Diarddel gofalwr am geisio trefnu rhyw 芒 merched 13 oed
- Cyhoeddwyd
Mae gofalwr o Wynedd wedi cael ei wahardd rhag gweithio yn y maes ar 么l cael ei ganfod yn euog o geisio darbwyllo rhieni i'w adael i gam-drin eu merched 13 oed yn rhywiol.
Doedd Huw Meredydd Groom ddim yn ymwybodol ei fod yn siarad 芒 swyddogion heddlu cudd ar-lein.
Cafodd Groom ei ddedfrydu i ddwy flynedd yn y carchar yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Rhagfyr 2023, a'i roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw.
Penderfynodd panel Gofal Cymdeithasol Cymru nad oedd hi鈥檔 addas iddo barhau yn ei waith, ac fe gafodd ei atal rhag gweithio yn y maes yng Nghymru.
'Methu ymddwyn yn unol 芒 safonau gofal'
鈥淔e wnaeth Groom ymddwyn mewn ffordd allai beryglu defnyddwyr gofal a chymorth,鈥 meddai cadeirydd y gwrandawiad Tony Graham.
鈥淢ethodd Groom ag ymddwyn yn unol 芒 safonau gofal ac egwyddorion y proffesiwn gofal cymdeithasol.鈥
Bu Groom yn gweithio fel swyddog gofal dros nos mewn cartref gofal preifat i blant yng Ngwynedd pan gafodd ei ddal gan heddlu cudd.
Clywodd gwrandawiad addasrwydd i ymarfer iddo sgwrsio鈥檔 rhywiol 芒 thair menyw ar-lein, gan gredu bod nhw鈥檔 fodlon rhoi mynediad iddo at eu merched.
Fe blediodd yn euog i dri chyhuddiad o hwyluso gweithgaredd rhywiol 芒 phlentyn, yn dilyn ymchwiliad yr heddlu.
Dywedodd panel Gofal Cymdeithasol Cymru y byddai鈥檔 gorchymyn i Groom gael ei ddileu o gofrestr gweithwyr gofal Cymru.
Mae ei enw hefyd ar gofrestr cofnodion trosedd, sy鈥檔 ei atal rhag gweithio yn y proffesiwn.
鈥淩ydyn ni wedi penderfynu y byddai caniat谩u Groom i barhau ar y gofrestr yn tanseilio hyder y cyhoedd yn y maes gofal cymdeithasol,鈥 meddai cadeirydd y panel.
Doedd Groom ddim yn bresennol yn y gwrandawiad a doedd dim cynrychiolaeth i'w amddiffyn.