大象传媒

Heddlu'n canfod dyn, 52, wedi marw yng Ngwynedd

Swyddog heddluFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud bod corff dyn 52 oed wedi ei ddarganfod yng Ngwynedd, oriau wedi iddyn nhw dderbyn galwad yn mynegi pryder ynghylch ei ddiogelwch.

Fe gafodd y dyn ei ganfod ym mhentref Carmel, ger Caernarfon, brynhawn Llun - oriau wedi i'r heddlu gael eu galw ychydig ar 么l 10:30.

Yn 么l y llu fe ddaeth swyddogion ar draws "deunydd 芒'r potensial i fod yn beryglus yn yr ardal".

Ond fe ddaeth yr heddlu i'r casgliad, yn dilyn ymchwiliadau ar y cyd 芒 gwasanaeth t芒n y gogledd, bod "dim pryderon ehangach" o ran diogelwch y cyhoedd.

'Digwyddiad unigol'

Mae manylion yr achos wedi cael eu rhoi i'r crwner.

"Mae ein meddyliau gyda theulu'r dyn ar yr adeg anodd yma," meddai'r Ditectif Arolygydd Richard Griffith.

Dywedodd mai "digwyddiad unigol oedd hwn" a bod y gwasanaethau brys wedi gadael yr ardal tua 20:25 nos Lun.

"Hoffwn ni ddiolch i drigolion yr ardal am eu dealltwriaeth a'u hamynedd wrth i ni gynnal ein hymchwiliadau."

Pynciau cysylltiedig