大象传媒

Caerdydd: Arestio dau ddyn ar amheuaeth o lofruddio

Colin RichardsFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Colin Richards yn 48 oed ac yn dod o ardal Grangetown yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio Colin Richards yn ardal Trel谩i, Caerdydd.

Dywedodd Heddlu'r De bod dau ddyn, 26 oed a 18 oed, o Gaerdydd wedi eu harestio yn ardal Stoke a bellach yn y ddalfa.

Fe gafodd Mr Richards, 48, ei ddarganfod yn anymwybodol ar Heol Snowdon, Trel谩i, yn dilyn adroddiad o ddigwyddiad ar Heol-Y-Berllan a Heol Trel谩i, Caerau, toc wedi 23:30, Ebrill 7.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r tad i saith yn dilyn anaf o gael ei drywanu.

Mae teulu Colin Richards wedi cael gwybod am y diweddara' ac yn cael cymorth gan swyddogion.

Pynciau cysylltiedig