大象传媒

Creu ffilm am bara-nofwraig 'ysbrydoledig' o'r Eidal

Sofia Brizio ger y pwll nofioFfynhonnell y llun, Pietro Rizzato/WPS/FINP
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gan Sofia Brizio barlys yr ymennydd ac roedd hyfforddi yn yr Eidal yn 'anodd' a 'rhwystredig' iddi

  • Cyhoeddwyd

Mi adawodd Sofia Brizio ei thref enedigol yn yr Eidal yn 18 oed er mwyn chwilio am fywyd mwy annibynnol.

Bu'n rhaid i'r ferch, sydd 芒 pharlys yr ymennydd, adael teulu, ffrindiau a'r gamp y bu'n cystadlu ynddi yn genedlaethol ers ei phlentyndod.

Dywedodd bod tref Bergamo yn 鈥渇ryniog iawn, yn hen iawn ac yn anhygyrch鈥 iddi.

Mae鈥檙 nofwraig sydd bellach yn 26 oed yn gweithio ac yn hyfforddi yng Nghaerdydd.

Mae鈥檔 dilyn cynlluniau sy鈥檔 cael eu hanfon ati gan ei hyfforddwr ar WhatsApp ac mae鈥檔 teithio鈥檔 么l i鈥檙 Eidal yn rheolaidd i gystadlu.

'Nofio yw fy rhyddid'

Mae Sofia鈥檔 codi arian i wneud ffilm i adrodd ei stori a rhannu鈥檙 neges bod chwaraeon yn gallu newid bywydau.

"Nofio yw fy rhyddid," meddai.

Ond nid oes ganddi atgofion da o鈥檌 gwersi cyntaf yn y pwll yn yr Eidal.

Dywedodd ei bod hi wedi cas谩u gwersi gyda hyfforddwyr oedd yn ei gwahanu hi oddi wrth blant eraill.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn ei harddegau, meddai Sofia, roedd hi'n dyheu am fwy o annibynniaeth

Yn 14 oed, fe ddaeth o hyd i gr诺p para-nofio a ddatblygodd i fod yn rhan bwysig o鈥檌 bywyd ac ers hynny mae鈥檔 caru鈥檙 gamp.

Ond yn ei harddegau, dywedodd ei bod yn dyheu am fwy o annibyniaeth.

Nid oedd yn gallu cael caniat芒d i osod ramp i gael mynediad i'w chartref oherwydd ei bod yn byw mewn adeilad hanesyddol.

Roedd Sofia hefyd yn dibynnu ar ei rhieni i fynd 芒 hi i鈥檙 ysgol yn ddyddiol.

鈥淣ofio oedd yr unig beth roedd yn rhoi annibyniaeth i fi ond mewn gwirionedd doedd hynny ddim yn ddigon mae鈥檔 debyg, felly penderfynais fy mod yn mynd i astudio yn y DU gan fy mod dan yr argraff y byddwn yn cael gwell cefnogaeth yno o gymharu 芒鈥檙 Eidal,鈥 ychwanegodd.

Dywedodd Sofia hefyd ei fod yn haws rheoli ei hamserlen fel myfyriwr.

Fel tiwtor cyswllt a rhywun sy鈥檔 gwneud gwaith llawrydd, mae hi'n gallu cyfuno hyfforddi, gweithio ac astudio.

鈥淔yddwn i ddim yn newid dim byd, achos dwi'n hoffi'r dysgu, y cyfieithu, dwi'n hoffi'r ysgrifennu, ond rydw i hefyd yn hoffi'r nofio,鈥 meddai.

"Aac mae'n gatalydd gwych ar gyfer fy ngwaith... dwi wedi ysgrifennu erthyglau cyfan pan oeddwn i'n nofio - yn fy mhen.鈥

Ffynhonnell y llun, Pietro Rizzato/WPS/FINP
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae鈥檙 bara-nofwraig yn hyfforddi yng Nghaerdydd gan ddilyn cynlluniau ei hyfforddwr dros WhatsApp ac mae鈥檔 teithio鈥檔 么l i鈥檙 Eidal yn rheolaidd i gystadlu

Mae Sofia yn hyfforddi ar ei phen ei hun ac yn gwneud hynny drwy gofio ymarferiadau sydd wedi eu gosod gan ei hyfforddwr yn yr Eidal.

Mae鈥檔 gallu bod yn broblem iddi weithiau ar yr achlysuron prin y mae hi'n hyfforddi gyda'i th卯m Eidalaidd PHB Polisportiva Bergamasca.

鈥淧an fydda i鈥檔 mynd yn 么l i鈥檙 Eidal gyda fy hyfforddwr weithiau, mae鈥檔 rhaid i mi ofyn iddi ailadrodd ei hun gan bo fi bellach ddim wedi arfer 芒 gwrando ar rywun yn rhoi cyfarwyddiadau i fi,鈥 meddai.

Mae鈥檙 disgyblaeth yma o ymarfer ar ei liwt ei hun yn helpu gyda鈥檌 disgyblaeth ar ddiwrnodau pan nad yw am nofio.

鈥淎m flynyddoedd, ges i drafferth gyda fy iechyd meddwl, lle ro'n ni鈥檔 deffro yn y bore ac yn teimlo fy mod eisiau crio, ond ro'n i鈥檔 codi o hyd a mynd i nofio oherwydd roedd yr ymarferiadau gen i鈥檔 barod i鈥檞 gwneud,鈥 ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Pietro Rizzato/WPS/FINP
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sofia wedi dechrau prosiect ei hun 'Power of the Current' i ysbrydoli eraill

Yr elfen drawsnewidiol yna, lle mae chwaraeon yn 鈥渁chub bywyd鈥, yw鈥檙 peth mae Sofia yn gobeithio ei rhannu gyda鈥檌 phrosiect, Power of the Current.

Ynghyd 芒鈥檙 gyfarwyddwraig Alexia Barrett, maen nhw ceisio codi arian ar gyfer rhaglen ddogfen fer.

Cyfarfu鈥檙 ddwy yng Nghaerdydd a thyfodd eu cyfeillgarwch dros 鈥渟awl paned o goffi鈥.

鈥淪oniodd hi鈥檔 achlysurol efallai nad oedd hi o gwmpas oherwydd ei bod hi鈥檔 gwneud rhywfaint o nofio,鈥 meddai Alexia.

鈥淩oeddwn i鈥檔 meddwl ei bod hi鈥檔 golygu rhywbeth achlysurol,鈥 ychwanegodd.

Dywedodd Alexia bod penderfyniad Sofia wedi ei hysbrydoli gan ei bod yn 鈥渂erson cyffredin yn gwneud pethau anhygoel鈥.

Y bwriad yw sicrhau bod y ddogfen yn cael ei gweld yng ngwyliau ffilm ledled y byd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gyfarwyddwraig, Alexia Barrett, yn ceisio codi arian ar gyfer creu rhaglen ddogfen fer am Sofia

Mae'r gyfarwyddwraig 24 oed bellach yn ceisio codi arian i helpu i dalu am offer, deunydd archif a chostau teithio.

鈥淩yn ni eisiau iddi edrych fel y seren yw hi,鈥 ychwanegodd.

Ond mae Sofia鈥檔 mynnu bod yr holl gefnogaeth mae hi鈥檔 ei dderbyn yn allweddol.

鈥淩ydw i eisiau iddi fod yn stori o angerdd, penderfyniad a chyfeillgarwch hefyd oherwydd fyddwn i ddim yn gallu gwneud yr holl bethau dwi鈥檔 eu gwneud pe na bai fy nheulu, fy hyfforddwr, fy nh卯m a fy ffrindiau yng Nghaerdydd yn fy nghefnogi.鈥

Pynciau cysylltiedig