goron Casnewydd ddydd Mercher bod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dod 芒'r achos yn erbyn y ddau i ben.

Fe gafwyd Josif Nushi a Mihal Dhana yn euog fis Rhagfyr y llynedd o lofruddio Mr Waga, a Hysland Aliaj yn euog o ddynladdiad.

Roedd dau ddyn arall, Gledis Mehalla a Mario Qatoand, eisoes wedi eu cael yn ddieuog o lofruddiaeth.

Pynciau cysylltiedig