Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Bellamy heb sylweddoli pa mor bwysig oedd Cymru iddo
Doedd Craig Bellamy heb sylweddoli pa mor gryf oedd ei "gysylltiad emosiynol" 芒'i wlad tan iddo gael ei benodi yn rheolwr y t卯m p锚l-droed cenedlaethol.
Daeth cadarnhad ddydd Mawrth mai Bellamy, 44, fydd olynydd Rob Page, a'i fod wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd gyda Chymdeithas B锚l-droed Cymru.
Fe chwaraeodd cyn-ymosodwr Newcastle, Manchester City a Lerpwl 78 o weithiau i Gymru, yn ogystal 芒 threulio cyfnod fel capten ar ei wlad.
Er gwaethaf ei yrfa ryngwladol hir a'i gyfnodau yn chwarae i Gaerdydd, dywedodd mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mercher, fod ei deimladau am Gymru "wedi dod yn 么l hyd yn oed yn gryfach".
鈥淒oeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor bwysig oedd hi (Cymru) i mi,鈥 meddai cyn-gapten Cymru.
鈥淓fallai bod hynny gan fy mod i wedi bod yn byw yn Lloegr a Gwlad Belg.
鈥淒oeddwn i ddim wedi anghofio, dwi wastad wedi dilyn Cymru, ond doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa mor gryf oedd y cysylltiad emosiynol oedd gen i.
鈥淒oeddwn i ddim yn si诺r os oedd o鈥檔 rhywbeth o'n i eisiau ei wneud, dydw i ddim yma am resymau ariannol, i mi, y cysylltiad emosiynol oedd yn bwysig.
鈥淒ydi o heb fy ngadael, o'n i鈥檔 meddwl ei fod o, ond mae o wedi dod yn 么l hyd yn oed yn gryfach.
"Doedd hyn ddim byd i'w wneud 芒 symud ymlaen (yn fy ngyrfa), roedd hyn wedi'i wreiddio ynof a doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yno."
Dadansoddiad Carl Roberts, Gohebydd Chwaraeon 大象传媒 Cymru
Does dim dwywaith y byddai well gan Craig Bellamy fod ar ochr y cae ymarfer yn ei dracwisg yn hytrach na gwisgo'i siwt ac ateb cwestiynau gan llond ystafell o newyddiadurwyr.
Ond mae o'n derbyn fod rhaid delio gyda'r wasg fel rhan o'i swydd newydd - ac mae o'n dweud ei fod o'n barod am yr her a'r cyfrifoldeb o fod yn rheolwr rhyngwladol.
Be ddaeth yn amlwg o wrando arno oedd ei angerdd i lwyddo ym mhob agwedd o'i fywyd.
Mae ganddo safonau uchel, meddai, ac mae'n disgwyl i bob aelod o'i d卯m ar y cae ac oddi ar y cae fynnu'r un safonau.
Cyfaddefodd ei fod eisoes wedi gwylio gwrthwynebwyr cyntaf Cymru dan ei reolaeth wyth gwaith - mae o'n benderfynol o fod yn barod ar gyfer y g锚m yn erbyn Twrci yng Nghaerdydd ar 6 Medi.
Bellamy oedd yr enw cyntaf ar restr fer Cymdeithas B锚l-droed Cymru yn dilyn diswyddiad Robert Page fis diwethaf, a hynnny'n rhannol oherwydd ei weledigaeth am y ffordd y dylid chwarae鈥檙 g锚m.
Mae o am weld Cymru yn chwarae ar y droed flaen, yn rhoi pwysau ar y gwrthwynebwyr, ac yn gweithio'n galed.