Difa ci wedi cyfres o ymosodiadau ym M么n
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi gorchymyn i gi tebyg i un tarw Americanaidd gael ei ddifa ac wedi rhoi dedfryd o wyth mis o garchar wedi'i ohirio i'w berchennog ar 么l cyfres o ymosodiadau ar Ynys M么n.
Cafodd y ci o'r enw Loki ei ddisgrifio fel ci ifanc "annwyl" gan y perchennog Jamie Wilson.
Ond clywodd Llys y Goron Caernarfon, oedd yn eistedd yn Llandudno, sut y gwnaeth y ci frathu tri o bobl mewn tri ymosodiad gwahanol dros gyfnod o saith mis yn 2023.
Dywedodd y Barnwr Timothy Petts ei bod yn amlwg bod Wilson, 35 oed, wedi methu 芒 hyfforddi鈥檙 ci, ac nad oedd ganddo ddewis ond gorchymyn difa'r anifail.
Clywodd y llys fod Wilson yn adnabod pob un o鈥檙 dioddefwyr ac yr oedd dau o鈥檙 ymosodiadau wedi digwydd yn ei gartref yng Nghaergybi.
Pan gafodd ei holi gan yr heddlu am y digwyddiadau, derbyniodd Wilson mai ef oedd y perchennog ac mai ei gi ef oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau.
Plediodd yn euog ym mis Awst yn Llys Ynadon Llandudno i dri chyhuddiad o fod yn berchen ar gi peryglus allan o reolaeth oedd wedi achosi anafiadau.
'Ddim wedi hyfforddi'r ci yn iawn'
Wrth amddiffyn Wilson, dywedodd Rosemary Proctor fod y diffynnydd yn 鈥渨irioneddol edifar鈥 am yr hyn a ddigwyddodd, a鈥檌 fod wedi ymddiheuro鈥檔 bersonol i鈥檙 holl ddioddefwyr.
"Doedd e ddim yn bwriadu achosi unrhyw niwed i un o'r dioddefwyr," meddai.
Fodd bynnag, wrth ddedfrydu Wilson, dywedodd y Barnwr Timothy Petts ei bod yn ymddangos nad oedd Wilson yn deall pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa.
"Dydych chi ddim wedi hyfforddi'r ci yn iawn a dydy e ddim yn gwybod sut i ymddwyn," meddai'r Barnwr Petts.
Dywedodd fod yr ymosodiadau cyson yn golygu nad oedd dewis arall ond gorchymyn difa'r ci.
Yn ogystal 芒 dedfryd o garchar gohiriedig o wyth mis cafodd Wilson ei orchymyn i wneud 150 awr o waith di-d芒l a bydd yn gorfod ufuddhau i amodau cyrffyw am 90 diwrnod.
Cafodd hefyd ei wahardd rhag bod yn berchen ar gi am y pum mlynedd nesaf.