Cymry yng nghanol trafferthion Maes Awyr Manceinion
- Cyhoeddwyd
Mae teithwyr o Gymru ymhlith y miloedd sydd wedi wynebu oedi ar 么l i doriad yn y cyflenwad trydan achosi anhrefn ym Maes Awyr Manceinion.
Bu'n rhaid canslo, gohirio a dargyfeirio teithiau ddydd Sul wedi i broblem gyda chebl tanddaearol amharu ar systemau diogelwch a'r system fagiau.
Mae hediadau wedi ailddechrau erbyn hyn ac mae rheolwyr y maes awyr wedi ymddiheuro am y sefyllfa, sydd wedi cael effaith ar hyd at 90,000 o deithwyr.
Ond bydd yn cymryd amser cyn gallu dychwelyd i'r drefn arferol ac mae yna adroddiadau bod bagiau rhai teithwyr heb gael eu llwytho ar eu hawyrennau.
'Fysan ni ar y traeth erbyn r诺an'
Roedd Owain Evans o Benmynydd, Ynys M么n i fod i hedfan gyda'i deulu o Fanceinion i Dubrovnik yn Croatia brynhawn Sul am wythnos o wyliau.
Dywedodd wrth raglen Dros Frecwast eu bod yn pacio pan ffoniodd perthynas iddynt yn holi a oedden nhw'n gwybod am y trafferthion oedd yn datblygu yn y maes awyr.
Yr unig gyngor gan y cwmni gwyliau, meddai, o'u ffonio "i weld be o'dd yn mynd ymlaen [oedd] 'arhoswch adra ar hyn o bryd, gweld be' sy'n mynd i ddigwydd nes ymlaen'."
"Rhyw 11:30 fe benderfynon ni 'wel, waeth i ni ddechra'r gwylia' yn hytrach na rhyw stwna adra'," meddai Mr Evans.
"Aethon ni i fyny i Fanceinion gan obeithio falle 'swn i'n cael galwad yn ystod y p'nawn i fynd i mewn i'r maes awyr, ond ddigwyddodd hynny ddim."
Fe benderfynodd y teulu i wneud y gorau ohoni ac aros mewn gwesty yng nghanol y ddinas.
"'Dan ni yn ardal Castlefields... ddim y dechreuad oeddan ni 'di gobeithio i'r gwylia', wrth gwrs, ond alla' i'm cwyno achos mae'n braf ym Manceinion!"
Daeth neges am 05:30 fore Llun yn rhoi gwybod bod disgwyl iddyn nhw hedfan ddechrau'r prynhawn, ond dywedodd Mr Evans bod hi'n "bechod" eu bod wedi colli noson yn Dubrovnik.
"Fysan ni ar y traeth erbyn r诺an, ma' si诺r. Yn lle hynny dwi'n ista yn fa'ma yn sb茂o ar y gamlas."
Gan fod y teulu wedi trefnu'r llety a'r hediadau ar wah芒n, dydy Mr Evans ddim yn disgwyl gallu hawlio cost aros ym Manceinion nos Sul.
"Gobeithio gawn ni rwbath yn 么l am y flight ond gawn ni weld... ma' 'na betha' mwy sy'n mynd ymlaen yn y byd 'ma na chwyno am golli noson o wylia'."
'Pawb wedi blino a wedi llwgu'
Dywedodd Angharad Rees o Landegla yn Sir Ddinbych ei fod yn "flinedig" yn dilyn taith hirach na'r disgwyl yn 么l adref ddydd Sul ar ddiwedd gwyliau yn Majorca.
Fe gyrhaeddodd adref am 20:00 yn hytrach na 14:00.
Doedd "dim s么n am unrhyw drafferthion", meddai, wrth iddyn nhw gael eu codi o'u gwesty i fynd ar y bws i'r maes awyr fore Sul.
Ffrind wnaeth dynnu ei sylw at y trafferthion ym Manceinion mewn neges yn cynnwys adroddiad newyddion ar wefan y 大象传媒.
Dywedodd bod staff Maes Awyr Palma ddim yn ymwybodol o broblemau 'chwaith wrth iddyn nhw eu holi nhw am y sefyllfa ddiweddaraf.
"Ddoth hi'n amlwg iawn ar 么l rhyw awr, mae ein flight ni yn mynd i gael delay am amser hir.
"Oedd y teithwyr oedd ar ein awyren ni yn eistedd yn yr awyren ym Manceinion ddim yn gallu gadael.
"Nes i'r awyren yna gyrraedd Palma doedd dim s么n amdanon ni yn gallu mynd yn 么l i Fanceinion."
Yn dilyn cyfres o negeseuon ynghylch yr oedi tebygol - "oedd hi'n mynd i fod yn awr, wedyn yn ddwy awr" - fe gyrhaeddodd yr awyren.
Ond bu'n rhaid i'r teithwyr eistedd arni "am gyfnod hir iawn" cyn gallu gadael Palma, ac roedd "pawb wedi blino [ac] yn barod i fynd adre" erbyn hynny.
Roedd pawb "wedi llwgu" hefyd, ond am fod y teithwyr blaenorol wedi gorfod aros cyhyd ar yr awyren "roedden nhw wedi bwyta'r bwyd ac yfed y diodydd i gyd" a doedd dim llawer ar 么l.
Doedd dim trafferth cael eu bagiau'n 么l ar 么l glanio ym Manceinion ac roedd yr ardal gyraeddiadau yn "ddistaw iawn", medd Ms Rees, ond roedd staff "yn rhuthro i drio cael cymaint o bobl allan o Fanceinion oedd wedi dod i mewn o wledydd eraill".
Siaradodd gyda staff cwmni gwyliau a ddywedodd eu bod "yn gyrru awyrennau gwag allan i lefydd fel Palma i ddod 芒 mwy o deithwyr yn 么l i mewn i Fanceinion ond doedd dim posib rhoi teithwyr ar yr awyren oherwydd roedd y system bagio a'r system passport control wedi torri i lawr".
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Maes Awyr Manceinion, Chris Woodroofe ei fod yn ymddiheuro am y sefyllfa a'u bod yn "sicrhau nad yw'r effaith yn parhau" i'r dyddiau nesaf.