大象传媒

Cyn-filwr 103 yn derbyn ei fedalau 80 mlynedd yn ddiweddarach

Basil Smith
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y medalau eu cyflwyno i Basil Smith mewn gwasanaeth arbennig yn Y Tymbl

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Basil Smith o Sir Gaerfyrddin wasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol o 1941-1946.

Er hynny ni dderbyniodd unrhyw fedalau am ei flynyddoedd o wasanaeth.

Ac yntau bellach yn 103 oed cafodd y medalau eu cyflwyno iddo ddydd Llun mewn gwasanaeth yn Y Tymbl - bron i 80 mlynedd ar 么l gadael yr Awyrlu.

Dywedodd Basil ei fod yn teimlo鈥檔 鈥渕or ifanc ag erioed".

鈥淲nes i erioed feddwl dim am gael unrhyw fedalau, doeddwn i ddim yn poeni am gael yr un ohonyn nhw,鈥 meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Basil yn derbyn ei fedalau yn y gwasanaeth gyda Lyndon Davies

Gwasanaethodd Basil Smith o'r Tymbl Uchaf yn yr Awyrlu Brenhinol fel Sarjant yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Gwasanaethodd yn Irac o 1943 ymlaen ac arhosodd yno am weddill y rhyfel.

Yn ddiweddar fe ddywedodd wrth ei gymydog, Lyndon Davies, nad oedd erioed wedi derbyn ei fedalau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Lyndon Davies fod ganddo lot o barch i' rhai sydd wedi gwasanaethu yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Fel cyn-filwr ei hun, cysylltodd Lyndon Davies 芒'r swyddfa fedalau sydd wedi dyfarnu medal rhyfel a medal amddiffyn iddo.

Gwasanaethodd Lyndon Davies yn y lluoedd arfog rhwng 2011-2022. Mae鈥檔 dweud ei bod hi鈥檔 bwysig i gyn-filwyr dderbyn eu medalau.

Meddai: 鈥淵n enwedig i bobl yr Ail Ryfel Byd, mae lot o barch gyda fi atyn nhw. Onibai am y bobl yna efallai byddai鈥檔 bywydau ni wedi bod tipyn yn wahanol i beth yw e nawr.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Basil nad oedd 鈥渆rioed yn disgwyl gwasanaeth o鈥檙 fath鈥

Wedi'i eni ym 1921, mae Mr Smith yn adnabyddus yn y gymuned ac wedi'i ddisgrifio fel tipyn o gymeriad.

Wrth annerch y gynulleidfa yn ystod y seremoni dywedodd nad oedd 鈥渆rioed yn disgwyl gwasanaeth o鈥檙 fath".

"Syrpreis mawr" iddo oedd derbyn neges gan y Brenin yn diolch iddo am ei wasanaeth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Basil Smith a Lyndon Davies yn cyrraedd y capel

Soniodd Basil am ei amser yn gwasanaethu yn Irac ac yn teithio'r Dwyrain Canol.

鈥淩oedden ni wedi ein lleoli tua 60 milltir allan yn yr anialwch. Byddwn yn hedfan mor aml ag y gallwn o Baghdad i Cairo yn cario offer ac yn y blaen.鈥

Yn chwaraewr tennis brwd byddai bob amser yn ceisio chwarae g锚m yn Irac.

鈥淏yddwn i鈥檔 chwarae am 06:00, erbyn 20:00 roedd hi dros 80 gradd, a doeddech chi ddim yn gallu chwarae.鈥

Tan y llynedd roedd yn chwarae tennis yn Abertawe ddwywaith yr wythnos.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y medalau a dderbyniodd Basil Smith

Doedd Basil Smith ddim yn chwennych yr un sylw cyhoeddus meddai ei gymydog, Lyndon Davies.

鈥淥edd e鈥檔 ddigon parod i gael nhw trwy鈥檙 post a rhywun i roi nhw iddo fe鈥檔 dawel yn y t欧.

"Ond o鈥檔 i鈥檔 meddwl bod e鈥檔 haeddu rhwybeth gwell na hynna gan ei fod 'di aros mor hir i gael nhw.

鈥淎r 么l yr holl amser hwn ac wrth ystyried oedran anhygoel Mr Smith, mae鈥檔 anhygoel y bydd nawr yn derbyn y medalau y mae鈥檔 eu haeddu am ei wasanaeth i鈥檔 gwlad,鈥 ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig