Cyhoeddi manylion 'cyfnod paratoi' i ffermwyr Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r cynlluniau fydd ar gael i gefnogi ffermwyr yn ystod y "cyfnod paratoi" ar gyfer newid dadleuol i'w cymorthdaliadau wedi'u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.
Daw yn dilyn y penderfyniad i oedi cyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy am flwyddyn arall, yn sgil protestiadau.
Bydd 2025 bellach yn cael ei thrin fel cyfnod pontio cyn troi at y drefn newydd, wrth i fanylion terfynol y cynllun cymhorthdal parhaol gael eu trafod.
Bydd y cynlluniau ariannu presennol sydd ar gael i ffermwyr yn parhau, gyda chynllun newydd yn cael ei gyflwyno hefyd i wobrwyo ffermydd sy'n gweithio ar y cyd er lles natur.
- Cyhoeddwyd14 Mai
- Cyhoeddwyd14 Mai
- Cyhoeddwyd28 Chwefror
Mae'r llywodraeth hefyd yn galw ar ffermwyr i gymryd rhan mewn "ymarfer cadarnhau data", er mwyn rhoi darlun cliriach o'r tir cynefin a'r gorchudd coed sydd ganddyn nhw.
Daw'r cyhoeddiad ar drothwy'r Sioe Fawr yn Llanelwedd.
Bydd y prif gymhorthdal y mae ffermwyr yn ddibynnol arno - y cynllun taliad sylfaenol - yn parhau yn 2025.
Felly hefyd - Cynllun Cynefin Cymru a'r Taliad Cymorth Organig.
Bydd gwaith corff Cysywllt Ffermio - sy'n darparu cyngor i ffermwyr a'u helpu i arloesi - yn cael ei ymestyn hyd at 2026.
Mae'r llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig newydd ar gyfer 2025 - i gefnogi partneriaethau rhwng ffermwyr sy'n hybu natur ar draws ardaloedd eang.
Dywedodd Huw Irranca-Davies, yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, mai bwriad cyhoeddi'r cynlluniau oedd "rhoi sicrwydd i ffermwyr y bydd yna gymorth iddyn nhw yn y cyfnod cyn 2026".
"Byddwn yn parhau i weithio gyda ffermwyr a pherchenogion tir trwy Ford Gron Gweinidogol i lunio'r Cynllun terfynol a rhoi sicrwydd ynghylch y cymorth a fydd ar gael yn y dyfodol cyn gynted 芒 phosibl," meddai.
"Gan ddibynnu ar faint o arian fydd ar gael, byddwn yn cadarnhau cynlluniau cymorth ychwanegol 2025 yn ddiweddarach eleni.
"Rydyn ni am weld diwydiant ffermio cynaliadwy sy'n cefnogi cymunedau gwledig ffyniannus a'r iaith Gymraeg - cynaliadwy ym mhob ystyr y gair."