大象传媒

Bws yn hongian ar y dibyn ar safle ysbyty

Bws ar y dibyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Gwasanaeth T芒n De Cymru iddyn nhw ymateb i'r digwyddiad am 14:37 ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n ymchwilio yn dilyn gwrthdrawiad ar dir ysbyty Llandochau ym Mro Morgannwg.

Mae'n ymddangos fod bws wedi taro drwy ffens a tharo wal maes parcio aml-lawr a'i fod yn hongian ar y dibyn brynhawn Iau.

Yn 么l Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, cafodd 11 o bobl f芒n anafiadau ac fe gafodd dau eu cludo i'r ysbyty am driniaeth.

Cafodd sawl car a oedd wedi parcio eu difrodi ac mae un maes parcio ar safle'r ysbyty yn parhau i fod ynghau.

Ffynhonnell y llun, Geograph/John Lord
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth y ddamwain achosi oedi mawr yn yr ysbyty gyda bysiau yn cael eu gyrru i orsafoedd bws eraill

Roedd criwiau t芒n Bro Morgannwg ar y safle yn helpu i gadw trefn ac i sicrhau fod y safle yn saff.

Fe wnaeth y ddamwain achosi oedi mawr yn yr ysbyty gyda bysiau yn cael eu gyrru i orsafoedd bws gerllaw.

Cafodd pobl gyngor i osgoi'r safle ddydd Iau.

Pynciau cysylltiedig