大象传媒

Arestio gyrrwr ar 么l i ferch gael ei tharo gan gar

Elaine CrescentFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i'r digwyddiad ar Elaine Crescent ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 68 oed wedi cael ei arestio ar 么l i ferch 12 oed gael ei tharo gan gar yng Nghasnewydd.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i'r digwyddiad ar Elaine Crescent tua 15:00 ddydd Mawrth.

Ni wnaeth y car stopio wedi'r gwrthdrawiad, ond dywedodd y llu y cafodd y dyn ei arestio yn ddiweddarach.

Mae'n cael ei amau o yrru'n beryglus, gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, a methu 芒 stopio ar 么l gwrthdrawiad.

Fe gafodd y ferch ei chludo i'r ysbyty am driniaeth, ac mae'r dyn wedi cael ei ryddhau ar fechn茂aeth tra bo'r ymchwiliad yn parhau.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu 芒 nhw.

Pynciau cysylltiedig