Sir Benfro: Galw am welliannau i reolau TB
- Cyhoeddwyd
Roedd bron i 40% o wartheg Cymru a gafodd eu difa yn ystod y 12 mis diwethaf oherwydd y dici芒u yn dod o Sir Benfro, yn 么l ffigyrau Defra.
Dydd Llun, cafodd Bwrdd TB newydd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i weithio tuag at eu nod o Gymru heb TB erbyn 2041.
Mae dros 32,000 o wartheg wedi cael eu difa oherwydd y dici芒u yn Sir Benfro dros y 10 mlynedd ddiwethaf.
Ond wrth i Sioe Sir Benfro ddechrau, mae cadeirydd NFU Cymru Sir Benfro wedi disgrifio'r sefyllfa fel un "warthus", gan alw unwaith eto am strategaeth gynhwysfawr i ymdrin 芒鈥檙 clefyd.
鈥淵n y 10 mlynedd ddiwethaf, ni wedi bod mewn a mas o TB tua tair gwaith neu bedair gwaith erbyn hyn,鈥 meddai Simon Davies, sy鈥檔 godro 250 o wartheg yn Nhrewilym Uchaf, Eglwyswrw.
鈥淵n Sir Benfro, yn gyfan gwbl, dyw e ddim yn rywbeth sy鈥檔 gwella yn anffodus, mae鈥檙 ffigyrau sydd mas heddi nawr yn dweud hynny.鈥
Yn 么l ffigyrau diweddaraf Defra, dros y 10 mlynedd ddiwethaf, mae mwy na 32,000 o wartheg wedi'u difa oherwydd dici芒u yn Sir Benfro.
Rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024, cafodd 11,197 o wartheg eu difa yng Nghymru oherwydd dici芒u, gyda 4,259 ohonynt - sef 38% - o Sir Benfro.
Roedd hyn yn 3% o gynnydd o gymharu 芒鈥檙 flwyddyn flaenorol.
鈥淢ae鈥檙 ffigwr yn warthus鈥 meddai Mr Davies.
鈥淢ae e wir yn boenus ond dwi ddim yn synnu i ddweud y gwir, achos dwi鈥檔 cael sawl galwad ff么n bob wythnos gan bobl sy鈥檔 teimlo'r straen yma."
Ychwanegodd fod 136 o fuchesi yn Sir Benfro dan gyfyngiadau TB yn Ebrill 2014, o'i gymharu 芒 183 ym mis Mawrth 2024.
鈥淒yw hwnna ddim yn progress nac ydy?鈥 meddai.
Yn 么l trefnwyr Sioe Sir Benfro, mae llai o wartheg wedi cofrestru eleni, er bod niferoedd cofrestru yn y sectorau eraill wedi cynyddu.
Maen nhw鈥檔 amau mai dici芒u yw鈥檙 rheswm am y gostyngiad, er nad oes modd iddynt ddweud hynny'n bendant.
Nod Llywodraeth Cymru yw bod yn wlad heb TB erbyn 2041.
Mewn datganiad, fe ddywedon nhw, eu bod yn cydnabod yr effaith ar y diwydiant.
鈥淩ydym wedi gwrando ar y pryderon a godwyd ynghylch gwahanol agweddau ar TB buchol a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth 芒'r diwydiant.
"Mae hyn yn cynnwys gwaith y Gr诺p Cynghori Technegol sydd newydd ei sefydlu sydd eisoes wedi darparu eu cyngor arbenigol ar bynciau penodol.
鈥淥 ganlyniad, rydym eisoes wedi gwneud dau newid sylweddol i'n dull polisi. Bydd y Bwrdd Rhaglen TB newydd hefyd yn cyfrannu at y gwaith hwn."
Sefyllfa Sir Benfro 'yn wahanol'
Wrth gyfeirio ar y bwrdd newydd a gafodd ei sefydlu ddechrau鈥檙 wythnos, dywedodd Simon Davies ei fod yn gam "positif" ymlaen, er ei fod yn teimlo bod sefyllfa Sir Benfro "yn wahanol".
鈥淣i 鈥榙i cael mwy a mwy o reolau yn erbyn profi gwartheg ac eto ma鈥檙 ffigyrau 'ma yn gwaethygu - mae hynny yn dweud rhywbeth,鈥 meddai.
鈥淢ae鈥檔 rhaid i chi edrych dros Glawdd Offa. Draw yn Lloegr ma' nhw 'di lleihau TB mewn mannau 56%.
"Mae hynny鈥檔 rywbeth y dylai'r Gr诺p Cynghori Technegol edrych arno a symud 鈥榤laen. Rhaid i ni ddysgu鈥檙 gwersi a鈥檙 ffyrdd gorau i daclo鈥檙 clefyd 'ma.鈥
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst
- Cyhoeddwyd15 Chwefror
- Cyhoeddwyd23 Ionawr