Cannoedd yn protestio dros ddyfodol canolfan ymwelwyr Coed y Brenin
- Cyhoeddwyd
Daeth cannoedd o bobl ynghyd yng Nghoed y Brenin ger Dolgellau ddydd Sadwrn i brotestio yn erbyn cynlluniau Cyfoeth Naturiol Cymru i gau rhannau o'r ganolfan ymwelwyr ar y safle.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn ystyried cau 265 o swyddi, gyda "phob aelod o staff ym mhob canolfan ymwelwyr yn wynebu cael eu diswyddo".
Mae menter gymunedol Caru Coed y Brenin, oedd yn rhan o'r brotest, yn awyddus i gymryd rheolaeth o'r ganolfan, ond mae CNC wedi rhybuddio y gallai'r broses honno gymryd rhai blynyddoedd.
Dywedodd llefarydd ar ran CNC: "Rydym yn edrych ar draws ein holl gylch gwaith ac yn adolygu'n feirniadol yr hyn y gallwn ac y mae'n rhaid i ni barhau i'w wneud... Ni allwn fynd ati i gynnig unrhyw ddatrysiadau ar gyfer y dyfodol nes bydd bwrdd CNC yn gwneud y penderfyniadau terfynol ddechrau mis Tachwedd.鈥
Fe agorodd canolfan ymwelwyr Coed y Brenin ym 1996.
Mae'r dros 50 milltir o lwybrau beicio mynydd, llwybrau cerdded a'r caffi yn denu dros 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Mae cynnig diweddar gan CNC yn golygu peidio parhau i redeg caffis a siopau mewn tri chanolfan ymwelwyr ddiwedd mis Mawrth 2025 - Coed y Brenin ger Dolgellau, Bwlch Nant yr Arian ger Ponterwyd yng Ngheredigion, ac yn Ynyslas, sy'n warchodfa natur ar aber Afon Dyfi.
Ond mae CNC wedi pwysleisio y byddai llwybrau, mynediad, meysydd parcio, a thai bach yn parhau ar y safleoedd hynny.
Fe ddaeth ymgyrchwyr ynghyd yng ngwarchodfa natur Ynyslas brynhawn Sadwrn hefyd, gydag aelodau'r cyhoedd yn cael eu gwahodd i'r safle er mwyn dysgu mwy am y gwaith sy'n cael ei wneud yno.
Dywedodd gr诺p 'Ynyslas - Achubwch Ein Canolfan' fod y ganolfan ymwelwyr yno "yn fwy nag ystafell gyda pheiriant coffi".
Mae un gr诺p lleol, Caru Coed y Brenin yn awyddus i redeg y ganolfan ei hunain, ond mae CNC wedi rhybuddio na fyddai'r broses honno yn un sydyn.
Yn 么l y cynghorydd lleol Delyth Lloyd Griffiths, sydd hefyd yn rhan o gr诺p Caru Coed y Brenin, mae angen cadw holl gyfleusterau'r safle ar agor.
鈥淒ydyn ni ddim eisiau i unrhyw elfen o鈥檙 lle hwn gau, rydyn ni ei angen ar gyfer beicwyr, cerddwyr a phobl leol," meddai.
鈥淎r hyn o bryd, os bydd pethau鈥檔 cau yma, ni fydd bywyd yma, a bydd ei chau (y ganolfan ymwelwyr) yn ei gwneud hi鈥檔 llawer anoddach agor yn 么l eto.
"Rydym yn gr诺p cymunedol gyda digon o wybodaeth yn y diwydiant beicio, gallem gymryd drosodd yfory os oes angen, mae gennym ddigon o sgiliau."
Mae Mabon ap Gwynfor, yr Aelod o'r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd yn un o'r rhai sydd eisiau gweld yr holl gyfleusterau ar y safle yn parhau ar agor.
Dywedodd: "Mi fyddai'n cael effaith andwyol ar y gymuned a'r economi leol.
"Mae pobl yn dod ynghyd i ddangos ein gwrthwynebiad ac i geisio sicrhau fod y ganolfan yn aros ar agor.
Ychwanegodd Mr ap Gwynfor: "Mae nhw (CNC) yn edrych i wneud arbedion o thua 拢1.2m efo cau y ganolfan yma, Nant yr Arian ac Ynyslas hefyd.
"Mae'r tri chanolfan yma efo'i gilydd yn dod 芒 ryw 拢60m i economi canolbarth Cymru, felly mi fyddai cau'r canolfannau hynny yn niweidiol i'r economi a felly'n gam ff么l.
Mewn ymateb, dywedodd Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol, Strategaeth a Datblygu Corfforaethol CNC : 鈥淩ydym yn edrych ar draws ein holl gylch gwaith ac yn adolygu'n feirniadol yr hyn y gallwn ac y mae'n rhaid i ni barhau i'w wneud, yr hyn yr ydym yn ei stopio, a'r hyn yr ydym yn ei arafu neu'n ei wneud yn wahanol i gyflawni uchelgeisiau ein Cynllun Corfforaethol.
鈥淯n elfen a gafodd ei chynnwys mewn cynigion i staff yw nad ydym bellach yn gweithredu darpariaeth arlwyo a manwerthu mewn canolfannau ymwelwyr, ond bod y safleoedd eu hunain yn parhau ar agor ar gyfer cerdded a beicio, yn ogystal 芒 mannau chwarae, meysydd parcio a thoiledau.
鈥淣awr rydym yn adolygu'r wybodaeth a dderbyniwyd gan undebau llafur yn dilyn yr ymgynghoriad i ddeall yn llawn effeithiau'r penderfyniadau ar gyfer ein cydweithwyr, ein partneriaid, ein rhanddeiliaid a'n cwsmeriaid i benderfynu a oes angen unrhyw newidiadau, tra'n parhau i gyrraedd yr arbedion ariannol angenrheidiol.
Unwaith y bydd y penderfyniadau terfynol wedi cael eu gwneud, byddwn yn gallu gweithio gyda phartneriaid i chwilio am atebion yn y dyfodol a mynd ati i chwilio am bartneriaid i gynnal y gwasanaethau hyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd16 Medi