大象传媒

Tad ifanc 'gwych' wedi marw ar 么l damwain beic Bangor

Reece ThompsonFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Reece Thompson wythnos wedi'r ddamwain ym Mangor

  • Cyhoeddwyd

Bu farw dyn ifanc yn dilyn damwain ar 么l seiclo'n gyflym i lawr allt ym Mangor tra'n feddw, clywodd cwest.

Bu farw Reece Thomas Thompson, 19 oed, ar 么l taro polyn lamp ar waelod allt serth, a hynny ar 么l diwrnod allan gyda'i ffrindiau.

Yn 么l tystiolaeth i'r crwner roedd Mr Thompson yn chwaraewr p锚l-droed talentog ac yn "dad gwych" i'w fab ifanc.

Bu farw o anafiadau difrifol i'w ymennydd mewn ysbyty yn Stoke ym mis Gorffennaf 2022, wythnos wedi'r ddamwain.

Daeth crwner gogledd orllewin Cymru, Kate Robertson i'r casgliad fod y farwolaeth yn un ddamweiniol.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Clywodd y cwest fod Reece Thompson yn "dad gwych" i'w fab ifanc

Clywodd y cwest fod Mr Thompson newydd ddychwelyd o Iwerddon ble bu'n dathlu priodas ei rieni, a'i fod wedi treulio'r diwrnod gyda'i ffrindiau.

Drwy ddatganiadau ei ffrindiau clywodd y crwner fod Mr Thompson, oedd yn brentis trydanwr, wedi bod yn yfed fodca ac erbyn diwedd y prynhawn roedd y ffrindiau yn "eithaf meddw".

Fe aethon nhw allan yn y nos i sawl tafarn gan adael Bangor Uchaf yn oriau m芒n y bore.

Dywedodd un o'i ffrindiau gorau, Jack Lloyd, iddyn nhw weld beic yn erbyn wal wrth iddyn nhw gerdded i lawr Allt Glanrafon.

"Roeddwn i'n gwybod yn syth y byddai Reece yn gwneud rhywbeth dwl, roeddwn i'n saff o hynny," meddai Mr Lloyd.

'Hedfan' i lawr allt

Disgrifiodd ei ffrindiau Mr Thompson yn "hedfan heibio" ar y beic, cyn taro polyn lamp ar waelod yr allt.

Fe gafodd ei daflu dros fariau'r beic a chael ei ddarganfod yn anymwybodol.

Cafodd Mr Thompson ei gludo o Ysbyty Gwynedd i Ysbyty Brenhinol Stoke i dderbyn llawdriniaeth i drin ceulad gwael ar ei ymennydd a thoriad i'w benglog.

Ond ni wnaeth ddeffro wedi'r driniaeth a bu'n rhaid i'w deulu gytuno i ddiffodd y peiriant cynnal bywyd. Bu farw ar 26 Gorffennaf.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Clywodd y gwrandawiad bod Mr Thompson yn chwaraewr p锚l-droed talentog ac wedi chwarae i sawl clwb lleol gan gynnwys Bethesda a Llandudno.

Roedd hefyd wedi cynrychioli clwb rygbi rhanbarthol y gogledd, RGC.

Wrth ddatgan fod y farwolaeth yn un ddamweiniol fe ddywedodd y crwner Kate Robertson fod Mr Thompson wedi trafod rhoi ei organau petai鈥檔 marw.

Gan droi at ei rieni, Caryl a Dewi Thomas Thompson, fe ddywedodd "mae'n amlwg fod eich mab yn annwyl i chi" ac "roedd ganddo ei fywyd llawn o'i flaen".

"Rwy'n gobeithio fod 'na rywfaint o gysur i chi o wybod ei fod yn awyddus i rannu ei organau."

Fe ychwanegodd y crwner fod yr achos yn pwysleisio'r angen i bobl siarad am roi organau ac i adael i bobl eraill wybod am eu bwriad.

Roedd Reece Thompson, meddai, wedi bod yn aeddfed ac wedi achub a chynnal bywydau eraill, a'i fod yn haeddu clod am hynny.

Pynciau cysylltiedig