Swyddog newydd yn 'hyderus am ddyfodol eisteddfodau lleol'
- Cyhoeddwyd
Mae swyddog datblygu newydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru am weld pwyllgorau eisteddfodau yn addasu a newid eu ffyrdd er mwyn cynnal diddordeb a denu cystadleuwyr a chynulleidfaoedd newydd.
Mae鈥檙 gantores Angharad Brinn Morgan newydd ddechrau ar ei swydd ers pythefnos, fydd yn cefnogi ac yn hybu eisteddfodau lleol - bach a mawr.
Mae oddeutu 120 o eisteddfodau drwy Gymru gyfan, yn eisteddfodau pentref neu ardal, ac eisteddfodau rhanbarthol.
Mae Angharad yn teimlo bod angen i eisteddfodau addasu a symud gyda鈥檙 oes er mwyn eu helpu i gadw diddordeb pobl.
Anodd ar eisteddfodau
Yn 么l Angharad, ei phrif r么l fydd 鈥渟icrhau bod yr eisteddfodau ma鈥檔 gallu cael eu cynnal a chynyddu鈥檙 nifer o bobl sy鈥檔 cymryd rhan ac sy鈥檔 mynychu鈥檙 eisteddfodau lleol".
Ond mae鈥檔 cydnabod bod sialensiau yn wynebu rhai eisteddfodau bach.
鈥淢ae yn anodd, ond mae 120 o eisteddfodau bach ar hyn o bryd, sy' ddim yn ffigwr rhy ff么l.
鈥淏yswn i ddim yn dweud eu bod mewn peryg, ond yn amlwg mae ishe bo' ni鈥檔 sicrhau bod nhw鈥檔 gwbod bo' ni yma i鈥檞 cynorthwyo nhw, bo' nhw hefyd yn defnyddio鈥檙 cyfryngau cymdeithasol i hybu diddordeb ynddyn nhw.鈥
Mae Angharad yn gweld bod angen i rai pwyllgorau eisteddfodau addasu a newid eu ffyrdd er mwyn cynnal diddordeb a denu cystadleuwyr a chynulleidfaoedd newydd.
鈥淒wi鈥檔 meddwl bod defnyddio鈥檙 cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol dros ben, ond mae鈥檔 anodd dweud wrth bwyllgorau 鈥榤ae angen i chi newid鈥 achos maen nhw 'di gwneud e yn eu ffyrdd nhw am gymaint o flynyddoedd.
鈥淒wi鈥檔 methu dweud wrthyn nhw 鈥榙yma鈥檙 ffordd dylech chi wneud y gwaith鈥 ond dwi yn meddwl bod angen ystyried moderneiddio a defnyddio鈥檙 dechnoleg sydd ar gael.鈥
Testunau hwyliog
Mae hefyd yn gweld bod lle i addasu鈥檙 testunau cystadlu, bod lle i eitemau mwy hwyliog ac ysgafnach, a hyd yn oed rhai rhithiol fel adeg Eisteddfod T yr Urdd - lle roedd plant a phobl ifanc yn cystadlu o鈥檜 cartrefi.
鈥淔alle bydde鈥檔 denu mwy o bobl, achos weithiau mae mynd i鈥檙 eisteddfodau ar benwythnosau yn anodd," meddai Angharad.
"Mae bywydau prysur gyda pobl, felly falle bydden nhw鈥檔 fwy parod i gystadlu pe bai pethe yn cael eu recordio a鈥檜 danfon i mewn.鈥
Un enghraifft, meddai Angharad, sydd wedi ymdrechu i addasu er mwyn ehangu ap锚l eu g诺yl ydy Eisteddfod y Cymoedd, fydd yn cael ei chynnal ar 18 Hydref eleni.
鈥淢ae Eisteddfod y Cymoedd yn y Rhondda 芒 gwefan eu hunain ac maen nhw 鈥榙i mynd ar drywydd eithaf modern," meddai.
鈥淵n ystod yr eisteddfod, mae sgriniau mawr, maen nhw鈥檔 defnyddio鈥檙 cyfryngau cymdeithasol; fi鈥檔 credu bod nhw hyd yn oed yn defnyddio鈥檙 orsaf radio lleol i ddarlledu鈥檙 cystadlaethau.
"Felly maen nhw 'di mynd ar drywydd modern a falle bod angen i rai eisteddfodau eraill fynd lawr yr un trywydd o bosib.鈥
Awydd am sefydlu eisteddfodau newydd
Mae Angharad yn teimlo鈥檔 reit hyderus am ddyfodol eisteddfodau lleol, ac yn gweld bod sawl ardal yn awyddus i sefydlu rhai newydd.
鈥淵n yr ardal lle dwi鈥檔 byw 鈥 Castell-nedd a Phort Talbot, does dim eisteddfod leol, ond mae 鈥榥a ddiddordeb i gychwyn eisteddfod yn yr ardal yma, felly falle mai hwn fydd fy mhrosiect cyntaf!
鈥淥edd rhywun o Lundain 鈥榙i cysylltu yr wythnos ddiwethaf hefyd.
"Mae cymdeithas Gymreig reit gadarn yn Llundain, ac roedd o 'di bod mewn cysylltiad 芒 nifer o bobl yno oedd yn dweud bod awydd yno i gychwyn eisteddfod Gymreig yn Llundain, sy鈥檔 hyfryd.
鈥淔elly mae pobl yn ystyried cychwyn eisteddfodau lleol, newydd.
"Mae鈥檙 awydd yna, a'r gobaith yw bo鈥 nhw鈥檔 mynd ati i greu pwyllgorau a chychwyn yr eisteddfod.鈥
Mae Angharad yn annog unrhyw un sydd 芒 diddordeb i gychwyn eisteddfod yn eu hardal nhw i gysylltu ag angharad@steddfota.cymru er mwyn iddi eu helpu a鈥檜 cynghori drwy鈥檙 broses o greu eisteddfod.
Mae鈥檙 gymdeithas yn gallu darparu cefnogaeth ymarferol i helpu pwyllgorau eisteddfodau lleol gyda鈥檜 trefniadau lle bo鈥檙 angen.
鈥淓rs i mi ddechrau, dwi 'di sylwi, mae 'na fylchau," meddai.
"Os chi鈥檔 mynd ar y , chi鈥檔 gallu gweld map sy鈥檔 dangos union leoliadau lle mae鈥檙 eisteddfodau鈥檔 cael eu cynnal, ond mae 'na drefi mawr fel Caernarfon a Chaerfyrddin lle does dim eisteddfodau yn yr ardaloedd yna, sy鈥檔 fy synnu i.鈥
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2023
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd2 Awst 2022