Y Cymro a helpodd i dwyllo Hitler
- Cyhoeddwyd
Wyddoch chi am y Cymro a helpodd y Cynghreiriaid i chwarae tric ar Hitler, i achub bywydau degau ar filoedd o filwyr ac o bosib ddod 芒鈥檙 Ail Ryfel Byd i ben yn gynt na鈥檙 disgwyl... er ei fod wedi marw?
Dyma hanes anhygoel y g诺r o Aberbargoed, Glyndwr Michael.
Cynllun i dwyllo'r Almaenwyr
Ddechrau 1943, roedd y gwasanaeth cudd-wybodaeth ym Mhrydain yn edrych am gorff marw. Roedd digon ohonyn nhw o gwmpas, wrth gwrs, 芒鈥檙 rhyfel yn rhygnu 'mlaen, ond roedden nhw鈥檔 edrych am gorff rhywun a oedd wedi marw鈥檔 ddiweddar ac a allai edrych fel petai wedi disgyn o awyren, achos roedd ganddyn nhw gynllwyn ar droed...
Enw鈥檙 cynllwyn oedd Operation Mincemeat, a鈥檙 bwriad oedd i wisgo鈥檙 corff fel swyddog milwrol Prydeinig, rhoi gwybodaeth ffug am gynlluniau鈥檙 Cynghreiriaid arno, a鈥檌 ollwng mewn lleoliad 鈥榗yfleus鈥.
Y gobaith oedd y byddai鈥檙 Almaenwyr yn derbyn y wybodaeth anghywir, ac yn ad-drefnu eu hunain i adlewyrchu 鈥榗ynlluniau cyfrinachol鈥 y Cynghreiriaid.
Wedi ei ddyfeisio gan Ian Fleming, a aeth ymlaen i ysgrifennu'r nofelau am yr ysb茂wr James Bond, mae'n swnio'n union fel stori o ffilm. Ond mae'n wir, ac mi weithiodd... ac roedd Cymro wrth galon y cwbl.
'Y Dyn Na Fu Erioed'
Y corff a gafodd ei ddewis i chwarae鈥檙 r么l bwysig yma oedd Cymro di-gartref o鈥檙 enw Glyndwr Michael.
鈥淗ogyn tlawd o gefndir tlawd iawn, iawn,鈥 eglurodd yr hanesydd Bob Morris ar raglen Dei Tomos ar 大象传媒 Radio Cymru. 鈥淩oedd ei dad o鈥檔 l枚wr oedd wedi marw pan oedd Glyn yn hogyn reit ifanc.
鈥淎r 么l i鈥檞 fam o farw, do鈥檇d ganddo fo neb i鈥檞 gynnal o, ac roedd o鈥檔 hogyn efo anabledd meddyliol, ac felly mi aeth i Lundain, yn meddwl 鈥榮a fo鈥檔 cael gwaith yn fan鈥檔o. Byw ar y stryd oedd o, mae鈥檔 debyg, yn y diwedd. Mi ffeindiodd o鈥檌 ffordd i ffatri wag, ac mi ffeindiodd o ddarnau o fara ar y llawr yna a鈥檜 bwyta nhw, ac o ddallt, roedd 'na wenwyn llygod arnyn nhw, ac mi fuodd o farw yn yr ysbyty.鈥
Cafodd corff Glyndwr ei gymryd gan yr awdurdodau a鈥檌 roi mewn oergell, ac roedd rhan gynta鈥檙 cynllwyn mewn lle. Nawr roedd angen gweithio ar y camau nesaf.
Cafodd Glyndwr hunaniaeth newydd, sef Major William Martin, a oedd o Gaerdydd. Cafodd dogfennau ffug eu llunio ar ei gyfer, a chafodd pob ymdrech ei wneud i sicrhau fod unrhyw un a fyddai鈥檔 dod o hyd i鈥檙 corff yma, yn credu mai William Martin oedd o. Fel yr eglurai Bob Morris:
鈥淩hoi gwisg iddo fo, rhoi llythyrau gan ei gariad o, llun o鈥檌 gariad o, ticedi sioe theatr 鈥 bob math o bethau, i roi rhyw identity personol i鈥檙 hogyn. Hyd yn oed llythyr gan ei dad o 鈥 y tad dychmygol yma 鈥 wedi ei anfon o鈥檙 Llew Du yn Yr Wyddgrug. A rhag ofn fod 'na ryw ysb茂wr Almaenig yn mynd i chwilio i ffeindio allan os oedd hyn yn wir neu beidio, bod enw tad William Martin i mewn yn y llyfr ymwelwyr yn y Llew Du, jest rhag ofn i rywun drio ffeindio tyllau yn y stori...鈥
Ac wrth gwrs, rhan hanfodol y cynllwyn oedd c锚s wedi ei glymu ar y milwr a oedd yn cynnwys gwybodaeth dilys-yr-olwg am 鈥榞ynlluniau nesaf鈥 Prydain, 鈥済yda llythyrau manwl iawn, yn cyfeirio at y Cadfridog Eisenhower ac at y Cadfridog Alexander, oedd yn paratoi cyrch o Tunisia i ymosod ar Ewrop,鈥 meddai Bob Morris.
鈥淏wriad y negeseuon yma oedd dweud 鈥樷'Dan ni鈥檔 mynd i ymosod yng Ngwlad Groeg, ond 'dan ni am 'neud cyrch bach yn Sicily er mwyn twyllo鈥檙 Almaenwyr i feddwl mai fan鈥檔o mae鈥檙 glaniad mawr yn mynd i fod鈥. Paratowyd rhain, a鈥檜 llofnodi gan y bobl go iawn.鈥
Brad y Sbaenwyr
Roedd popeth yn barod. Cafodd y corff ei gludo mewn fan i鈥檙 Alban, yna鈥檌 hwylio i dde Sbaen mewn llong danfor, lle cafodd ei ryddhau i鈥檙 m么r, gan esgus ei fod wedi syrthio o awyren.
Drannoeth, ar 30 Ebrill 1943, cafodd corff y milwr Prydeinig ei ddarganfod gan bysgotwyr sard卯ns ger ddinas Huelva. Er fod Sbaen yn wlad niwtral yn ystod y rhyfel, roedd y Cynghreiriaid yn amau y byddai鈥檙 Sbaenwyr yn rhannu鈥檙 wybodaeth yma gyda鈥檙 Almaenwyr, ac roedden nhw鈥檔 llygad eu lle.
Chwaraeodd is-gennad Prydeinig y ddinas ei ran yn y sioe, yn pwysleisio pa mor hanfodol oedd hi fod yr wybodaeth 鈥榖wysig鈥 oedd wedi disgyn gyda Major Martin yn dychwelyd i Brydain ar frys. Cafodd y corff ei gladdu mewn mynwent leol o fewn dyddiau, ond chyrhaeddodd y c锚s a鈥檌 gynnwys ddim yn 么l i Lundain tan 11 Mai.
Dangosodd profion fforensig ar y papurau eu bod wedi cael eu hagor, ac ym mhen ychydig, daeth mwy o dystiolaeth fod yr Almaenwyr yn gwybod am y cynllun newydd, meddai Bob Morris:
鈥淢i roedd Bletchley Park wedi dechrau derbyn negeseuon cyfrinachol gan yr Almaen, i鈥檞 milwyr mewn gwahanol lefydd, yn deud bod y cyrch r诺an yn mynd i ddigwydd yng Ngwlad Groeg, a bo鈥 nhw鈥檔 bwriadu symud mwy o filwyr i Wlad Groeg. Felly dyna sut oedden nhw鈥檔 gwybod yn bendant fod y fenter wedi llwyddo.鈥
Cyfraniad mewn marwolaeth
Er nad oedd yn ymwybodol o hyn, chwaraeodd Glyndwr Michael ran fawr ym mrwydro鈥檙 Ail Ryfel Byd, yn y cynllwyn cyfrinachol yma a newidiodd drywydd y rhyfel:
鈥淩oedd 'na gymaint yn dibynnu arno fo. Achos os fasa nhw鈥檔 medru twyllo鈥檙 Almaenwyr mai yng Ngwlad Groeg oedden nhw鈥檔 mynd i lanio, mi fasa 'na filoedd o filwyr yn cael eu symud i fan yno ac wedyn mi fasa鈥檙 glaniad yn Sicily, sef lle oddan nhw wirioneddol yn bwriadu glanio yn haws o lawer, ac wrth gwrs, dyna鈥檔 union a fu.
鈥淎鈥檙 amcangyfrifon mwya鈥 cyffredin ydi bod y ffaith bod Yr Almaen ddim yn disgwyl iddyn nhw lanio yn Sicily wedi arbed bywydau tua 30,000 o filwyr.
Am flynyddoedd, doedd neb, heblaw am y swyddogion oedd yn rhan o鈥檙 cynllwyn yma, yn gwybod pwy oedd y corff a gafodd ei ddefnyddio yn Operation Mincemeat, tan i鈥檙 papurau swyddogol gael eu rhyddhau yn 1996.
Ers hynny mae yna ychwanegiad i fedd Major William Martin yn Huelva, a鈥檙 geiriau 鈥楪lyndwr Michael served as William Martin RM鈥 bellach ar y garreg yn nodi cyfraniad y Cymro o Aberbargoed.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2019