Dedfrydu dyn am gael 'lluniau anweddus eithafol' o anifeiliaid
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a gafodd ei ddal gyda phornograffi eithafol o anifeiliaid - gan gynnwys crwban dd诺r - wedi cael dedfryd o chwe mis o garchar wedi ei gohirio.
Fe wnaeth James Owen, 30 o Lanfechell ger Amlwch, hefyd bledio'n euog i gael llun anweddus o ferch ifanc, a oedd yn y categori mwyaf difrifol o gam-drin plant.
Dywedodd Owen fod y pornograffi anifeiliaid eithafol wedi ei yrru ato fel "j么c" ac roedd yn mynnu nad oedd wedi gweld llun o'r ferch yn cael ei cham-drin.
Yn ogystal 芒 dedfryd o garchar wedi ei gohirio am 18 mis, mae disgwyl iddo gwblhau 100 awr o waith di-d芒l, meddai Llys y Goron Caernarfon, a oedd yn cael ei gynnal yn Llandudno.
- Cyhoeddwyd19 Medi
Fe glywodd yr achos yn Llys y Goron Caernarfon, a oedd yn cael ei gynnal yn Llandudno, fod Owen wedi cael ei arestio yn Hydref 2022 yn ei gartref, yn dilyn ymchwiliad i bedoffeil o'r enw Craig Lewis.
Dywedodd yr erlynydd, Richard Edwards fod Lewis ynghlwm 芒 cham-drin plant a thynnu lluniau ohonyn nhw i rannu ag eraill.
Fe wnaeth Heddlu'r Met ganfod tystiolaeth o sgwrs ar-lein rhwng Lewis ac Owen, a arweiniodd at arestio Owen.
Fe wnaeth swyddogion ganfod un llun o'r ferch ifanc, a oedd rhwng wyth a 10 oed, yn cael ei cham-drin ar y ff么n.
Fe wnaethon nhw ddarganfod lluniau fideo o'r pornograffi eithafol, a oedd yn dangos gweithredoedd rhyw gyda cheffyl, ci a chrwban.
"Dywedodd fod y lluniau pornograffi eithafol wedi eu gyrru ato fel j么c ac nad oedd wedi sylwi eu bod yn erbyn y gyfraith," meddai ei erlynydd.
Fe glywodd y llys fod yr hyn yr oedd Owen wedi chwilio amdano ar y we yn ddiweddar yn awgrymu fod ganddo ddiddordeb rhywiol mewn plant.
Fe wnaeth Owen bledio'n euog i'r ddau drosedd mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Caernarfon fis Medi.
Dywedodd Sion ap Mihangel, ei ddiffynnydd, fod Owen wedi dangos edifeirwch gwirioneddol i'w weithredoedd, ac yn teimlo'n "cywilydd".
Clywodd y llys fod alcohol wedi chwarae rhan yn ei droseddu, a'i fod wedi bod yn mynychu sesiynau adsefydlu (rehab) i daclo'r broblem.
Dywedodd y barnwr Timothy Petts wrth Owen fod ei droseddau yn "amlwg yn ddifrifol".
Ond dywedodd nad oes 'na risg uchel o ail-droseddu.
Yn ogystal 芒'r ddedfryd o garchar wedi ei gohirio a'r gwaith di-d芒l, bydd yn rhaid i Owen gael triniaeth alcohol am chwe mis, a 45 diwrnod o waith adsefydlu.
Bydd hefyd yn gorfod cofrestru fel troseddwr rhyw am saith mlynedd.