大象传媒

Llywydd y Gymdeithas B锚l-droed yn ymddiswyddo o'i r么l

Steve WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Steve Williams yn rhan o broses diswyddo Rob Page fel rheolwr

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywydd Cymdeithas B锚l-droed Cymru (CBDC) Steve Williams wedi ymddiswyddo o'r r么l gan adael yn syth.

Fe gafodd Mr Williams, 60, ei atal o'i waith ym mis Gorffennaf tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Ond mae nawr wedi camu'n 么l cyn i wrandawiad annibynnol gael ei gynnal.

Doedd corff llywodraethu p锚l-droed Cymru heb ddatgelu'r rheswm dros ei waharddiad.

Bydd Mr Williams hefyd yn cefnu ar ei ddyletswyddau eraill gyda CBDC a ni fydd yn aelod mwyach o unrhyw un o'i fyrddau.

Ni fydd ychwaith yn gallu sefyll ar gyfer unrhyw r么l gyda CBDC yn y dyfodol.

Cafodd Mr Williams ei ethol yn llywydd CBDC yn 2021 ac roedd blwyddyn eto i fynd cyn diwedd ei gyfnod yn y r么l.

Cyn hynny roedd wedi gweithio i'r cyngor am dros 20 mlynedd a bu hefyd yn is-lywydd.

Fel llywydd, Mr Williams oedd yn goruchwylio p锚l-droed Cymru ar bob lefel, a bu鈥檔 rhan o broses diswyddo Rob Page fel rheolwr t卯m cenedlaethol dynion Cymru ym mis Mehefin.

Mewn datganiad, dywedodd CBDC bod Mr Williams "wedi penderfynu ymddiswyddo o'i holl rolau" gyda'r gymdeithas "yn dilyn rhagor o drafodaethau" rhwng pawb ynghlwm 芒'r sefyllfa.

"Mae CBDC yn cydnabod gwaith caled a chefnogaeth Mr Stephen Williams fel cefnogwr p锚l-droed a llywydd p锚l-droed Cymru a'i ddatblygiad, ar lefel ddomestig ac ar y llwyfan rhyngwladol dros y 37 mlynedd diwethaf."