大象传媒

Geraint Thomas: 'Dwi'n teimlo pob un o fy 38 mlynedd'

Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Cymro 38 oed yn ymestyn ei record fel y seiclwr hynaf i orffen ar y podiwm yn y Giro d'Italia

  • Cyhoeddwyd

"Dwi'n teimlo pob un o fy 38 mlynedd ar y funud," meddai Geraint Thomas wrth fy nghydweithiwr Dafydd Pritchard ddydd Sadwrn.

Fi oedd yn dal y camera yn ffilmio'r cyfweliad, mewn maes parcio anferth ar gyrion dinas hyfryd Bassano Del Grappa yng ngogledd ddwyrain yr Eidal.

Un ar 么l un roedd y seiclwyr yn cyrraedd ar 么l gorffen y cymal olaf ond un.

Roedd pob un yn edrych fel zombies wrth iddyn nhw godi oddi ar eu beiciau a cherdded yn simsan i ganolfan hamdden anferth i gael cawod.

Fues i'n ffilmio Thomas wrth iddo gyrraedd yn 么l, a'i d卯m Ineos Grenadiers yn ei longyfarch a'i gofleidio am orffen yn drydydd - gan mai prosesiwn ydy'r cymal olaf yn Rhufain ddydd Sul i bob bwrpas.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma鈥檙 tro cyntaf i fi weithio ar ras seiclo fawr - ac er i mi ond gohebu ar y tri chymal olaf, dwi'n teimlo pob un o fy 48 mlynedd i

Roedd gan y Cymro sawl rheswm i ddathlu - lle ar y podiwm am yr ail flwyddyn yn olynol yn y Giro a hefyd ei ben-blwydd yn 38 oed.

Erbyn hyn dwi'n si诺r fod Thomas wedi dathlu ei ben-blwydd gyda darn o gacen a photel o gwrw.

Ond pan ddeffrodd ar ei ben-blwydd roedd o'n wynebu 184 cilometr ffiaidd ar ei feic yn dringo Monte Grappa, un o gopaon mwya' serth y ras. Dwywaith.

Mae cystadlu yn y Giro d'Italia yn profi gwytnwch seiclwyr gorau'r byd.

Dros 21 diwrnod mae Thomas a'r peloton wedi seiclo dros 2,000 o filltiroedd a dringo dros 40,000 metr.

Dim syndod fod Geraint Thomas yn teimlo ei oed.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu bron i pyncjar ddifetha gobeithion Dafydd a fi o gyrraedd diweddglo cymal 19

Dyma'r tro cyntaf i fi weithio ar ras seiclo fawr ac er i mi ohebu ar y tri chymal olaf dwi'n teimlo pob un o fy 48 mlynedd i!

Un perygl amlwg o reidio dy feic ydy cael pyncjar, mae'n gallu difetha gobeithion seiclwr.

Bu bron i byncjar ddifetha gobeithion Dafydd a fi o gyrraedd diweddglo cymal 19 yn dre Sappada ym mynyddoedd y Dolomites.

Ond ar 么l newid y car am un newydd, a newid y gyrrwr (fi yn lle Dafydd) i ffwrdd 芒 ni am ddwy awr a hanner trwy'r twneli a heibio golygfeydd godidog i'r mynyddoedd.

Mae Sappada yn dre ar gyfer sgiwyr yn y gaeaf ond am y tro cyntaf ers 2018 roedd y Giro d'Italia yn gorffen yno.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ponte Vecchio Bassano del Grappa - man diweddglo cymal 20 ddydd Sadwrn

Ar y ffordd i gwrdd 芒 Geraint Thomas am gyfweliad ar fws Ineos ar 么l y ras roedd rhaid i ni gerdded ar ochr y ffordd gyda seiclwyr ar beiciau modur yn gwibio heibio - profiad gwych.

Roedd Thomas wedi ymladd, wrth reswm, a prin yn gallu siarad - ond roedd yna o fwy siarad 芒 Daf a fi wrth i ni ohebu ar y radio a'r teledu cyn gyrru i lawr y mynydd i dre Montellebuna i aros y noson.

Ben bore i ffwrdd 芒 ni i ddinas Bassano Del Grappa, yng nghysgod Monte Grappa.

Roedd yna awr o dwristiaeth wrth i fi groesi'r afon Brenta dros Ponte Vecchio pren cafodd ei adeiladu yn 1209.

Tra oedden ni'n cerdded ar y bont roedd Thomas a'r peloton yn straffaglu i fyny lawr Monte Grappa ddwywaith cyn i ni gwrdd 芒 fo yn ddiweddarach.

Does dim amser i aros yn llonydd yn y Giro - aeth Geraint a'i d卯m ar awyren o'r gogledd-ddwyrain i lawr i Rufain i baratoi ar gyfer y cymal olaf.

Aeth criw 大象传媒 Cymru ar dr锚n dros nos o Venice.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Geraint gyda'i fab Macsen ar y podiwm yn Rhufain ddydd Sul

Profiad swreal oedd cyrraedd Rhufain am 06:30 yn y bore a gwibio mewn tacsi heibio'r Altare della Patria gyda cherflun trawiadol o Frenin cyntaf Eidal unedig Victor Emmanuel ar gefn ei geffyl ar y to yn edrych dros y ddinas.

Oriau yn ddiweddarach y seiclwyr oedd yn gwibio dros y cerrig - does dim rasio go-iawn ar ddiwrnod olaf rasus 'Grand Tour' ac mae'n brosesiwn a chyfle i'r enillydd Tadej Pogacar o Slofenia - a phawb arall i fwynhau'r awyrgylch.

A dyna 'nath Geraint Thomas, yn dathlu ar y podiwm ar ddiwedd y ras gyda'i fab Macs, profiad amhrisiadwy i'r teulu.

Cyn hynny roedd Daf a fi yn aros amdano fo ar y llinell terfyn, syrcas llwyr gyda miloedd yn gwylio ar y strydoedd.

Mae o'n edrych ymlaen at orffwys cyn y Tour de France, meddai.

Ar 么l dim ond tridiau yn ei ddilyn o gwmpas Yr Eidal fedra'i ddychmygu sut mae o'n teimlo.

Pynciau cysylltiedig