大象传媒

Carcharu cyn-heddwas am gam-drin merch ifanc

John Stringer Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Clywodd y llys y cafodd John Stringer ei arestio ar 么l i'r ferch siarad gyda chymhorthydd dysgu yn yr ysgol

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-swyddog gyda Heddlu Gwent wedi cael ei ddedfrydu i 10 mlynedd yn y carchar ar 么l i reithgor ei gael yn euog o gam-drin merch dan 13 oed yn rhywiol.

Roedd John Stringer, sy'n 43 oed ac o Gaerdydd, wedi pledio'n ddieuog i bump o gyhuddiadau yn ymwneud 芒'r plentyn.

Ond benderfynodd y rheithgor fis Medi ei fod yn euog o'r holl gyhuddiadau.

Roedd y rheiny yn cynnwys dau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol trwy gyffwrdd, dau gyhuddiad o achosi neu ysgogi plentyn dan 13 i gymryd rhan mewn gweithred rywiol, ac un cyhuddiad o achosi plentyn i wylio gweithred rywiol.

Clywodd y llys fod y ferch wedi dioddef 鈥渘iwed seicolegol difrifol鈥 o ganlyniad i鈥檙 cam-drin.

Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, dywedodd y barnwr fod ymdrechion Stringer i argyhoeddi鈥檙 rheithgor o鈥檌 ddiniweidrwydd yn 鈥渟inigaidd鈥 a鈥檌 fod yn 鈥渞isg uchel i ferched ifanc鈥.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Stringer ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun

Ar 么l ei euogfarn, cafodd Stringer ei ddiswyddo o'r heddlu a'i wahardd rhag bod yn heddwas eto.

Mewn datganiad ar ran y dioddefwr, clywodd y llys fod y gamdriniaeth wedi newid y ferch, gan adael "atgof negyddol, poenus, parhaol o ran fawr o鈥檌 phlentyndod".

Clywodd y llys ei bod wedi meddwl am ladd ei hun, ac wedi ysgrifennu llythyrau at bobl oedd yn agos ati.

Wrth ddedfrydu Stringer, dywedodd y Barnwr Daniel Williams bod y ferch "wedi dweud nad oedd hi eisiau ei wneud [un agwedd o'r cam-drin], ond fe wnaethoch chi ddal ati gan fynnu ei bod hi'n gwneud".

Dywedodd pan gafodd Stringer ei arestio, 鈥渞oedd y gamdriniaeth yn gwaethygu鈥.

Ychwanegodd y Barnwr y bu hi'n 鈥渄orcalonnus鈥 i鈥檙 llys glywed am yr effaith a gafodd y gamdriniaeth ar y ferch.

Dywedodd wrth Stringer: 鈥淩oedd eich statws fel heddwas wedi eich galluogi i guddio鈥檆h cymhellion a鈥檆h troseddu.鈥

Ychwanegodd wrth deulu鈥檙 ferch: 鈥淢ae鈥檔 amlwg i mi ei bod hi鈥檔 ferch garedig, ofalgar, deallus a gonest.

"Mae i鈥檞 chanmol am ei dewrder a鈥檌 gonestrwydd.鈥

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y 大象传媒.