Elusen 'wedi colli'r cyfan' mewn t芒n mawr
- Cyhoeddwyd
Mae elusen yn dweud eu bod "wedi colli'r cyfan" wedi i d芒n mawr ddinistrio eu hadeilad yng nghanol Y Fenni.
Bu'n rhaid i nifer o bobl adael eu cartrefi a cafodd y gwasanaethau brys eu galw i d芒n tu 么l i The Magic Cottage ar Stryd Frogmore tua 20:35 nos Sul.
Cafodd 14 o griwiau a thua 110 o ddiffoddwyr t芒n eu hanfon i鈥檙 lleoliad.
Cafodd y siop elusen ac adeiladau gerllaw eu dinistrio yn y t芒n.
Dywedodd Heddlu Gwent na chafodd unrhyw un ei anafu.
Mae tua 12 o bobl o dri eiddo cyfagos, oedd wedi cael eu symud i Ganolfan Hamdden y Fenni, bellach wedi gadael y ganolfan hamdden, yn 么l arweinydd Cyngor Sir Fynwy.
Dywedodd Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru fod y t芒n wedi achosi i loriau a tho'r adeilad i ddymchwel.
"Mae criwiau'n gweithio'n galed i atal lledaeniad pellach i eiddo cyfagos," ychwanegodd.
Bydd "ymchwiliad trylwyr" gan Heddlu Gwent yn cael ei gynnal i ganfod achos y t芒n.
Dywedodd Lesley Reynolds o elusen blant The Magic Cottage, ei bod "wedi fy llorio" fod yr adeilad wedi ei ddinistrio yn y t芒n, "ond yn bennaf rwy'n siomedig dros y teuluoedd yr ydym yn helpu".
"Nid yw wedi bod yn noson dda, ac roedd yn gwbl annisgwyl.
"Rydyn ni wedi colli'r cyfan ddoe, ond rydym yn gwybod y bydd y gymuned yn gefn i ni wrth iddyn nhw gynnig eu help a'u cefnogaeth.
"'Dyn ni mor lwcus. Rydyn ni wastad wedi cael tipyn o gefnogaeth gan y rhan fwyaf o'r gymuned.
"Rydyn ni'n cyflogi naw o bobl ac roedden nhw i gyd yma neithiwr. Rydym oll yn gweithio yn y cefndir i geisio cael popeth yn barod ar gyfer pryd bynnag y byddwn yn ailagor.
"Mae wedi mynd, ond nid yw wedi mynd am byth."
Mae'r ardal sy'n cwmpasu Stryd Frogmore, Regent Street, Princes Street a Baker Street wedi cau i'r cyhoedd.
Mae gofyn i'r cyhoedd osgoi canol Y Fenni ac i sicrhau bod eu ffenestri a'u drysau ar gau.
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Mary Ann Brocklesby, fod 12 o bobl wedi eu hanfon o'u cartrefi i'r ganolfan hamdden yn ystod y t芒n.
Dywedodd wrth 大象传媒 Cymru: "Fedra'i ddim ond dychmygu pa mor ofnadwy oedd e i gael eich deffro yng nghanol y nos a chael eich symud i'r ganolfan hamdden."
Mae'r bobl yna wedi dychwelyd adref neu at ffrindiau bellach, gyda'r rhai sy'n byw mewn tai cymdeithasol yn cael eu cefnogi i fynd i le diogel, meddai.
"Mae hyn yn ofnadwy, yn gwbl ofnadwy, yn arswydus, yr olygfa, y t芒n, y mwg, yr ofn, mor frawychus i drigolion ac i bobl sy'n byw o gwmpas yma," meddai Ms Brocklesby.
Dywedodd fod y cyngor bellach yn gweithio gyda'r gwasanaethau brys a chyngor y dref ar beth fyddai'n digwydd nesaf, ond ei fod yn rhy gynnar i ddweud beth fyddai'n digwydd i'r adeilad.
鈥淢ae鈥檔 eiconig, mae鈥檔 mynd i fod yn llythrennol yn dwll enfawr,鈥 meddai.
Disgrifiodd Richard John, cynghorydd Ceidwadol lleol y t芒n fel un "erchyll" a "thorcalonnus" wrth iddo ddiolch i'r gwasanaethau brys ar X, sef Twitter yn flaenorol.
Dywedodd Laura Wright, cynghorydd Llafur dros ward Grofield, fod y t芒n yn 鈥渉ollol ddinistriol鈥.
Ychwanegodd ei bod yn ddiolchgar i'r rhai sy'n "gweithio'n galed i gael popeth dan reolaeth a gwneud yn si诺r bod preswylwyr yn ddiogel".
Dywedodd yr AS Ceidwadol dros Ddwyrain De Cymru, Laura Anne Jones, bod y siop wedi'i "ddinistrio" yn y t芒n a bod y perchnogion "yn dorcalonnus".