Un o gymeriadau mawr Pobol y Cwm yn ei 么l - 25 mlynedd ers ei angladd
- Cyhoeddwyd
Mae un o gymeriadau mwyaf cofiadwy opera sebon Pobol y Cwm wedi dychwelyd i'r gyfres - chwarter canrif ers ei angladd.
Cafodd gwylwyr S4C gipolwg annisgwyl o Dyff Jones ar goridor ward ysbyty nos Fawrth.
Does neb wedi gweld Dyff - sy'n cael ei chwarae gan yr actor Dewi Rhys - ers i'w angladd gael ei gynnal 'n么l yn y flwyddyn 2000.
Yr unig beth ddywedodd Dyff wrth gymeriad Cassie cyn i'r bennod orffen oedd: "O'n i methu cadw draw, Cass."
Ddydd Mercher, mae'r opera sebon yn cyrraedd carreg filltir arbennig wrth ddathlu hanner can mlynedd o fod ar yr awyr.
Mae Dyff Jones yn un o gymeriadau mwyaf eiconig y gyfres, yn gyn-诺r i Kath Jones ac yn dad i Stacey a Mark.
'N么l yn 2000 roedd pawb yn credu fod Dyff wedi marw ar 么l i'r dihiryn Frank Price ymosod arno.
Cafodd cymeriad Price ei arestio yn dilyn yr ymosodiad, ond bu farw Dyff o'i anafiadau bythefnos yn ddiweddarach.
Wrth siarad 芒 Cymru Fyw cyn darlledu'r bennod nos Fawrth, dywedodd Dewi Rhys: "Ydi, mae Dyff yn 么l, ond ble mae o wedi bod ac am ba hyd fydd o yma? Fydd rhaid i chi barhau i wylio."
Pobol y Cwm - a gafodd ei darlledu gyntaf yn 1974 - yw'r opera sebon fwyaf hirhoedlog yn y Gymraeg.
Bydd cyfweliad estynedig gyda'r actor Dewi Rhys ar 大象传媒 Cymru Fyw fore Iau
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd14 Hydref
- Cyhoeddwyd15 Hydref